• Iestyn Tyne

Profiadau: Beirdd ar Daith - Ifor ap Glyn, Judith Musker Turner, Eurig Salisbury, Grug Muse

Mi fydd llawer o lenorion, ar ryw adeg yn ystod eu gyrfaoedd, yn derbyn gwahoddiad i fynd â'u gwaith y tu hwnt i ffiniau eu gwlad fach eu hunain; i berfformio i gynulleidfa hollol newydd mewn gwlad ddiarth ag iddi ei hiaith a'i thraddodiad llenyddol ei hun. Bydd yn brofiad gwefreiddiol iddynt, yn aml iawn; ond nid yw'n un sydd heb ei heriau chwaith. Gall diffyg iaith gyffredin rhwng y perfformiwr a'i gynulleidfa fod yn brofiad rhwystredig o'r ddau safbwynt, ond gall hynny yn ei dro esgor ar ffyrdd newydd a chreadigol o drosglwyddo ystyr i'r gwrandäwr neu'r gwyliwr.

Ar gyfer Mis Cyfieithu gwefan Y Stamp yma ofyn i bedwar bardd sydd wedi teithio dramor yn rhinwedd eu gwaith creadigol i roi cip ar eu profiad o berfformio eu gwaith i gynulleidfaoedd di-Gymraeg.

Ifor ap Glyn

Llun: Ifor yn perfformio yn y Chengdu 2nd International Poetry Week, Chengdu, Tsieina

Pam perfformio barddoniaeth mewn iaith nad yw'r gynulleidfa'n ei deall? Oherwydd mai 'this is my truth...'

Ble bynnag yr af, cyflwynaf fy ngherddi yn Gymraeg yn unig. Byddaf wedi ymorol hefo'r trefnwyr o flaen llaw fod modd darparu cyfieithiad ohonynt, wedi ei daflunio ar sgrin y tu ôl i mi, neu ar daflenni papur. Gan amlaf, yn Saesneg y bydd y cyfieithiadau hynny a Saesneg fydd cyfrwng unrhyw ragymadroddi neu gyflwyniadau gennyf innau — er y ceisiaf gychwyn a chloi hefo brawddeg o leiaf o'r iaith leol.

Dim ond unwaith ydw i wedi perfformio dramor yn gyfan gwbl drwy gyfrwng y Gymraeg, a hynny yn Poznan, diolch i'r Bwyles ryfeddol Marta Listewnik. Roedd hi wedi cyfieithu dwsin o'm cerddi o flaen llaw, ac yna ar y noson, cyfieithodd fy nghyflwyniadau ar y pryd. Dro arall, gan fod crap eithaf gennyf ar yr Almaeneg a'r Wyddeleg, dwi wedi ceisio defnyddio mwy o'r ieithoedd hynny wrth gyflwyno fy hun. Gwnes 'sbot' unwaith yn Belfast yn gyfan gwbl drwy'r Wyddeleg - profiad eitha brawychus!

Peth braf wrth fynd â'ch gwaith i wlad arall, yw'r cyfle i weithio hefo cyfieithydd o'r wlad honno i sicrhau fod detholiad o'ch waith ar gael yn hytrach na cherdd neu ddwy yn unig. Gyda Vytautas Stankus yn Lithwania, a Protus Efange yn Camerŵn roedd hyn yn golygu cyfieithu o gyfieithiadau Saesneg, ond gyda Phillip R. Davies a David Miranda Barreiro (Galiseg) a Dani Schlick (Almaeneg), gweithio o'r iaith wreiddiol oeddynt.

Ond os mai 'this is my truth...' yw'r ysgogiad dros rannu cerddi Cymraeg, mae'n bwysig cofio'r ail gymal: '...now tell me yours'. Braint yw clywed gwaith mewn ieithoedd eraill mewn gwyliau tramor - a byddai'n braf clywed mwy yma yng Nghymru, a'i gyfryngu drwy gyfieithiadau i'r Gymraeg ac i'r Saesneg fel ei gilydd. Mae gwaith i'r cyfeiriad hwn yn digwydd eisoes dan ofal Cyfnewidfa Lên Cymru a Llenyddiaeth ar draws ffiniau, ond melys moes mwy. Efallai y dylai beirdd chwilio am gyfleon i wneud cyfieithu'n rhan o'u hymarfer eu hunain, heb aros anogaeth eraill...

