Rhifyn diweddaraf cylchgrawn creadigol Y Stamp, yn cynnwys eitemau arbennig o Biennale Celf Fenis 2019, casgliad o gerddi mewn cyfieithiad o Malayalam gan Llŷr Gwyn Lewis, ysgrif ar un o eiconau'r byd celf Cymreig gan Peter Lord, cerdd a darn gweledol o arddangosfa ddiweddaraf Manon Awst, adolygiadau o gyfrolau, dramâu ac arddangosfeydd amrywiol, a'r holl ddeunydd amrywiol arferol rhwng cloriau trawiadol gan Gweni Llwyd.

Y Stamp: Rhifyn 9 - Gaeaf 2019

£4.00Price

    Menter gydweithredol a redir yn wirfoddol yw Cylchgrawn Y Stamp, gyda'r bwriad o gynnig llwyfan i leisiau newydd a sefydledig ym mhob cyfrwng creadigol. Gwasg anibynnol newydd yw Cyhoeddiadau'r Stamp. Rydym yn gwerthfawrogi unrhyw roddion all ein gelpu i gyflawni'r nodau a osodwyd yn ein maniffesto. Os hoffech roi arian tuag at elfen benodol o'n gwaith, nodwch hynny yn eich sylwadau wrth yrru'r rhodd.

    © 2019 gan Y STAMP. 

    • w-facebook
    • Twitter Clean