• Llŷr Titus

Ysgrif: Cegin yr Hafau Coll- Heather Williams

Mae bwyd yn gallu sbarduno'r cof ac mae rhai prydau'n gysylltiedig â llefydd ac amseroedd penodol iawn, mae Heather Williams yn trafod hynny mewn rhysáit arbennig o Gegin yr Hafau Coll.

Cyrhaeddais innau ddiwrnod cyn y wledd, yn ystod sychder maith 2019 ac wedi bwlch o ugain mlynedd. Cressy-sur-Somme, ble roedd y glaswellt yn crensian, madfallod y mur yn torheulo a miswig melyn y cricsyn a’r sioncyn yn fêl i’r glust. Ac yn cysgodi rhag y gwres mawr roedd pobl wrthi’n ddiwyd yn plicio, torri, golchi, sychu, tacluso.

‘Oes rhywbeth alla i wneud?’ mentrais.

‘Wyt ti’n cofio sut i wneud cwscws fy Mamgu?’ gofynnodd y briodferch yn obeithiol.

Camu i gegin Cressy ac mae’r degawdau’n dadmer. Ei Mamgu, Bâtie, yr un a’n siarsiai i yfed dŵr, llawer iawn o ddŵr, drwy hafau hir y nawdegau. Bâtie, y wraig a’m gyrrai yn ei chatrel (Renault 4L) bach sgrytlyd rhydlyd i dref fach Bourbon i nôl bwyd, ac a'm cynghorodd, wrth inni fownsio ar hyd lonydd perfeddwlad Ffrainc, i sgubo Camus a Sartre o’r neilltu er mwyn gosod Proust yn eu lle. Proust y brawddegau cadwynog a fyddai’n bwrw ei weledigaeth fel rhwyd amdanaf yn y man gan fy hudo i fyw yn ei ieithwedd troad y ganrif, a blasu’r madeleine a’r tisane a allai ddeffro hafau coll.

Ond doedd gan Bâtie mo’r amynedd i dynnu croen y tomatos meddai hi. ‘Dyna’r ffordd gywir chi’n gweld...’, ceisio caniatâd ei phrentis newydd cyn torri’r rheolau. Mewn â nhw i’r dŵr berwedig am funud yn unig, yna mas â nhw’n syth. Llithro’r wisg oddi ar gnawd gwlanog bob un cyn gwaredu ei hadau a thorri’r gweddillion yn fân. Dim ond bod ei disgybl o dramor yn deall y ffordd gywir o baratoi taboulé, y clasur o Syria a ledodd ar draws y Lefant gan amrywio’i gynnwys o bersli a gwenith bulgur i gofleidio tomatos o’r Byd Newydd, a chyfnewid cwscws am fulgur yn fersiwn y Maghreb. Dyma’r rysáit.

Tomates. Fel uchod.

Ciboulette. Der â llond llaw a mwy o gennin syfi. Rywle tu ôl i’r cyrens cochion, rhaid troi wrth dalcen y stablau, ble mae’r pêches de vigne, mae’r giât wedi rhydu, meddai hi. Tra wyt ti yno, edrych a ydy’r ffrwythau’n barod eto! Roedd y ffrwythau yn wyrth o ffresni a’u sfferau o sudd yn barod i’w troi’n jariau sgleiniog coch. Bob haf byddai rhes o jariau fel cadwyn o emwaith yn gwenu wrth ichi agor drws y cwpwrdd.

Menthe. Wyt ti’n cofio’r ffordd i’r llyn? Trwy’r bwlch yn yr ywen, dilyn y ffordd i fyny cyn belled â’r fferm, ie, y ffordd ble fyddwn ni’n caslgu mwyar duon, troi pan ddei di at y coed cwins. Na, fydd rheiny ddim yn barod eto. Ond fe wnawn ni pâte de fruits ddiwedd yr haf. Wrth ymyl y llyn fe weli di’r mintys gwyllt, der â digonedd yn ôl i’r tŷ. Gallwn gadw peth mewn jar o ddŵr yn y selar.

Persil. Mewn pot mawr wrth ymyl drws y gegin. Yr un ar y chwith, a cer â’r jwg yna’n llawn o ddŵr tra mod i’n cofio. Torra swp gyda’r gyllell sydd yn y drâr garddio draw fynna.

Torri’r cyfan yn fân, fân, a’i ychwanegu at lond bowlen o gwscws a thomatos. Troi. Rhoi’r cwbl yn y selar a gadael i’r gronynnau amsugno’r lemwn a’r olew o olwg yr haul.

Doedd fawr ddim wedi newid yng ngegin Cressy yn 2019. Y bleinds pren trwm ynghau a’r ffenestri ar agor yn erbyn y gwres mawr. Neb i fentro allan o’r tŷ rhwng 12 a 4. Gwenyn meirch yn cylchu’n fygythiol. A’r cricsyn a’r sioncyn yn gyfeiliant i’r cyfan.

Nawr, os caeaf fy llygaid wrth flasu taboulé Bâtie a theimlo’r lemon sur, y mintys byw a’r tomato’n sioc ar fy nhafod, dim ond eisiau ychwanegu cwpanaid o heulwen sydd, ac mae melyn y blynyddoedd yn llifo drosta i fel ton.

#ysgrif #misbwyd #bwyd #HeatherWilliams

5 views

Menter gydweithredol a redir yn wirfoddol yw Cylchgrawn Y Stamp, gyda'r bwriad o gynnig llwyfan i leisiau newydd a sefydledig ym mhob cyfrwng creadigol. Gwasg anibynnol newydd yw Cyhoeddiadau'r Stamp. Rydym yn gwerthfawrogi unrhyw roddion all ein gelpu i gyflawni'r nodau a osodwyd yn ein maniffesto. Os hoffech roi arian tuag at elfen benodol o'n gwaith, nodwch hynny yn eich sylwadau wrth yrru'r rhodd.

© 2020 gan Y STAMP. 

  • w-facebook
  • Twitter Clean