Rhaid i'r Gymraeg fod yn rhan o ddeialog rhyngwladol - rhaid iddi ymateb i 'wirioneddau' mewn ieithoedd eraill, yn ogystal a chyhoeddi ein 'gwirioneddau' ein hunain. Ac mae'n bwysig lleoli'r Gymraeg fel iaith sofran yn y cyd-destun ehangaf posib; nid fel 'un o'r ieithoedd Celtaidd' neu un o 'ieithoedd lleiafrifol Ewrop' yn unig. Ei llusgo o'r ymylon, i ganol y llwyfan. A chamu o'r cysgodion ein hunain wrth wneud. Nid yw'r Gymraeg yn ymylol i'n hamgyffrediad ni o'r byd, felly pam bodloni ar gael ein portreadu felly?

Ac wrth gwrs, nid athrawiaeth ar gyfer tripiau tramor a chyfathrach rhyngwladol yn unig mo hyn, mae'n llawn mor berthnasol (yn bwysicach o bosib) o fewn ein gwlad ein hunain. Dwi wedi croesawu'r cyfleon sydd yn codi'n amlach amlach y dyddiau hyn, i rannu cerddi Cymraeg mewn digwyddiadau dwyieithog o Gaergybi i Gaerwys, o Lanelli i Langynidr. Curwch, ac fe agorir i chwi!

Fel beirdd, mae gennym gyfle i normaleiddio'r iaith mewn sawl cyd-destun posib (i'r graddau mae iaith cerdd yn normal yn y lle cynta!) Oherwydd gyda barddoniaeth, i raddau mwy na hefo rhyddiaith neu'r ddrama, mae'r cyfrwng a'r meddwl yn un. Mae'n gallu ein diffinio a'n 'di-ffinio' - am mai pobl Cymru biau ein cerddi a'n caneuon - waeth pa mor gryf neu wan yw eu crap ar yr iaith.

-----

Judith Musker Turner

Llun: Gwaith Judith mewn arddangosfa yng Ngŵyl Suns Europe

I fi, perfformio barddoniaeth yw’r weithred fwriadol o glymu cerdd, sef gwrthrych haniaethol wedi’i ffurfio o eiriau, yn sownd wrth amser a gofod, a thrwy hynny greu profiad. Mae’n weithred greadigol ynddo’i hun, ac mae lan i’r bardd a’r gynulleidfa i benderfynu i ba raddau y mae’r perfformiad yn dwysáu ystyr y gerdd, neu’r gerdd yn dwysáu profiad y perfformiad. Yn hynny o beth, yn hytrach nag ystyried perfformio yng Nghymraeg i gynulleidfa ddi-Gymraeg fel problem, neu fel gweithred ddibwrpas, i fi mae’n cynnig gofod creadigol cyffrous a diddorol. Wrth gwrs, mae’n bwysig ystyried sut i wneud perfformiad yn hygyrch i’r gynulleidfa – boed hynny trwy ddarparu isdeitlau, cyfieithiadau neu esboniadau mewn iaith y maent yn ei deall, neu drwy ddefnyddio cyfrwng sydd ddim yn ddibynnol ar iaith yn unig: rydym wedi arfer gwerthfawrogi caneuon mewn ieithoedd nad ydym yn eu deall, er enghraifft, lle mae’r gerddoriaeth yn gallu cyfleu ystyr ynghyd â’r geiriau.

Yn bersonol, rwyf wastad wedi fy nghyffroi gan botensial tecstiliau fel cyfrwng mynegiannol. Mae tecstiliau’n gyfrwng sy’n dibynnu ar y synnwyr o gyffwrdd yn bennaf, ac mae’r synnwyr o gyffwrdd â pherthynas sylfaenol â’n profiad ymgorfforol (embodied) o fodoli. Yn fy marn i, mae’n gyfrwng sy’n cydweddu’n dda â pherfformiad byw felly, a dwi’n mwynhau arbrofi gyda sut y gellir defnyddio tecstiliau fel rhan o berfformiad barddol, yn enwedig i amlygu ac archwilio’r agweddau ymgorfforol o berfformio cerddi.

