• golygyddionystamp

Cerddi: Gweithdy Cyfieithu - Ulysses x Stamp


Mae Ulysses' Shelter yn brosiect a gyd-ariennir gan Raglen Ewrop Greadigol yr Undeb Ewropeaidd, gyda’r nod o greu rhwydwaith gyfnewid o breswyliadau llenyddol ar draws Ewrop, yn bennaf ar gyfer to ifanc o awduron a chyfieithwyr llenyddol o’r gwledydd hynny sydd yn rhan o’r rhwydwaith. Arweinir y prosiect gan y cyhoeddwr ac asiantaeth lenyddol Sandorf (Croatia) ac yma yng Nghymru, cyd-bartneriaid y prosiect yw Llenyddiaeth ar draws Ffiniau (https://www.lit-across-frontiers.org) a Chyfnewidfa Lên Cymru (https://waleslitexchange.org). Y partneriaid eraill yw Krokodil (Belgrade, Serbia) Thraka (Larissa, Gwlad Groeg) a Društvo slovenskih pisateljev / (Cymdeithas Awduron Slofenia / Slovene Writers’ Association) (Ljubjana, Slofenia).

Mae’r rhaglen o breswyliadau yn rhoi cyfle i bob awdur neu gyfieithydd sy’n rhan o'r prosiect dreulio amser mewn dau leoliad ac i gysylltu a dwy sîn lenyddol. Bu rhaid gohirio gweithgareddau wyneb yn wyneb oherwydd cyfyngiadau teithio yn sgil Covid-19, gan ddisodli’r rhain â gweithgareddau digidol. Yng Nghymru, cynhaliodd Llenyddiaeth ar draws Ffiniau a Chyfnewidfa Lên Cymru sesiwn Zoom rhwng yr awduron o Gymru sydd yn rhan o raglen 2020 â’r awduron a’r cyfieithwyr a oedd i fod i ddod i Gymru eleni. Yn ogystal, trefnwyd gweithdy cyfieithu barddoniaeth, mewn cydweithrediad â’r Stamp, a oedd yn cynnwys holl feirdd y prosiect eleni ynghyd â beirdd eraill o Gymru.

Gwnaed y cyfieithiadau trwy ddefnyddio cyfieithiadau pont o waith y beirdd- hynny ydi, cyfieithu o'r iaith wreiddiol i'r Saesneg yn gyntaf (y beirdd yn cyfieithu eu gwaith eu hunain, neu y gwaith yn cael ei gyfieithu gan gyfieithwyr) ac yna'r beirdd yn gweithio gyda chopiau o'r gwreiddiol ac o'r Saesneg. Dyma rannu rhywfaint o gynyrch y gweithdai hynny, ynghyd a myfyrdodau'r beirdd [Dyfan Lewis, Grug Muse, Morgan Owen a Judith Musker-Turner]

ar y broses o gyfieithu.

*

Cafwyd sesiwn hwyliog iawn yng nghwmni beirdd ac arbenigwyr ym maes cyfieithu llenyddol gan Lenyddiaeth Ar Draws Ffiniau. Nid oedd angen i mi fynd ymhellach na’r ystafell ffrynt i glywed beirdd o bob rhan o gyfandir Ewrop yn trafod eu crefft. Cododd nifer o gwestiynau diddorol iawn yn y sesiwn, ac yn wir daeth hi’n amlwg faint y mae modd trafod arwyddocâd un gair yn unig o fewn cerdd am sbelen go dda. Mae hynny’n gwneud synnwyr, mae’n debyg, gan mai cyfrwng cynnil yw’r gerdd, lle mae angen i bob un gair weithio tuag at fwriad y sawl sy’n ei ysgrifennu, ac wrth gyfieithu y mae rhaid dehongli a deall y bwriad hwnnw i’r dim er mwyn bod yn llwyddiannus.

-Dyfan Lewis

Y Tir Hwn

(o ‘’Alba’’, cyhoeddiadau Ekati, 2015)

Rhoddir angladd i’r tir hwn, a’i gladdu y tu fewn i’w hun. Rhytha blentyn ar y safleoedd adeiladu. Unwaith, bu’n weithiwr yn y llefydd hyn, pan oedd yn hŷn. Dim ond ambell beth sy’n parhau’n aneglur. Cof amser yfory, craith ar y llaw, ac efallai, atgofion y graith.

