Casgliad o gerddi dwfn, astud a diamser mewn llais sy'n treiddio trwy ddwndwr y byd cyflym a materol sydd ohoni i gyhoeddi'n dawel: 'dyma fi'. Dyma farddoniaeth sy'n arsylwi'n graff ar fyd natur a threigl tymhorau, ac yn dangos inni werth arafu a gwrando.

 

Cyplysir y cyfan yn gelfydd â myfyrdodau gweledol trawiadol, yn seiliedig ar y cerddi, gan yr artist Kim Atkinson.

(Pamffled) Gwrando - Morwen Brosschot

£6.00Price

    Menter gydweithredol a redir yn wirfoddol yw Cylchgrawn Y Stamp, gyda'r bwriad o gynnig llwyfan i leisiau newydd a sefydledig ym mhob cyfrwng creadigol. Gwasg anibynnol newydd yw Cyhoeddiadau'r Stamp. Rydym yn gwerthfawrogi unrhyw roddion all ein gelpu i gyflawni'r nodau a osodwyd yn ein maniffesto. Os hoffech roi arian tuag at elfen benodol o'n gwaith, nodwch hynny yn eich sylwadau wrth yrru'r rhodd.

    © 2020 gan Y STAMP. 

    • w-facebook
    • Twitter Clean