Dyma e-gylchgrawn newydd sbon, gyda’r bwriad o gynnig llwyfan newydd i lenyddiaeth yn y Gymraeg, gan gyhoeddi rhyddiaith, barddoniaeth, erthyglau, cyfweliadau, adolygiadau a mwy.
Cymerwch gipolwg ar addunedau’r pedwar golygydd yn y fan hon.
Ynghyd â chyhoeddi ar y wefan, bwriadwn hefyd gyhoeddi tri rhifyn PDF i’w lawrlwytho yn ystod y flwyddyn, ym misoedd:
-
Mawrth
-
Awst
-
Rhagfyr
Mi fydd hefyd nifer cyfyngedig o gopiau print ar gael.
Os oes gennych rywbeth i gyfrannu, gwnewch!
Cysylltwch: golygyddion.ystamp@gmail.com