Nawr mae’r plentyn â’i ddwylo yn dal yn ei law. Fel mae adar yn eu cwsg yn crafangu’r canghennau. Nid er mwyn atal y cwymp, nid er mwyn dal ymlaen, ond er mwyn gafael yn yr holl hedfan sy’n weddill o’u dydd.

(Cyfieithiad Dyfan Lewis o gerdd Thomas Tsalapatis, o gyfieithiad Saesneg Elena Anna Mastromauro)

*

Yn ei llyfr 'This Little Art' (2017) mae Kate Briggs yn son am gam-gyfieithu. Gwraidd cam-gyfieithu wrth gwrs yw cam-ddarllen. Neu falle or-ddarllen. Bod yn ormod o ddarllenydd. Ond oes modd cam-gyfieithu dy waith dy hun? Nid posib hyd yn oed, ond haws yn wir cam-gyfieithu y cerddi sydd wedi eu priodoli i ti na'i cyfieithu yn 'gywir'? Nad wyt ti'n aros yn driw i'w testyn ar y papur o dy flaen, ond yn cyfieithu'r gerdd sydd yn bodoli yn dy ben. Petai cyfieithydd arall yn gwneud hynny, cai ei chollfarnu, mae hi'n gaeth i ryw raddau i'r testyn ar y papur. Ond y bardd ei hun? Pwy sydd am gyhuddo'r bardd o gam-ddarllen ei gwaith ei hun? A phwy sydd i ddweud na'r testyn ar y papur yw'r gerdd 'go iawn'?

- Grug Muse

Botaneg distawrwydd

dwi'n breuddwydio mod i'n greenich-ferch, yn offeryn cadw amser,

o fudd wrth lunio amserleni hedfan; ond mae'n siomedig.

dwi'n troi wedyn yn amgueddferch, yn feddw ar or-archifo

di bwrpas. yng nghrombil dwfn fy nghorffyn bach

mae pobl pigo ffrwythau, gweithwyr tymhorol, yn barod am wrthryfel.

swyddfeydd post culion, lle daw ffurfleni taliad at eu tynged ola

yw'r math o lefydd dwi'n eu cadw fel cysgerfeydd terfynol y colli gafael.

yn fy selerydd dwi'n creu coreograffi o orffwys.

ar yr wyneb, dwi'n talu biliau, llenwi holiaduron, torri fy ngwinedd.

dwi'n glynu at y rhaglen: holi pwy sy'n gofalu am blanhigion mewn sefydliadau cyhoeddus

am mai dyna pwy ofalith amdana inna, fy nghyffwrdd yn araf a threfnus,

fy nyfrio'n ofalus hefyd, fel bo'r angen. Dwi'n gwneud cynllun, gweu marwolaeth anochel

ac yna'n cofio mai dim ond Ebrill yw hi. Rhu gynnar i gyfadde mod i wedi ffagio'n lân.

(Cyfieithiad Grug Muse o gerdd Maša Senčić, gan ddefnyddio cyfieithiad Saesneg gan Sava Mihailović a Maša)

*

Pan fyddwn yn cyfansoddi cerdd, bydd gennym ystyr benodol mewn golwg yng nghyswllt pob gair, bron – hyd yn oed pan fydd amwysedd. O’r herwydd, rydym yn gweld yr ystyr a roesom i’r geiriau, a’r bwriad gwreiddiol yn llywio’r darllen a’r dehongli. Ond wrth gyfieithu, ac yn enwedig wrth gyd-drafod cyfieithu, daw i’r amlwg pa mor eang yw’r ystod o ystyron posib; gall un gair gwmpasu nifer pensyfrdanol o ystyron gwahanol, a phob un yn newid y modd y dehonglir gweddill y testun. Cawsom sgwrs am ystyron posib y gair chwilio, er enghraifft, yn yr ail weithdy, mewn cerdd gennyf i (‘Halen’) a gyfieithwyd gennyf fel ‘examine’. Gair digon syml, cyffredin, ond dyma a ddywed GPC yw’r ystyron posib:

Edrych yn fanwl drwy (eiddo, dillad, llyfr, &c.) er cael hyd i rywbeth; edrych am (rywbeth a gollwyd), ceisio, ymorol, ymofyn, olrhain; gwneud ymchwiliad, archwilio; chwilota; profi.

