• golygyddionystamp

Cyfweliad Llawn: Celf Prys Morgan


Artist, hanesydd, sglaig, chwedleuwr, llatai, gŵr bonheddig, crwt direidus, cogydd, nofiwr môr beunyddiol cyn i hynny ddod i ffasiwn, cwmni difyr a da - dyna rai o’r labeli y gellid eu gosod ar yr Athro Prys Morgan. Yn ein rhifyn diweddaraf, rhifyn Gaeaf 2020-21, cyhoeddwyd detholiad o gyfweliad rhwng Prys a'r Stamp. Dyma gyhoeddi'r cyfweliad yn llawn, gyda diolch i Angharad Dafis am ei gwaith yn trawsgrifio.


-----


Isie holi chi o’n i le wnath y diddordeb mewn celf, mewn arlunio, ddachre?


Ma’n rhaid bod e yn y gwa’d achos un o’r llunie, o’r photos cynta o’dd wedi’i dynnu ohono’i gan berthnase, fowr mwy na babi yn yr ardd yn blentyn bach dwy flwydd oed yn Radyr, photo bychan, bychan Kodak ac mae’n amlwg bod darn o bapur gen i a pensl. Pan o’n i’n blentyn o’n i bob amser yn tynnu llun gyda ’nhafod fyl ’na, yn ôl beth ma pobol yn dweud ’tho’i. Mae’n amlwg bo fi’n hoff o dynnu llunie. Wi ddim yn gallu cofio amser nad o’n i ddim yn sgriblan, neu’n dwdlan ’te, llunie o bob math. Ac wedyn o’n i’n tynnu llunie wostod, yn rheoledd, yn enwedig pan o’n i’n ca’l gwersi paentio yn yr ysgol gan Leslie Moore o’dd yn athro da iawn, dyn dymunol iawn. Ma un llun gen i o waith Leslie Moore o’dd Rhodri wedi’i roi i fi yn anrheg. Ac o’dd gwraig Leslie Moore yn dysgu gymnastics i ni.


O’n i bob amser yn gofyn i’n rhieni a fydde’n bosibl i mi fynd i ysgol gelf i ddysgu celfyddyd ac o’n nhw’n dweud, ‘O na – do’s dim digon o sicrwydd gyrfa gyda celfyddyd: y’n ni ddim yn meddwl bo chi’n ddigon da – dim ond amatyr fyddwch chi byth. O’s dim bara menyn mewn celfyddyd.’ O’n nhw wedi cael eu codi mewn byd ansicr iawn yn y dauddege a’r tridege lle o’dd diweithdra cant y cant mewn rhai manne fel Rhymni yn Shir Fynwy lle o’dd Mam yn dysgu Cymra’g yn yr ysgol ac o’dd y syniad gyda nhw bod raid i chi ga’l ryw swydd broffesiynol, fel bod yn gyfreithwr neu rwbeth saff fel ’na, a neud celfyddyd fel hobi. Ac felly bu raid i fi dderbyn, o’n i’n ddigon meddal fel cymeriad, wi ddim yn gymeriad cryf iawn, un gwan ydw i yn y bôn yn rhoi miwn i berswâd pobol ac felly mi wnes i broffesiwn fel academig wedyn ’ny. O’n i ddim yn ca’l gwaith academic yn anodd. I fi ar hyd fy oes ma celfyddyd wedi bod yn hobi.


Ond wi’n gallu cofio pan es i neud gwasaneth milwrol, o’dd rhan fwya o’r ddwy flynedd orfodol yn Llunden. O’n i’n byw mewn gwesty yn South Kensington. O’n i’n gorffen yn gwersi Rwsieg yn Russell Square am bedwar o’r gloch y prynhawn. O’dd dim dysgu ar ôl pedwar. Ac felly o’dd hyn yn rhoi dwy awr wostod bob dydd i chi i fynd i weld oriele celf. Ac o’dd hynny yn agoriad llygad i mi. O’dd ca’l byw yn Llunden, ca’l rhyddid, o’ch chi’m yn gorffod gneud dim. O’ch chi ddim yn gorffod byw mewn iwnifform, mewn lifrai. Ac o’dd ych bwyd, popeth yn ca’l ei roi i chi am ddim. Ac o’n i’n rhydd felly i fynd i lot fawr o oriele celf. Ac rwy’n credu bo fi wedi bod ym mhob un ohonyn nhw yn ddieithriad mwy neu lai. Nid jyst y National Gallery ond yr oriele bach masnachol yn Llunden. Dy’n nhw ddim yn bod nawr lot ohonyn nhw. Ond mi ddes i nabod yr oriele celf yn dda iawn. Ac fel o’dd hi’n digwdd o’dd nifer o’r bechgyn oedd yn y llu awyr − wel o’n ni ddim jyst yn llu awyr, o’n ni’n llynges ac yn fyddin hefyd, o’n ni’n gymysg, inter-services institute o’dd e − ac o’dd nifer ohonyn nhw â diddordeb mawr mewn celfyddyd ac yn paentio’u hunen. Ac o’n i’n meddwl ‘Os gall bechgyn erill baentio alla i baentio’. A mae’n dderbyniol mae’n amlwg. Ble bynnag o’n i’n mynd o’n i’n neud rhyw fath o fraslunie. Ac o’dd nifer ohonyn nhw moyn prynu’r rhein. Ac o’n i’n gwrthod codi tâl arnyn nhw. O’n i’n rhoi rai o’r braslunie ’ma iddyn nhw. Wi ddim yn gwbod be sy wedi digwydd iddyn nhw. Ond o’n nhw’n falch iawn i’w ca’l nhw a’u fframo nhw ’u hunen yn eu stafello’dd eu hunen.


