- golygyddionystamp
RHIFYN: Y STAMP #5 - Haf 2018
Foneddigion, a boneddigesau, dewch a'ch dwylo ynghyd a rhowch fonllefau i groesawy rhifyn diweddara'r Stamp i'r byd!
Rhifyn #5- Y THEATR ynghyd â detholiad o ddrama Morgan Owen, sef y gwaith a ddaeth yn ail am fedal ddrama eisteddfod yr urdd eleni. Hwn ydi ein rhifyn THEATR- rhifyn yn llawr sgyrsiau, syniadau, rants a chyfrinachau o fyd y theatr yng Nghymru heddiw.
Ac yn yr ysbryd theatrig hwnnw, dyma ei lansio mewn digwyddiad ar faes yr eisteddfod yng

Llên Llŷn, Pwllheli
Palas Prints, Caernarfon
Siop yr Hen Bost, Blaenau Ffestiniog
Awen Meirion, Bala
Siop Inc, Aberystwyth
Siop y Pentan, Caerfyrddin
Cant a Mil, Caerdydd
Diolch i’r llyfrwerthwyr hynod am ein croesawu i’w siopau hyfryd. A dydw i ddim yn golygu hynny yn y synnwyr trosiadol, ond yn llythrennol, gan i Grug ac Iestyn, dau o’r golygydds fynd ar siwrne enbyd un bore Sadwrn, o Gaernarfon i Gaerdydd heibio i bob siop lyfre (wel, bron) yn dosbarthu copïau. Mi wnaethpwyd hi o Gaernarfon i Gaerfyrddin cyn amser cau, gan fethu dal Cant a Mil tan y dydd Llun- ond fe gafwyd pob copi i’w le yn saff.