Cerdd: Druidstone - Elen Ifan

25.05.2017

ychwanegwyd gan

 

 

"Sgwennais i'r pwt ma tra mod i yn ymweld â Sir Benfro. Roedd fy viva PhD y dydd Mawrth canlynol ac roeddwn i'n dechrau swydd newydd ar y dydd Mercher, felly roedd na rhyw deimlad rhyfedd o limbo gen i dros y penwythnos, yn gwybod fod yr holl newidiadau ar y ffordd!"

 

 

Druidstone

 

Heidio eto i ben Sir Benfro,
I'n cartref Calan Mai,
I grwydro a gwledda hyd Fae Santes Ffraid.

 

Er gwaetha'r glaw roedd gwres yr eithin gwyllt
Yn goleuo'r llwybrau,
A fflachiadau llachar huganod yn plymio am eu cinio
Yn torri ar lwydni'r lli.

 

Eleni, mae newid ar droed,
A byddaf innau, fory,
Fel hugan -
Yn cymryd anadl ddofn
Cyn plymio i ddyfroedd newydd,
A thon arall yn torri dros fy mhen.

 

Elen Ifan

 

 

 

Rhannu ar Facebook
Rhannu ar Twitter
Please reload

Cynnyrch Diweddar
Please reload

Dilynwch Y STAMP
  • Facebook Basic Square
  • Twitter Basic Square

Menter gydweithredol a redir yn wirfoddol yw Cylchgrawn Y Stamp, gyda'r bwriad o gynnig llwyfan i leisiau newydd a sefydledig ym mhob cyfrwng creadigol. Gwasg anibynnol newydd yw Cyhoeddiadau'r Stamp. Rydym yn gwerthfawrogi unrhyw roddion all ein gelpu i gyflawni'r nodau a osodwyd yn ein maniffesto. Os hoffech roi arian tuag at elfen benodol o'n gwaith, nodwch hynny yn eich sylwadau wrth yrru'r rhodd.

© 2019 gan Y STAMP. 

  • w-facebook
  • Twitter Clean