Dyna o’dd y cyfnod lle y datblyges i’n llygad. O’dd yn llygad i heb ’i addysgu yn blentyn ysgol. O’dd mynd i Lunden ac o’dd e fel ’sech chi’n neud cwrs anrhydedd mewn history of art and aesthetics am ddwy awr cyn mynd nôl i ga’l ych cino nos am whech drw fynd i oriele a gweld yr holl arddangosfeydd ’ma. Nid jist arddangosfeydd ond gweld beth o’dd y llunie o’dd ar werth yn yr oriele masnachol. O’dd cymint o amrywieth. O’dd hyn yn addysg ryfeddol i mi.


Dyna ddatblygodd y syniad o ddachre deall beth o’dd yn gneud celfyddyd dda: y gwanieth rhwng celfyddyd amatyr sâl a chelfyddyd dda gan ryw bobol broffesiynol fel Picasso. O’ch chi’n dachre dod yn gyfarwdd â bobl fel Rembrandt yn y National Gallery neu Picasso. O’dd dim Tate Modern yn bod pryd hynny dim ond yr oriel genedlaethol yn Trafalgar Square a’r Tate Britain o’dd yn bod.


Felly yn y cyfnod yna y dethoch chi i nabod ych hoff artistied chi a dachre datblygu ych arddull ych hunan?


O’n i’n fwy eang yn y cyfnod yna: y’ch chi’n datblygu yn berson rownd y deunaw o’d, peder ar bymtheg. O’n i’n llawer mwy agored i hoffi celfyddyd fodyrn iawn na fydden i ddim yn ei hoffi fe lot heddi falle, pethe haniaethol er enghraifft. Wi’n cofio mynd i arddangosfa gan Merlyn Evans, bachgen o Ga’rdydd o’dd yn byw yn Llunden. O’dd nifer o lunie Merlyn Evans yn yr amgueddfa yng Ngha’rdydd. Dyw e eriod wedi ca’l ’i ystyried yn un o fawrion celfyddyd Cymru ond o’dd e yn avant garde iawn yn ei ddydd yn gneud llunie cwbwl haniaethol a jyst paent du ar ganfas gwyn. O’n nhw ddim yn bethe hawdd iawn i ga’l yn ych tŷ. O’n nhw’n stark iawn. Cigynôth fel y’n ni’n gweud yn Cwm Tawe, nid cígnoeth. A wi’n cofio hoffi’r llunie ’ma ond wi ddim yn credu y bydden i’n hoffi nhw heddi.


Beth o’dd yr ysgogiad iddo fe greu llunie fyl ’na ’te?


Wel trio torri bant oddi wrth beth o’dd e’n meddwl o’dd yn sentimentaliti cyment o’r gelfyddyd o’ch chi’n ffindo yn Lloegr.


Pa gyfnod o’dd hyn?


O’dd e’n paento yn y pedwardege a’r pumdege. Bu farw yn gymharol ifanc yn 1970, rhwbeth fel ’na, yn Llunden. Dda’th e ddim nôl i Ga’rdydd.


O’dd yr amgylchiade gwleidyddol, y cyd-destun wedi dylanwadu arno?