Mae byd o wahaniaeth rhwng ‘edrych yn fanwl’ am rywbeth a’i ‘archwilio’, a rhagor byth rhwng y weithred fwy gwasgarog yna, ‘chwilota’, heb sôn am y diffiniadau eraill. Dyma ystyron dilys sy’n cyd-fodoli mewn un gair. Nid bwrn na gwendid yw’r amryffurfedd a’r amrywiaeth hon, fodd bynnag. Dengys hyn oll sut mae testun yn ymagor yng ngolwg pobl eraill, a sut mae’r cyfieithydd yn rhydio’r ffrydiau croes.

Cwyd hyn gwestiwn: a ddylai’r awdur gwreiddiol anodi’r testun gwreiddiol yn fanwl er mwyn egluro ei union fwriad, neu a yw’r dehongli hylifol (anochel) yn ddilys ynddo’i hun? Os yw’r cyfieithydd, neu’r darllenwr at hynny, yn gweld rhywbeth gwahanol i’r bardd o fewn terfynau’r ystyron dilys, pwy gaiff flaenoriaeth: yr awdur, neu’r llall? Mewn gweithdy cyfieithu, rhywbeth yn y canol yw’r ateb, mae’n debyg; un o’r prif wersi oedd bod nodweddion diwylliannol unigryw (ac anghyfarwydd yn aml) yn cael dylanwad mawr ar y dethol ystyron hwn. Yn y bôn, dysgom taw cyd-drafod sy’n esgor ar gyfieithu llenyddol da; ac yn sgil y fath drafod hynny, daw tipyn o fwynhad hefyd.

-Morgan Owen

Daw dydd a dywalltwyd, dydd sych . delwa popeth fel tywyllwch .

nid yw bwystfilod yn fy nghanlyn, na finnau chwaith . does gen i ddim i’w ddweud

dan y nefoedd . dim ond bwyta a chrafu sydd wrth fy modd .

rhyfedd fel y daw popeth atat mewn tawelwch yn unig

mewn gwirionedd, y peth gorau’n y byd yw clywed dy fod yn fyw . yn gyfeiliant

i chwardd plentyn neu glicad cap Zippo .

fel hyn gallaf fod yn ddiofal ac yn farw . â gwên olew

olewydd . tynni gylch perffaith yn y tywod â brigyn . fe’i dilëir gan don

eto tynni gylch perffaith yn y tywod â brigyn . pam lai .

a pham dylwn ymhelaethu pan allaf

wylio menyw yn gwau . rhyddid yw gwaharddiad a chaniatâd

ond heb ewyllys gwneud . ychwanegiad at wacter wyf

bodlon â’m tâl . beth os yw’r dyfnderoedd

yn wag . pwy chwardd olaf . fel gwallgofddyn .

mae’n fachlud, ac fe wenaf .

troes y dydd yn fola anferthol

(Cyfieithiad Morgan Owen o gerdd Danilo Lučić, o gyfieithiad Saesneg Vesna Stamenković)

