Profiad: Pride Cymru – Jordan Price Williams a Beth Williams-Jones

01.09.2017

ychwanegwyd gan

Ar ol dod mas yn hoyw tra’n byw yng Ngymru gweddol oddefgar, doeddwn i ddim yn gweld y pwysigrwydd o gefnogi Pride. Mae hyn wedi newid yn gyfan gwbl ers tyfu o fod yn fachgen yn fy arddegau oedd yn byw bywyd lle’r oeddwn i’n cymryd pethau’n ganiataol. Mae 2017 wedi gweld y BBC yn amlygu achos y gymuned LGBTQ gyda nifer o raglenni dogfen am hanes hawliau’r gymuned. Sylweddolais fy mod i wedi bod yn ddiystyriol o gyn-frwydrau’r gymuned dros gael caru eu partneriaid yn rhydd.

 

Ar ôl sylweddoli ar yr ymdrechion hynod angerddol yma, roedd Pride Cymru yn brofiad gwahanol i mi eleni. Nid noson mas arferol oedd hi, ond noson o ddathlu go iawn wrth i’r gymuned LGBTQ rhyngwladol ddod at ei gilydd yng Nghaerdydd. Os edrychwn ni ar hanes diweddar y gymuned LGBTQ yn y Deyrnas Unedig, gwelwn y ddeddf yn atal gwahaniaethu ar sail rhywioldeb yn dod i rym yn 2010, ac yna’r Deddf Priodas Cyfartal yn 2014.

Dwi’n ffodus iawn i allu byw a charu yn agored yng Nghymru a’r DU, ond yn anffodus nid yw hyn yr un peth i bawb yn y byd. Mae rhai yn dal i gael eu herlid a’u cosbi yn weithredol oherwydd eu rhywioldeb. Mae Pride Cymru, a phob digwyddiad Pride yn hanfodol, nid yn unig i ddathlu’r rhyddid sydd gennym ni, ond hefyd er mwyn cynrychioli’r rhai sydd ddim eto yn cael byw a charu heb ofn.

 

Jordan Price Williams

 
Mae yna nifer fawr iawn o bethau dwi’n falch o fod ac yn ddiolchgar amdanyn nhw. Dwi’n falch o fod yn Gymraes ac yn falch fy mod i’n gallu treulio fy oriau gwaith yn chwarae a hybu cerddoriaeth a thraddodiadau Cymreig. Dwi hefyd yn ddiolchgar fy mod i â’r hawliau i briodi, i ddechrau teulu, ac hyd yn oed i ddal dwylo yn gyhoeddus gyda rhywun dwi mewn perthynas â nhw. Dwi wedi treulio nifer o flynyddoedd fel rhywun yn Ne Cymru yn brwydro am fwy o gyflesturau Cymraeg, am addysg trwy gyfrwng y Gymraeg, ac wrth i mi dyfu, am gadw’r iaith yn fyw yn y De. Mae’r Cymry wedi gorfod brwydro am degwch ac am yr hawl i siarad ein hiaith a dydy’r brwydrau hynny dal ddim drosodd. Nid yw brwydrau’r gymuned LGBTQ drosodd chwaith, ac mae dangos cefnogaeth fel rhywun sydd ddim yn hoyw yr un mor bwysig.

 

Erbyn hyn, mae tua 45% o’r cyhoedd yn cytuno â phriodasau rhwng dau ddyn/dwy fenyw, ac er fod hyn nawr yn gyfreithlon, mae’n amlwg fod lot o waith dal i’w wneud. Ers i mi gwrdd â fy ffrind gorau, Jordan, sy’n hoyw, dwi wedi sylweddoli pa mor bwysig ydy hi i’r rhai sydd ddim yn rhan o’r gymuned LGBTQ ddangos ein cefnogaeth i’r achos yma. Mae’r ŵyl Pride Cymru yn ddigwyddiad gorfoleddus, yn llawn pobl o bob math; teuluoedd cyfan a phlant yn dathlu cydraddoldeb. Serch hyn, mae yna nifer o wledydd lle mae’r gymuned LGBTQ yn ymladd am eu bywydau, heb son am gydraddoldeb. Tydw i yn bersonol heb wneud gwahaniaeth enfawr i’r gymuned LGBTQ hyd yn hyn, ond mi oeddwn i yna i gefnogi fy ffrind a phob un person sydd yn cael eu gorfodi i frwydro am yr un hawliau sydd gen i. Mi fydda i yna bob blwyddyn, i orymdeithio i ac i gefnogi pob un person sy’n rhan o’r gymuned LGBTQ. Yn fwy na dim, mi fydda i yna i orymdeithio i’r rhai na allant.

 

Beth Williams-Jones

 

 

 

Rhannu ar Facebook
Rhannu ar Twitter
Please reload

Cynnyrch Diweddar
Please reload

Dilynwch Y STAMP
  • Facebook Basic Square
  • Twitter Basic Square

Menter gydweithredol a redir yn wirfoddol yw Cylchgrawn Y Stamp, gyda'r bwriad o gynnig llwyfan i leisiau newydd a sefydledig ym mhob cyfrwng creadigol. Gwasg anibynnol newydd yw Cyhoeddiadau'r Stamp. Rydym yn gwerthfawrogi unrhyw roddion all ein gelpu i gyflawni'r nodau a osodwyd yn ein maniffesto. Os hoffech roi arian tuag at elfen benodol o'n gwaith, nodwch hynny yn eich sylwadau wrth yrru'r rhodd.

© 2019 gan Y STAMP. 

  • w-facebook
  • Twitter Clean