O’n nhw’n teimlo – ar ôl y rhyfel bod arlunwyr yn gorffod creu byd modern. Pobol ifenc yn gorffod creu byd modern a torri ’u hunen bant o bobol o’dd wedi bod yn nodweddiadol o’r tridege, pobol fel Ravilious o’dd yn gynllunydd ac yn arlunydd. Ac o’n i’n dotio ar waith Ravilious. A wi wedi dod nôl i weld bod y math o ddyfriliwie odd e’n neud yn y tridege yn odidog. Y peth rhyfedd ynglŷn â Ravilious oedd pan o’n i’n blentyn yn ysgol Radyr o’dd awr gino go hir gyda ni ac ar ôl i fi ga’l cino yn y church rooms yn y cantîn o’dd o leia hanner awr gen i cyn mynd nôl i’r ysgol am ddou ac o’n i’n hoff iawn o fynd i dŷ o’dd yn agos iawn i’r ysgol yn Radyr lle’r o’dd Lilian ac Alun Oldfield Davies yn byw. O’dd e’n bennaeth y BBC yng Nghymru. Bachgen o Ddyffryn Clwyd a Shir Fflint. Ac o’dd Lillian yn dod o Bontypŵl ac yn ddiGymra’g. Ac o’dd hi wedi bod yn athrawes yn Rhydaman. Ac o’dd hi bob amser yn gweud bod croeso i fi. O’dd hi ddim yn rhoi bwyd i fi na dim byd fel ’na. Jyst sgwrs. O’dd diddordeb ysol ganddyn nhw’ll dou mewn celfyddyd fodyrn ac o’n nhw’n prynu llunie gan Leslie Moore er enghraifft o’dd yn dysgu celfyddyd i Rhodri a finne yn yr ysgol yn Eglwys Newydd. A felly pan o’ch chi mynd miwn i’r tŷ o’dd hi wostod yn siarad am gelfyddyd ac o’n i’n falch iawn i siarad am gelfyddyd. Hyd yn o’d pan o’n i’n blentyn naw mlwydd oed. A wi’n cofio ddi’n dangos y llestri gore. O’dd rhywun pwysig yn dod o’r BBC i ga’l cinio gyda nhw.‘They’re designed for Wedgwood by a wonderful painter called Eric Ravilious – he’s got a very strange name - so I want you to remember that,’ medde’i. Ac o’dd hi’n dangos y ffor o’dd Ravilious yn cynllunio: un o’r setie mwya enwog nath e o’dd popeth o’dd yn ymwneud â’r ardd fel potie a crymane a planhigion a menyg garddwr ayb ar y platie ’ma. A wi’n cofio hi’n rhoi’r wers ’ma i fi ynglŷn â pwy o’dd Wedgwood a pwy odd Ravilious a pam o’dd e’n bwysig bod e’n arlunydd o’dd yn gweithio i helpu crefftwyr yn ffatri Wedgwood yn Stoke on Trent. Allen i ddim bod yn fwy na naw neu ddeg. Ma’r wers yn aros. Alla i weld y ffenest a’r gegin lle o’dd hi’n rhoi’r wers i fi nawr. Ma dyn yn dysgu pethe od pan ma dyn yn blentyn oddi wrth bobol sydd yn naturiol yn athrawon da.


O’dd celf ar y murie gatre gan ych rhieni?


O’dd ond o’n nhw ddim yn gallu fforddio prynu rhyw gelfyddyd arbennig iawn.


Ac er nad o’n nhw’n anogol iawn ohonoch chi nethoch chi barhau i neud celf?


O o’n nhw’n anogol iawn i roi diddordeb i fi mewn celf. O’n nhw’n rhoi llyfre celf i fi pan o’n i’n blentyn bach. Er enghraifft pan o’n i’n dost ac os o’dd ’y nhad yn meddwl bo fi’n ddigalon. Rwy’n siŵr bo nhw wedi dylanwadu arna i yn blentyn. Ma rhai o’r llyfre gen i o hyd. Ac o’dd Dewi Powell yn neud run peth. ‘I Prys gyda phob dymuniad da oddi wrth Dewi.’ Dyddiad hwn Nadolig 1947. Meddylwch bo chi’n rhoi llyfr fyl ’na i blentyn naw mlwydd o’d! Rhaid bod Dewi a ’nhad a mam yn styried bod hwn yn llyfr o’dd yn yn siwto i. Digon o lunie i’e plentyn hoffi. Ac o’n i’n dotio ar y llunie rhyfeddol ’ma. Ond o’n nhw ddim am i fi fod yn arlunydd.