Yn ddiweddar, ces i wahoddiad i gyd-arddangos a pherfformio yn Suns Europe, gŵyl Ewropeaidd y celfyddydau perfformio mewn ieithoedd lleiafrifol, gyda dau artist o’r gydweithfa Sottane Poetiche, Lussia di Uanis a Paola Gariboldi. Mae Sottane Poetiche yn grŵp o fenywod sy’n gwnïo cerddi ar beisiau mewn Eidaleg a Ffriŵleg, sef iaith leiafrifol yng ngogledd ddwyrain yr Eidal gyda thua’r un nifer o siaradwyr â’r Gymraeg. Fe wnaethom ni gyd-ysgrifennu a brodio cerddi yn Gymraeg a Ffriŵleg ar decstiliau ein gilydd, ynghyd â’u perfformio a sgwrsio gyda’r gynulleidfa. Cawson ni drafodaeth fywiog er gwaetha’r rhwystrau iaith, a darparodd y cysondebau rhwng fy ngwaith i a gwaith Sottane Poetiche bont i’r gynulleidfa cael mynediad at y cerddi Cymraeg. Yn sicr, er nad oeddwn i’n gallu sgwrsio’n hawdd iawn gyda Lussia a Paola, roeddem yn gallu cyfathrebu ar lefel ystyrlon iawn trwy gyffwrdd, yn llythrennol, â cherddi’n gilydd. Cynigai’r profiad o berfformio i gynulleidfa o gefndir diwylliannol gwahanol fewnwelediadau newydd i fy ngwaith fy hun – er enghraifft, roeddwn i wrth fy modd gyda disgrifiad aelod o’r gynulleidfa Ffriwlaidd o fy mhroses o wnïo cerddi fel ‘rapio araf iawn’.

-----

Eurig Salisbury

O dro i dro, mi fydda’ i’n cael gwahoddiad i gymryd rhan mewn digwyddiad lle nad yw trwch y gynulleidfa’n medru Cymraeg. Digwyddiadau tramor ydyn nhw fel arfer – gwyliau llenyddol, taith i hyrwyddo llyfr, gweithdy cyfieithu – ond mae’n digwydd yng Nghymru hefyd weithiau ac, yn llai aml, yn yr Alban ac yn Lloegr.

Ni waeth ble na chwaith beth yw’r achlysur, mi fydda’ i’n teimlo bob tro fel cyw llysgennad. Siawns gen i fod pawb sy’n sgwennu mewn iaith leiafrifol yn teimlo’r un fath, i ryw raddau, ond efallai ei fod yn fwy o beth i siaradwyr Cymraeg, a’r rhan fwyaf ohonom yn byw yng nghesail yr iaith fwyaf pwerus ar y ddaear. A styried amlygrwydd Lloegr ar y llwyfan rhyngwladol – yn ei gwisg ffansi Prydeinig – rhaid achub ar bob cyfle i ddatgan ein bod ni a’n hiaith yma – ‘yes, that’s right, stuck to England, but a different country …’

Dwi’n rhyw ddisgwyl bob tro na fydd y rheini y bydda’ i’n cwrdd â nhw’n gwybod rhyw lawer am Gymru nac am y Gymraeg, ac mae hynny’n wir yn aml. Ond nid bob tro, a dwi’n synnu weithiau cymaint y mae rhai’n ei wybod amdanon ni ac, yn fwy na dim, cymaint mwy y maen nhw eisiau’i wybod hefyd. Maen nhw wrth eu bodd yn clywed yr iaith, ac nid mewn ffordd ffug a nawddoglyd, ond â chwilfrydedd mawr a meddwl agored, fel sy’n naturiol mewn gwyliau llenyddol rhyngwladol, amlieithog. Dyna un rheswm pam y bydda’ i bob tro’n teimlo’n gyfforddus pan fydda’ i’n siarad neu’n darllen Cymraeg o flaen cynulleidfa ddi-Gymraeg. Dwi’n gwybod o brofiad y bydd y rhai â’r diddordeb lleiaf, hyd yn oed, yn medru mwynhau clywed iaith ddieithr.

Flynyddoedd lawer yn ôl, fe dreuliais i dridiau mewn gŵyl ym Monfalcone, tref yng ngogledd yr Eidal, yn gwrando ar gerddi’n cael eu darllen gan feirdd o bob cwr o Ewrop. Wnes i ddim deall fawr mwy na rhyw hanner dwsin o eiriau, ond do’n i ddim yn poeni rhyw lawer am hynny. Roedd mwynhad mawr i’w gael o wrando’r geiriau ac o ddilyn yn reddfol berfformiadau’r beirdd ar y llwyfan. Mae pen draw i’r math hwnnw o fwynhau, wrth gwrs, ond roedd o’r hyn lleiaf yn agoriad llygad i’r hyn y gall cerdd ei gyflawni.

Mae seiniau ieithoedd eraill, yn arbennig pan ydyn nhw wedi’u saernïo’n farddoniaeth, yn gynhenid hardd. Gorau oll os bydd y bardd neu rywun arall yn medru cyfleu – yn Gymraeg neu yn Saesneg, yn fy achos i – rywfaint o ystyr cerdd neu roi cyd-destun ehangach iddi. Ond mewn digwyddiadau sy’n dod ag amrywiaeth o ieithoedd a diwylliannau ynghyd ar lwyfan, y gwir amdani yn y pen draw yw mai profiad clywadwy’n unig a gaiff y rhan fwyaf o wrandawyr. Profiad anghyflawn yw hwnnw, o raid, ond nid di-fudd.