*

Dim ond ers cymryd rhan mewn prosiect Hunan-iaith Y Stamp a Where I’m Coming From yn ddiweddar rydw i wedi sylweddoli ar wir botensial y gofod creadigol sy’n cael ei greu wrth gyfieithu cerdd, ac mae gennyf awydd mawr i archwilio’r gofod hwn ymhellach. Roeddwn i’n arbennig o falch felly i gael y cyfle i fod yn rhan o weithdy cyfieithu Ulysses Shelter, gyda beirdd o Gymru, Gwlad Groeg, Croatia a Serbia. Cawsom sawl drafodaeth ddwys a difyr am amrywiaeth o elfennau o’r proses o gyfieithu yn ystod ein sesiynau dros Zoom, ond y peth a’m trawodd yn fwyaf oedd sut y mae’r berthynas rhwng y cyfieithydd a’r awdur yn gallu newid y cyfieithiad. Yn gyffredinol, gellir dweud bod rôl y cyfieithydd yw trosglwyddo ystyr a bwriad awdur y gwaith gwreiddiol i iaith arall – felly mae cael y cyfle i holi’r awdur am union ystyr ei eiriau’n hollbwysig er mwyn sicrhau bod eich dehongliad yn gywir. Ond ar yr un pryd, mae gallu bod yn brofiad buddiol iawn i awdur glywed dehongliad y cyfieithydd a sylwi ar ystyron nas fwriedir, o bosib. Synhwyraf fod natur y cyfieithiad yn dibynnu ar ymateb yr awdur i’r ystyron newydd hyn – efallai ei bod hi’n addas weithiau i adael iddynt ffynnu yn y cyfieithiad, ac ar adegau eraill i’w tocio er mwyn adlewyrchu’r gerdd wreiddiol cymaint â phosib . Mae cyd-destun diwylliannol yn effeithio cymaint ar gerdd: diddorol yw ystyried lle bod angen addasu cerdd ar gyfer cynulleidfa o ddiwylliant gwahanol wrth gyfieithu, a lle bod angen bod yn ffyddlon i’r gwreiddiol hyd yn oed os na fydd y gyfeiriadaeth yn eglur i gynulleidfa’r cyfieithiad. Mae’r posibiliadau creadigol sy’n dod o’r rhyngweithio rhwng y gerdd, y cyfieithiad a chynulleidfaoedd gyda ‘lensys’ diwylliannol gwahanol yn ategu at botensial creadigol cerdd, ac mae yna fodd i’r bardd a’r cyfieithydd cydweithio i archwilio’r posibiliadau hyn a manteisio arnynt i greu rhywbeth newydd.

-Judith Musker Turner

drysau

(o ‘Γεωγραφίες των Φριτς και των Λανγκ’ Cyhoeddiadau Ekati, 2018)

Roedd hi’n noson fel unrhyw un arall. Y noson honno pan wnaethant ddwyn oddi wrthym. Pob un ohonom yn ddioddefwyr yr un cynllun, yr un symudiad cydlynus. Digwyddiad cyffredin i bawb. Ein syndod yn gadarnhad o’u buddugoliaeth, pan nad yw’r llaw yn darganfod rhywbeth i’w ddatgloi, pan fydd y llaw a fyddai’n cnocio yn hofran yn lletchwith mewn gwagle, pan fydd yr ysgwydd fygythiol yn rhuthro i wrthdaro ac rydych chi’n cwympo.

Mae’n oherwydd bod rhywun wedi dwyn holl ddrysau’r ddinas. Ar yr un pryd, yn sydyn, yn anadferadwy. Holl ddrysau’r ddinas.

Adeiladau llydan agored, preifatrwydd wedi’i darfu, croesfannau rhydd. Fy meddiant hwyr.

Yn y bore deffroesom yn ddideimlad. Nid oedd y gofod â hyd, nid oedd unrhyw bobl ddigartref a’r plant yr oeddem yn cadw’n gyfrinachol yn neidio’n syn trwy’r strydoedd.

Anwesodd awel ein noethni.

Ymgrymasom i gyd wedyn

i arglwyddiaeth wyllt hap

(Cyfieithiad Judith Musker Turner o gerdd Thomas Tsalapatis, o gyfieithiad Saesneg Elena Anna Mastromauro)

#miscyfieithu #cyfieithu

Menter gydweithredol a redir yn wirfoddol yw Cylchgrawn Y Stamp, gyda'r bwriad o gynnig llwyfan i leisiau newydd a sefydledig ym mhob cyfrwng creadigol. Gwasg anibynnol newydd yw Cyhoeddiadau'r Stamp. Rydym yn gwerthfawrogi unrhyw roddion all ein gelpu i gyflawni'r nodau a osodwyd yn ein maniffesto. Os hoffech roi arian tuag at elfen benodol o'n gwaith, nodwch hynny yn eich sylwadau wrth yrru'r rhodd.

© 2020 gan Y STAMP. 

  • w-facebook
  • Twitter Clean