O’n nhw isie darparu cyfle ond dim gormod


O’n ac rwy’n credu nad o’dd ’nhad wedi ca’l cyfle a bydde ’nhad wostod yn hoffi mynd miwn i’r National Gallery am hanner awr cyn mynd nôl i gyfarfodydd. A pan o’n i’n dost hefyd ac o’dd y ffliw neu rwbeth ac o’n i’n ’itha digalon, dyma ’nhad ar ddou achlysur yn prynu Vilenski. Dyma o’dd yn hoff lyfr i English Outdoor Paintings Vilenski. A ma’r dyddiad arno fe. First published 1946 felly o’n i’n wyth mlwydd o’d, falle naw. Ac o’dd pob un o’r llunie yn fythgofiadwy. A mi welles ar unwaith wedi ca’l y llyfr. Ac o’n i’n dotio ar lun Samuel Palmer sydd yn y Victoria and Albert: llun bach yw e o’r coed fale. Ac o’n i’n dotio ar lun Richard Wilson o Gader Idris. Newydd ga’l ei roi yn y Victory Day gan Edward Marsh i’r National Gallery. I feddwl bod Cymro wedi gallu neud llun o Gader Idris fel ’na. O’dd e’n agoriad llygad yn llythrennol bron. Wi’n meddwl mai Samuel Palmer o’dd un o’n ffefrynne i. Mae’n rhyfeddol. Watercolour yw e. ‘In a Shoreham Garden’. Pan y’ch chi’n gweld y gwreiddiol chi’n gallu gweld bod y paent pinc a gwyn ’ma yn ’itha trwchus yn y llun.


O’dd ’y nhad, o’dd e’n gwbod bod diddordeb gyda fi mewn hanes. A wi’n cofio pan a’th Carys Davies a finne i weld y Prado ddwy flynedd yn ôl. Ac o’dd Carys yn gweud ‘Y’n ni’n mynd i ga’l gwerth yn harian’. O’n ni’n mynd miwn am ddeg a dod mas am wyth o’r gloch y nos. O’n ni’n ddeg awr yn y Prado yn gweld pethe fel Titian ac yn y bla’n. Ac o’n i’n gweud wrth Carys, ‘Ma raid i fi fynd i weld y llun yma o Charles y Pumed yn y Battle of Mühlberg,’ achos o’n i’n dotio fel plentyn bod e wedi ca’l machlud piws i fynd gyda piws, porffor Charles y pumed. A mae’n llun anferth wrth gwrs.


Nethoch chi ddim astudio hanes Celf?


Na ario’d wedi astudio hanes celf o gwbwl ond bo fi wedi astudio fe’n anffurfiol fy hunan. Y ddou ddiddordeb mawr yn ’y mywyd i yw Hanes a Chelf. Y ddou yn cydblethu. A mae’n amlwg fod yn rhieni i yn annog y math yma o beth er nag o’n nhw ddim am i fi fod yn arlunydd proffesiynol. Wi ddim credu y bydden i wedi gallu bod â digon o dalent i fod beth bynnag. Chi’n gallu ca’l ych hyfforddi. Chi byth yn gwbod odych chi.


Felly ma’r ddau beth yna wedi bod eitha ar wahân yn ych bywyd chi? O ran y celf a’r hanes Dy’n nhw ddim wedi dod at ei gilydd rhyw lawer?


Wi wedi sgwennu erthygle ar gelfyddyd. Ar Thomas Jones ac yn y bla’n. Cyn bod y ffasiwn wedi troi o’i blaid e. O’dd Thomas Jones Pencerrig yn un o’n ffefrynne. i. O’dd e’n ddisgybl i Richard Wilson wrth gwrs. Wi ’di sgwennu erthygle ar Richard Wilson ac erthygle ar Evan Walters, Llangyfelach i’r llyfr ar Evan Walters gan Barry Plummer. Sgrifennes i ryw beder neu bump o ysgrife i hwnna. Mae’n llyfr da iawn. Llyfr ardderchog. Felly wi wedi sgrifennu ar gelfyddyd ond sdim angen i fi neud. Mae wedi neud cyment yn well gan Peter Lord.


Wel ie ond ma wostod isie mwy o drafodeth.


Os ca’i weud chi ’di byw drw’r pethe ’ma. Fel llygad-dyst. A ma’r cof gyda chi am y pethe ’ma.


Chi’n artist ych hunan.


Un o’r pethe erill yn Rhydychen o’dd bod y coleg lle o’n i, coleg Sant Ioan, drws nesa i’r Ashmolean. O’dd hi’n hawdd iawn mynd rhwng dwy ddarlith i weld llunie’r Ashmolean. Ond o’n i’n gwitho mor galed yn Rhydychen o’dd dim lot o amser ’da fi i dynnu llunie o gwbwl, o’n i mor brysur yn astudio. Dyna’r tro cynta yn ’y mywyd i i fi ga’l incwm o’dd yn ’y ngalluogi i brynu llunie. Y llun cynta i mi brynu o’dd llun o ddyffryn Wysg ryw whech milltir o Grug Hywel gan Nicholas Pocock am bum punt. O’dd stafell odidog gen i yn 1959 o’dd yn perthyn i’r archesgob Lord. Stafell fawr iawn, hyfryd iawn. A dyma fi’n gofyn i ’nhiwtor i Syr Howard Colvin beth ddylen i neud ynglŷn â cha’l llunie a wedodd e ‘Go down to Little Clarendon Street and there’s a wonderful little shop there and tell them that I’ve sent you and ask whether they’ve got anything Welsh’. A dyma fi’n mynd lawr i weld y dyn yma, Cocni o’dd e, a dyma fe’n dweud ‘I’ve got just the right thing for you. It’s only five pounds. Nicholas Pocock. A picture of the Usk Valley. Can’t get anybody to buy it. Because these are 18th century watercolour exhibition society. Collectors nowadays won’t buy them. They don’t want anything as big as that.’ O’n i’n gallu fforddio pum punt. Er bod pum punt yn lot o arian yn y pumdege.


