Adolygiad: Abermandraw - Rhys Iorwerth

23.03.2017

ychwanegwyd gan

 (o Y STAMP: Rhifyn 1 - Gwanwyn 2017)

 

Mi ydan ni i gyd yn gyfarwydd â’r hen ddywediad Seisnig hwnnw a rybuddia don’t judge a book by its cover. Ond os bu erioed glawr a wna gam â chynnwys cyfrol, clawr Abermandraw ydi honno.

 

Mae’r gyfrol hon i’r gwrthwyneb yn llwyr i dduwch a phlaendra ei dyluniad. Sgrech o liwiau’r enfys yw hi. Rho’r gyfrol i bob pennod ei chymeriad, ac i bob cymeriad ei liw unigryw.

 

Abermandraw yw prif gymeriad y bennod agoriadol. Yn y bennod honno, â’r traethydd â’i ddarllenwyr ar ryw fath o guided tour o’r dref gyfoes. Tref lwydaidd a thlawd  ydyw ar yr olwg gyntaf. I’r sawl sy’n gyfarwydd â thref enedigol yr awdur (sef Caernarfon) mae hi’n hawdd iawn gweld o le y cawsai y Cofi ei ysbrydoliaeth. Yn arbennig felly yn iaith lafar amlwg y gyfrol ac wrth iddo ddisgrifio lleoliadau fel y bwcis a’r safle bws. Portreadau o gymeriadau yw pob pennod a’i dilyna, a disgrifia fywyd pob dydd trigolion Abermandraw wrth iddyn nhw baratoi at gynhebrwng ar ddydd Mawrth.

 

Un o’r pethau a’m plesiodd i fwyaf am Abermandraw oedd ei bod yn hunangyfeiriol. Tydi hi ddim yn gyfrol realaidd. I’r gwrthwyneb: atgoffa’r traethydd o hyd mai ffuglen ydi hon ac mai darllen y mae’r darllenwyr. Drwy’r gyfrol cawn frawddegau fel, ‘mae’r glaw wedi peidio bellach; mae’r gwynt yn y coed wedi gostegu ac mae mantell y nos wedi syrthio dros bob man. Fel y mae hi’n aml mewn straeon fel hyn.’ Da, ‘de?

 

Rŵan, am yr hyn nad oedd yn taro deg. Ymddengys hiwmor du’r gyfrol yn straenllyd ar adegau. Mae’n rhaid imi gyfaddef fy mod i wedi crinjan fwy nag unwaith wrth ei darllen, a hynny am fy mod i’n teimlo fod yr awdur wedi trio ei orau glas i fod mor ddadleuol â phosib, a hynny ar brydiau yn afraid. Y cymeriadau a ddengys hynny yw Elin Baba (y wraig ddiffrwyth) a Ffatibwmbwm Tilsli, y bar man gordew. Mae eu henwau’n unig yn dyst i’m barn.

 

Ysywaeth am hynny, mae hiwmor du’r gyfrol yn llwyddiant ysgubol mewn mannau eraill. Y cymeriadau fwyaf llwyddiannus imi oedd yr hoywon Mwslimaidd, Hakan a Demir. Chwaraea’r awdur ar yr hiliaeth sydd wedi lledaenu’n bla anesmwyth dros fisoedd y BREXIT. Yn Abermandraw ‘mae eu hiaith yn anghyfarwydd, fel y mae eu croen a’u crefydd’ ond mae ‘archwaeth am garbohydrets’ yn trechu ofnau terfysgol trigolion. Cawn olygfa rywiol wreiddiol o gignoeth o’r ddau gymeriad hynny sydd yn berchen ar siop gebabs y dref. Dyma gymeriadau cryfaf y bennod. Y rheiny ac Y Dyn sy’n Gweithio i’r Cyngor Sir, sydd hefyd o drwch blewyn i’r brig.

 

Llwydda’r awdur i gynnal ein diddordeb drwyddi draw. Mae yn Abermandaw fwy o fudreddi na phorno a mwy o regfeydd (a gwell rhegfeydd) nag a glywch ar y bocs ar ôl naw. Mae gan yr awdur lais dweud stori ddiamheuol o dalentog. Mae Awen y prifardd yn disgleirio drwy ei ryddiaith. Bron y gallwch chi glywed rhannau o gerddi yn y naratif. A gwae bwysigion rhestr fer llyfrau 2017 os na chaiff y gyfrol hon ei dyledus le arni.


Gomer - £7.99

 

Rhannu ar Facebook
Rhannu ar Twitter
Please reload

Cynnyrch Diweddar
Please reload

Dilynwch Y STAMP
  • Facebook Basic Square
  • Twitter Basic Square

Menter gydweithredol a redir yn wirfoddol yw Cylchgrawn Y Stamp, gyda'r bwriad o gynnig llwyfan i leisiau newydd a sefydledig ym mhob cyfrwng creadigol. Gwasg anibynnol newydd yw Cyhoeddiadau'r Stamp. Rydym yn gwerthfawrogi unrhyw roddion all ein gelpu i gyflawni'r nodau a osodwyd yn ein maniffesto. Os hoffech roi arian tuag at elfen benodol o'n gwaith, nodwch hynny yn eich sylwadau wrth yrru'r rhodd.

© 2019 gan Y STAMP. 

  • w-facebook
  • Twitter Clean