Yn achos iaith leiafrifol fel y Gymraeg, bydd yr iaith yn gwbl ddieithr i’r rhan fwyaf o’r gynulleidfa, ac ni all y rhagymadrodd mwyaf medrus ddod yn agos iawn at gyfleu’r profiad y bydd rhywun sy’n medru’r iaith yn ei gael wrth wrando’r gerdd. Yr unig beth sydd ar ôl, yn y pen draw, yw’r sain.

Am y rheswm hwnnw, dwi’n rhyw amau fy mod i’n aml yn berfformiwr gwell mewn digwyddiadau fel hyn, lle nad oes neb yn medru deall y geiriau Cymraeg! Mae’n deimlad tebyg i ddarllen cerdd yn uchel ar fy mhen fy hun yn y stafell fyw adref, a neb yno i dynnu fy sylw oddi wrth y geiriau. Does dim angen poeni am y nerfusrwydd sy’n medru codi mewn stomp, er enghraifft, yn sgil gwybod fod y gynulleidfa, hyd yn oed os nad yw pawb yn gwrando’n astud, yn medru deall pob gair. Ar lwyfannau ym Monfalcone, yng Ngholkata ac yn Nairobi, ro’n i’n mynd i hwyl wrth ddarllen yn Gymraeg, ac yn mwynhau clecian yn llafar holl gyfatebiaethau ac odlau’r gynghanedd – gan ofalu peidio â’i gor-wneud hi hefyd – yn syml am fod y perfformiad ei hun yn bwysicach yno.

Mater mymryn yn wahanol wedyn yw darllen cerdd facaronig ac ynddi rannau mewn iaith fwyafrifol y gall llawer yn y gynulleidfa ei deall. Mae hynny’n agor drws go fawr i’r gwrandawyr ac yn eu galluogi i ddeall o leiaf ran o ystyr y gerdd. Am y rheswm hwnnw, un o’r cerddi sy wedi teithio bellaf gen i yw ‘Pa Ŵr yw’r Bownser?’, cyfres o englynion sy’n cynnwys rhai rhannau Saesneg ac sy’n barodi o fath ar hen gerdd Arthuraidd yn Llyfr Du Caerfyrddin.

Cystal nodi nad i ddiddanu cynulleidfaoedd di-Gymraeg yn benodol y lluniais i’r gerdd yn y lle cyntaf, ac fy mod i, mewn gwirionedd, yn reddfol ddrwgdybus o’r arfer, am ei bod yn teimlo fel pe bai’r iaith leiafrifol yn ildio rhywbeth i’r llall. Ond pan daeth yn amser imi ddarllen cerdd o flaen cynulleidfaoedd brwdfrydig yng Ngherala, yn St Andrews ac yn y Gelli Gandryll, ro’n i’n falch iawn ohoni. Wedi’r cyfan, cerdd Gymraeg yw hi yn y pen draw, a rhaid medru’r iaith er mwyn ei deall a’i mwynhau yn ei chyfanrwydd. Eto i gyd, gall y math hwnnw o gerdd facaronig – cyfaddawd o fath, ar un ystyr – fod yn ddefnyddiol iawn fel diddanwch sy’n codi pont at ystyr.

Wrth imi ddarllen fy ngherddi yn y Gelli, a hynny fel adloniant diwedd gwledd – yn y castell, wrth gwrs! – i griw o bobl oedd wedi bod yn mwynhau arlwy’r ŵyl enwog, fedrwn i ddim peidio â dwyn Guto’r Glyn i gof. Cerddi i uchelwyr gwleddgar o Gymry’r oedd Guto’n eu canu, wrth reswm, ond mae ’na ddau gofnod wedi goroesi hefyd sy’n dangos i’r hen fardd a chydymaith o delynor o’r enw Walter Harper – Gwallter Delynor, o bosib – gael eu talu am eu gwaith fel ‘ministralles principis’, sef ‘beirdd y tywysog’. Yn Amwythig, un arall o drefi’r gororau, y digwyddodd hynny, y tro cyntaf yn 1476–7 a’r eildro flwyddyn yn ddiweddarach, a’r tywysog oedd Edward, mab y brenin Edward IV. Does wybod a oedd Guto’n medru canu cerddi yn Saesneg, ac nid yw’n amhosib mai canu cerddi Cymraeg a wnaeth i ddiddanu’r bachgen ifanc o dywysog a’i osgordd. Gwnaeth imi feddwl, y noson honno yn y castell, tybed a yw’r math hwn o beth wedi digwydd erioed?