A dyma fi’n gofyn i Syr Howard Colvin pam odd e’n gallu cynnig llun fel ’na am bum punt,

‘Oh,’ medde fe ‘Mr Lill can afford to sell paintings very cheap because...’. O’dd e ’di bod mewn ocsiwn mewn tŷ yng ngogledd Rhydychen rhyw flwyddyn neu ddwy cyn hynny ac o’dd e wedi ffansïo sgrin Fictoraidd ac o’dd nifer o lunie wedi’u gludo ar y sgrin a dalodd ryw bum punt amdani ac ymhlith y llunie Fictoraidd o’dd ’na ddou angel itha mawr ar y sgrin. ‘’Na beth od,’o’dd e’n meddwl, ‘ma nhw’n edrych yn llawer gwell na’r rwtsh Fictoraidd sydd ar weddill y sgrin.’ A dyma fe’n tynnu llun a gofyn i’w ffrindie yn Llunden a dyma nhw’n gweud bod nhw’n meddwl mai rhwbeth gan Rubens o’dd e. A dyma nhw’n ysgrifennu at amgueddfa yn Antwerp i ofyn a odd unrhyw syniad ’da nhw a dyma nhw’n gweud mai dyma’r ddou angel oedd ar goll o alter piece cyntaf Rubens i eglws y plwyf lle ganwd e yn Antwerp. A dyma Mr Lill yn gofyn ‘Would you like to buy them?’ A dyma nhw’n talu milodd ar filodd iddo fe am y ddou lun yma gan Rubens o’dd e wedi’u ffindo am ddim. ‘And that’s why he can afford to sell you these beautiful watercolours for £5,’ medde fe.


O’dd hynny’n addysg ynddo’i hunan. A dyna ddachre. Os o’dd punt yn sbâr gen i wedi ‘ny o’n i’n prynu llunie. Ond dw i ddim eriod wedi bod yn gasglwr fel y cyfryw.


O’s ’na gyfnod wedi bod pan y’ch chi’n arlunio lot?


O’s wrth gwrs: wedi i fi ymddeol. Pan o’n i’n gwitho, o’dd dyn yn ca’l ei gadw yn itha prysur drw’r amser yn ymchwilio a mynd i lyfrgellodd a paratoi darlithie ac yn y bla’n ac o’dd dim o’r ynni gen i. Ond unwaith o’n i wedi ymddeol yn chwedeg pump o’dd y meddylfryd gyda fi i fynd i neud rhwbeth. O’ch chi ddim yn teimlo bod raid i bob muned fynd i’r coleg, i’r brifysgol. A wedodd George Little wrtho i y bydde fe’n gyfleus i rywun oedd yn ‘Sunday painter’ chwedl ynte fel finne ddefnyddio ‘clean paints’, paent acrylig. ‘I’ll give you lessons,’ medde fe. O’n i’n ffrindie mowr gyda George a Carolyn achos o’n nhw’n arlunwyr proffesiynol a hefyd o’dd George ym 1976 wedi ’mherswadio i fynd lawr i Caswell i nofio.


Felly o’n i’n cwrdd â George bob dydd am hanner awr wedi wyth y bore cyn bo fi’n mynd miwn i’r coleg nôl yn 1976 pan ddechreues i’r nonsens ’ma o fynd miwn i’r môr bob dydd. Ac o’n i wostod yn siarad am gelfyddyd gyda George. Hefyd o’dd bachgen o’dd yn dysgu etching ac engraving o’r enw Arthur Charlton, bachgen o Ogledd Lloegr ac o’dd Arthur yn dysgu bob math o bethe fel lithography ac yn y bla’n yn y coleg celfyddyd yn Abertawe.


