- Y Stamp
Adolygiad: Dŵr yn yr Afon - Heiddwen Tomos

(o Y STAMP: Rhifyn 2 - Haf 2017)
Nofel wledig yw Dŵr yn yr Afon, ac mae’r cerrig, pob un y tybiech eu bod yn gadarn yn eu lle, yn slic ac yn eich gwthio i’r dyfnderoedd. Ymdrinia’r nofel hon â themâu tywyll – colled, iselder, camdrin domestig a theulu ar chwâl – a hynny mewn tafodiaith afieithus sydd eisoes wedi plesio’i darllenwyr.
Er bod gan Heiddwen Tomos ddawn wrth gymeriadu, roedd yna ormod ohonynt. Er i hiwmor diniwed Ned y gwas a’i garwriaeth gyda Nerys Myfanwy sticio yn y cof, roedd e’n taro’n od rhwng y golygfeydd tywyllach. Gwibia’r awdures o un pegwn emosiynol i’r llall, heb fan canol.
Ar y pegwn eithaf, roedd pytiau o ddyddiaduron Rosa – gan weld ei galar yn ei meddiannu’n araf bach – yn pontio ysbrydion y gorffennol a digwyddiadau’r presennol yn effeithiol ac yn deimladwy. Roedd perthynas tadol Morgan gyda Han, ei ferch yng nghyfraith, hefyd yn drawiadol.
Amhosib yw peidio â chymharu gwaith Heiddwen Tomos gyda gwaith Caryl Lewis; ond teimlaf bod rhychwant y profiad gwledig yn ehangach yma. Manylion bach – megis hen ddyn yn methu chargio’i ffon symudol a Rhys ar ei Ipad ger y Rayburn – sy’n lliwio’r llun.
Gobeithiaf weld yr awdures yn mentro eto i ddarlunio’r byd gwledig sydd yn amlwg mor gyfarwydd iddi, ond gan ganolbwyntio ar y lleddf neu’r llon, yn hytrach na chymysgedd o’r ddau.
Gomer - £7.99