-----

Grug Muse

Mae darllen i gynulleidfa ddi-Gymraeg i fi yn dibynnu lot ar y trefnwyr, a’u bwriadau nhw wrth dy wahodd di i ddarllen. Ai yno fel rhyw fath o docyn o Gymreigrwydd wyt ti, neu oes ganddyn nhw ddiddordeb gwirioneddol yn dy waith di, a’r iaith? Mae’r profiadau gwaetha dwi wedi eu cael i gyd wedi bod o flaen cynulleidfaoedd di-Gymraeg yng Nghymru, lle mae’r trefnwyr eisiau rhywun Cymraeg i dicio blwch, ond heb diddordeb mewn gwneud dy waith di’n hygyrch i’r gynulleidfa ddi-Gymraeg. Fedri di wneud dim byd os nad ydi’r ewyllys yna. A dwi’n casáu pan mai'r unig beth sydd gan bobl i’w ddweud wedyn ydi ‘oh but it sounds so pretty’, heb roi dim sylw i gynnwys y cerddi. Mae o’n reit fychanol i gael dy drin fel addurn yn hytrach nag fel rhywun efo rhywbeth i’w ddweud.

Llun: Grug yn perfformio yn Riga, Latfia

Ond pan wyt ti’n cael gweithio efo pobl sydd efo diddordeb gwirioneddol, mi fedri di wneud pethau hynod ddiddorol efo cyfieithu. Fydda i fel arfer yn defnyddio rhyw fath o gyfieithiad Saesneg wrth ddarllen, a’r sialens ydi cyflwyno’r cyfieithiad mewn ffordd sydd ddim yn sbwylio’r darlleniad, nac yn diflasu pobl. Mae’r ffordd ti’n cyflwyno dy waith yn bwysig iawn hefyd, cyn bwysiced a’r cyfieithiad i dynnu pobl mewn i rywbeth sy’n ddiarth ac yn newydd iddyn nhw. Mewn darlleniad efo WICF yng Nghaerdydd, roedd modd defnyddio sgrin sinema, felly mi wnes i greu fideos efo’r cyfieithiad Saesneg i gyd-fynd a’r darlleniad, wnaeth weithio yn dda heblaw mod i wedi darllen y gerdd anghywir i fynd efo’r cyfieithiad!

Mewn darlleniad yn Riga [Latfia], roedd pethau fymryn yn fwy cymhleth am ein bod ni’n griw o saith o feirdd yn sgwennu mewn saith o ieithoedd - Cymraeg, Croateg, Fflemeg, Arabeg, Pwyleg, Latfieg a Latgaleg- ac yn darllen i gynulleidfa oedd yn siarad 2/3 iaith berthnasol, sef Latfieg a Saesneg, efo ambell un yn siarad Latgaleg hefyd. Yn y sefyllfa yma, roedd Saesneg yn iaith niwtral, yn ail iaith i bawb, ac yn medru cael ei defnyddio fel iaith bont. Felly dyma ddarparu cyfieithiadau o Saesneg o’r cerddi i gyd ar bapur, ac yna ddarllen y cerddi yn yr iaith wreiddiol (Croateg, dyweder) yn ogystal ac mewn cyfieithiad (i Arabeg falle). Roedd hwnnw’n ddarlleniad difyr iawn, lle doedd y cyfieithu ddim dim ond yn ategu at y darlleniad, ond yn ran creiddiol o be oedd yn ei wneud o’n ddiddorol.

-----

Yn hwyrach yn y mis, byddwn yn cyhoeddi ysgrif arbennig gan Menna Elfyn, yn trafod ei phrofiadau niferus hithau yn teithio'r byd i berfformio ei barddoniaeth.

#barddoniaeth #Teithio #perfformio #miscyfieithu

6 views

Menter gydweithredol a redir yn wirfoddol yw Cylchgrawn Y Stamp, gyda'r bwriad o gynnig llwyfan i leisiau newydd a sefydledig ym mhob cyfrwng creadigol. Gwasg anibynnol newydd yw Cyhoeddiadau'r Stamp. Rydym yn gwerthfawrogi unrhyw roddion all ein gelpu i gyflawni'r nodau a osodwyd yn ein maniffesto. Os hoffech roi arian tuag at elfen benodol o'n gwaith, nodwch hynny yn eich sylwadau wrth yrru'r rhodd.

© 2020 gan Y STAMP. 

  • w-facebook
  • Twitter Clean