Pan o’ch chi’n mynd mewn i’r caban i fynd mewn i’r dŵr, o’dd y ddou arlunydd ’ma yn barod iawn i siarad am gelfyddyd a technege lithographi ac o’n i’n dangos y sgetshys ac o’n nhw’n ffindo beie arnyn nhw. A gweud bod y persbectif yn anghywir a sut o’dd cywiro perspectif. Ac wedi i mi ymddeol, ac o’dd Arthur Charlton wedi symud o Abertawe o’dd e’n hen ŵr erbyn hynny i fyw gyda’i fab, roedd George yn gweud wrtha i y bydde fe’n rhoi gwersi i fi – a mwy neu lai o’n i’n gorfod ailddysgu – gwersi celfyddyd fel pe tawn i’n fyfyriwr mewn coleg celf.


Be chi’n golygu wrth ailddysgu?


Dysgu o’r dachre ffor o’dd dodi lliwie ar ganfas achos bo chi’n defnyddio ffor newydd o baent, acrylig. Er bod e’n edrych yn hawdd, dyfriliw yw’r peth mwya anodd. Allwch chi ddim cywiro camsyned mewn dyfrliw. Mae gyment yn haws i gywiro acrylig i amatur na dyfrliw. Os nad y’ch chi’n defnyddio gouache – ma modd cywiro gouache. Ond dyw hynny ddim yn ca’l ei styried yn ddyfrliw iawn ymhlith y Sison beth bynnag. Yn Ffrainc – ody.


Felly o’n i’n gorffod dysgu. O’dd George yn dangos i fi bod e gyment yn haws i dynnu llun mewn acrylig achos bo chi’n gallu cywiro’ch camsynied.


Er bod y lliwie’n fwy cry?


Chi goffod gwrthsefyll y demtasiwn i neud pethe yn llachar iawn. O’dd George ddim. O’dd e’n neud pethe yn llachar iawn wi’n credu. Wi ’di gorffod bod yn ofalus ac yn gymedrol iawn yn defnyddio lliw fan ’na yn y llun ’na o Fenis. Ma’r cnel ’i hunan yn y cysgod. Dim ond un patshyn o haul sy lle ma’r gondoliere yn ceisio ffindio cwstwm i’r ddwy gondola.


Ma tipyn o gelfyddyd yn y streips yna. Y streips yn y cryse. Tipyn o gamp.


Ma hwnna’n gwbwl real. Dyna fel oedden nhw. Ar y dechre o’n ni wedi neud y cryse yn gwmws yr un peth. A wedodd Caroline ‘No no the gondolier on the left has got to have a much darker t-shirt because he’s sitting in the shadow and the gondolier who is catching the sun has to have a much brighter t-shirt. You’ve done them the same.’ Felly o’dd raid i fi newid. O’dd Caroline a George yn hynod o dda yn dysgu.


Felly o’ch chi’n ca’l gwersi wythnosol?


O’n i’n gofyn iddyn nhw ddod i ga’l coffi a thishen.


‘Are we coming for coffee and cake or are we coming for a crit? What are we doing?’


‘Oh crit,’ medden i ‘I have finished a painting.’


Felly o’ch chi’n ca’l adborth wedyn?


Ac o’n i’n dodi nhw lan ar y pentan neu’r ford ac o’n nhw’n sefyll nôl a gweud ‘Hmm. There’s something wrong there. The paint is too thick here, too thin there.’ Neu ‘the background is too like the foreground’. Pethe fel ’na.


Chi’n sôn am nofio yn y môr bob dydd. Ydy hwnna yn ych ysbrydoli chi yn ych gwaith celf? Oes ’na berthynas rhwng y ddau beth?


Fel rhan fwya o bobol amateur, wi’n ca’l tirlun yn llawer haws na dim byd arall i neud. Ma pob un sydd yn amateur – heb fawr o eithriade wi’n credu – yn gwbod bod tirlun yn lot haws i neud na llunie o bobol. A ma môr yn fwy anodd i neud na’r tir achos mae’n symud drw’r amser fel ma bode dynol yn symud. Ac felly wi’n ca’l e’n anodd iawn i neud pobol. Ac wrth gwrs ma’r arlunydd proffesiynol yn gallu galw model. Neu’ch gŵr neu’ch gwraig i ishte o’ch bla’n chi. Ond do’s dim model gen i a wi’n goffo dychmygu. Gorffo treio cofio beth o’dd siap pobol a ma hwnna’n anodd iawn i neud. Ond wi ddim yn ca’l tirlun yn anodd i neud o gwbwl.


A falle bod hwnna – bod cof mor wych gyda chi at fanylion hanesyddol...


Wi ddim yn neud llun yn llwyr o gof. Wi wostod yn neud rhyw fath o fraslun.


Chi ddim wedi mynd i neud life drawing ’te?


Wi wedi bod unwaith yn Fflorens. O’dd parti o blant yn Shir Gyfyrddin yn mynd gydag Alexander Talbot Rice, un o deulu Dinefwr, i academi hynod o adweithiol, hen ffasiwn iawn yn Fflorens. Ond o’n nhw moyn gwersi ar hanes celfyddydd. O’n i wedi ymddeol erbyn hynny. Ac fe ofynnwd i mi gan Alexander Talbot Rice a fydden i’n dod gyda nhw. O’dd y lle mwya godidog gyda ni i roi’r gwersi sef palas. O’dd rhyw dywysog a tywysoges wedi rhoi benthyg rhan o’r palas ’ma i fynd â’r plant ’ma yn ddwy ar bymtheg oed. Gorffen yn yr ysgolion yn Llandyfri a Llandeilo ac yn y bla’n – Tregyb – rhyw ugen ohonyn nhw. Ac felly o’n i’n mynd i’r gwersi life drawing fel bonus. O’dd hawl gen i fynd, yn ishte yn y cornel yn paentio’r ferch ’ma ac o’n i’n cael e’n anodd iawn. Treio gwneud person noethlymun a neud e yn gwbwl gywir. O’ch chi fod i neud e mor ffotograffig ag y gallech chi. O’n i’n ca’l e’n waith caled caled iawn mewn gwirionedd.


Dyna’r unig dro i fi fod mewn gwersi mewn academi gelf o’dd yn Fflorens. Gyda’r bobol adweithiol, hen ffasiwn iawn yma. Ond o’dd e’n ddisgybleth. Mae mor hawdd ishte o fla’n darn o bapur yn dwdlo llun. Ond pan ma meistir tu cefn i chi yn gweud ‘dyw’r ysgwydd ’na ddim yn iawn...’ a neud hynny am wythnos. Neud un ffigur. Treio perffeithio. Un fenyw yn dod bob dydd. Bore a phrynhawn.


Gethoch chi lond bola?


Llond bola. O’dd e yn anodd. Ac o’dd y plant yn ei ga’l yn anodd. O’dd rai yn neud yn dda, yn naturiol.


Felly sut o’ch chi ar y trip yna gyda nhw?


Mwya od, mwya damweiniol o’dd e. Oedd Ralph Griffiths sydd yn gyd-athro â fi yn Abertawe yn rhoi darlith yn St George’s chapel i’r Windsor Society ar Syr Rhys ap Tomos. Ma baner Rhys ap Tomos yn y capel yn Windsor. Ac ar yr un diwrnod ro’dd Alexander Talbot Rice yn paentio llun o’r frenhines, yn cwpla darlun o’r frenhines, tamed bach yn chocolate boxy o’n i’n meddwl a bod yn onest. Dim y math o gelfyddyd o’n i’n hoffi ond y math o beth o’ch chi’n arfer gweld yn y Royal Academy nôl yn ’56, ’57. Alfred Munnings a bobol fel ’na. Beth bynnag o’dd y turnstyles yn mynd miwn i’r rhan braifet o’r castell wedi stico – wedi torri lawr, ac o’dd Ralph wedi dal tu allan yn methu mynd mewn ac o’dd Alexander wedi’i ddala tu fiwn yn ffili dod mas.


A dyma nhw’n siarad ar draws y turnstyles a gweud beth o’n nhw’n neud a Ralph yn gweud bod e’n rhoi darlith ar Syr Rhys ap Tomos.


‘Oh he’s an ancestor of mine. That’s how I’m Talbot Rice. I’m a descendant of Rice ap Thomas.’


‘How interesting,’ medde Ralph.


‘Oh I’m longing to go to Dinefwr,’ medde Alexander.


‘Oh I’ll put you in touch with my friend Prys Morgan because he’s trying to help the National Trust market Dinefwr.’


A dyma’r turnstyles yn agor a dyma’n nhw’n gweud da bo chi wrth ’i gilydd. A dyna ni.


A’r peth nesa o’n i’n gwbod o’n i wedi ca’l cais gan Alexander i ddangos Castell Dinefwr iddo fe. Ac o’dd e wedi ’ny yn dweud ’tho i bod e’n awyddus i ddefnyddio rhyw arian o’dd e wedi ca’l gan rhyw filioneres o America. Mrs Mars o Mars Bars. O’n i ddim yn gwbod bod Mrs Mars yn bod. O’n i erio’d wedi meddwl taw person o’dd Mars o Mars Bars. O’dd hi ’di roid arian iddo fe oherwydd o’dd e wedi neud llun chocolate box – os gallwch chi dderbyn y pýn – o Mrs Mars.


Ac o’dd syniad gydag Alexander o fynd â goreuon ysgolion Carfyrddin i Fflorens er mwyn eu dysgu nhw sut o’dd neud celfyddyd draddodiadol ddisgybledig. Achos o’dd e yn erbyn celfyddyd fodern. Sblish sblash sblosh jyst express yourself. Paentio fel chi moyn. Yn ôl ych mympwy. Ac o’dd e yn erbyn hyn. Ac felly ofynnodd e i fi ddod gyda fe i farnu pa blentyn o’dd ore. A wedyn ofynnodd e i fi ddod gydag e i Fflorens i roi sgyrsie iddyn nhw ar hanes celfyddyd a mynd â nhw o gwmpas yr Uffizzi ac yn y bla’n.


O’dd hwnna eto yn brofiad diddorol.


Felly chi wedi ymwneud â’r maes hanes celf?


O’dd y pwnc arbennig ’nes i yn Rhydychen am hanes y dadeni dysg yn yr Eidal: o’dd hwnnw ddim yn rhoi fawr o ddim i chi ar gelfyddyd. Dim ond llyfr Vazari, ‘The lives of the artists’. O’dd hwnnw mewn Eidaleg. O’ch chi’n gorffod neud y cyfan o’ch special subject drw Eidaleg. Ac o’dd St John’s mor gyfoethog o’n nhw’n gallu rhoi arian i chi i fynd i Fflorens yn ystod y gwylie ac o’n i’n mynd ar draul y coleg i astudio’r Dadeni Dysg. Ac o’dd celfyddyd yn rhan o’r dadeni dysg. O’dd hynny’n help i fi allu rhoi ambell ddarlith a dangos pensaernïeth Fflorens.

Ethon ni i St Petersburg hefyd ac o’dd yr academi yno yn itha adweithiol. O’n i’n siarad Rwsieg. Ac o’n i’n gallu mynd â nhw o gwmpas y ddinas a siarad Rwsieg. O’dd e’n gweld bo fi o ddefnydd. A wedyn es i’n dost. Ac a’th e i Roeg. Golles i gysylltiad ag e.

Mae’n rhan o brofiad dyn. Mae’n od iawn pa fath o brofiade sy’n dod i’ch rhan chi.


Lwc a bendith bo Prys ddim wedi mynd yn Price ynte?


Wel yn Rhydychen o’n i yn ymal iawn yn Price Morgan. O’n nhw ddim yn gallu derbyn Prys o gwbwl.


Cwestiwn bach yn athronyddol falle: pam y’ch chi’n meddwl ych bo chi’n arlunio?


Achos bo fi’n teimlo bo raid i fi. Pan dw i’n gweld rhwbeth pleserus. O’dd Mam yn dweud bod rheidrwydd ar ddyn yn emosiynol rwy’n credu. Wi’n para i ga’l yr un pleser nawr o baentio, o arlunio ag o’n i’n blentyn bach. Wi ddim yn paentio â nhafod nawr....


Wi’n hoff iawn o gyferbynnu wynebe. Cartŵnish mewn ffordd. Ambell waith wi’n troi’r llunie ’na yn olew, yn acrylig ond fel arfer ma nhw’n aros yn syniade yn ych pen chi o gyferbynnu dau wyneb.


Pam y’ch chi’n hoffi cyferbynnu dau wyneb?


Mae’n creu rhyw fath o ddrama. Mae’n creu rhyw fath o drydan – trydan yn mynd rhwng dou ben gwahanol.


O’ch dychymyg chi ma’r cymeriade ’ma?


Ie yn hollol. Na dw i ddim yn mentro eistedd a tynnu llun o bobol.


Wrth feddwl am y llunie. Ma pensaernïeth yn thema drwyddyn nhw i gyd. Wi wostod yn hawdd iawn i neud llunie o adeilade.


Beth arall o’n i wedi gofyn i’n rhieni a gelen ni fynd yn bensaer. A wedson nhw ‘Wel ma hwnna yn broffesiwn ardderchog ond dy’ch chi ddim gwerth yn neud Maths.’ Sim unrhyw bensaer heddi yn neud maths. Erbyn heddi ma quantity surveyor bob amser yn swyddfa penseiri sy’n neud Mathemateg yr adeilad. Y cyfan ma’r pensaer yn neud yw gneud y cynllun a’r darlun.


Wi wedi cadw llyfre yn mynd nol i 1955 braslunie o lunie dyfrliw. Mae’n bwysig i chi gadw braslunie. Ma mwy nag ugen ohonyn nhw. 1953 a 1950.


O’n i wedi neud y portread ’na o Rhodri yn gwisgo blazer newydd. 1950. O’n i’n agos i dair ar ddeg pan ’nes i hwnna.


A fyddech chi’n hoffi gweld rhacor o lunie?

14 views0 comments

Recent Posts

See All