Cyfweliad: Where I'm Coming From- Durre Shahwar a Hanan Issa

04.04.2018

ychwanegwyd gan

 

Ers tua hanner blwyddyn bellach, mae digwyddiadau barddonol Where I’m Coming From wedi bod yn denu pobol o bob tras a chefndir at ei gilydd i wrando a datgan barddoniaeth yn y Tramshed yng Nghaerdydd. Un o olygyddion Y Stamp fu i un o’i digwyddiadau ym mis Chwefror i holi’r trefnwyr, Hanan Issa a Durre Shahwar am y fenter. Y mae Durre yn llenor, yn ddeilydd un o fwrsariaethau Llenyddiaeth Cymru eleni, ac yn dod o dras De Asiaidd, tra fod Hanan yn fardd a llenor o dras cymysg, Cymraeg ac Iraci.

 

Ond i ddechrau, rhaid oedd holi beth yn union ydi Where I’m Coming From, ac o ble daeth y syniad?

 

Durre: Yn syth wedi i mi raddio, roeddwn i’n mynychu lot o ddigwyddiadau open mic a nosweithiau barddoniaeth a spoken word yng Nghaerdydd. Roeddwn i’n sylwi mai demograffeg gweddol debyg oedd yn tueddu i droi fyny i’r digwyddiadau hynny, a dwi’n meddwl fel arfer mai fi fyddai’r unig berson o gefndir lleiafrifol yn yr ystafell.

 

Rydw i o blaid merched yn cefnogi merched o leiafrifoedd ethnig [women of colour], felly yr hyn roeddwn i eisiau eu wneud oedd dod o hyd i bobol fel fi yng Nghaerdydd. Dyma fi’n ymuno efo’r grŵp ‘Cardiff Women of Colour Feminists’ ar Facebook..

 

Hanan: Ia, grŵp Facebook, achos doedd na ddim lle diriaethol lle y galle ni ymgynnull...

 

Durre: ...Ie, felly fe wnes i bostio ar y grŵp yn holi, pe taswn i’n cychwyn digwyddiad spoken word ar gyfer merched o leiafrifoedd ethnig, neu o leia’n rhoi rhyw fath o restr at ei gilydd, a fyddai diddordeb, ac mi roedd yna lwyth.

 

Wrth i fi fynd ati i chwilio am leoliad lle gallwn i ei gynnal o, dyma Hanan yn cysylltu. Doeddwn i ddim yn cael unrhyw lwc wrth chwilio am leoliad, am fod prisiau yn rhy uchel. Ond mi gysylltodd Hanan, ac mi roedd hi fel “Yli, dwi wedi trefnu i gyfarfod efo criw y Tramshed, wyt ti eisiau dod efo fi?”

 

Hanan: Roedd o’n un o’r achosion hynny lle mae pobol wahanol yn meddwl am yr un syniadau ar yr un pryd, ac roedd o’n teimlo fel, o mai gosh, mae hi yn meddwl fel fi, ac o ddifri am hyn. Dwi o ddifri am hyn hefyd! Felly dyma ni’n mynd i’r Tramshed, ac mi roedden nhw’n wych efo ni. Siarado ni efo Caroline, sy’n reolwraig yma, ac mi holodd be oedd ein hamcanion ni, ac roedd hi isho bod yn ran ohono fo yn syth. Ac mae o wedi gweithio allan yn wych, mi yda ni wedi cael perthynas wych byth ers hynny.

 

Be ydi arwyddocâd yr enw Where I’m coming From?

 

Durre: Dyma ni’n ei ddewis o am ein bod ni’n teimlo ei fod o’n cynrychioli be oedden ni’n trio ei wneud efo’r meic agored yn dda, sef pontio bylchau rhwng cymunedau trwy gyfrwng geiriau a deialog. Roedden ni eisiau creu gofod diogel a allai roi llwyfan i ystod eang o leisiau o wahanol gefndiroedd a phrofiadau— gofod sy’n caniatáu inni fynd i’r afael â thestunau anodd, a gwthio ffiniau— ac er mwyn i bobol adael wedyn, wedi cael eu gorfodi i fynd i’r afael a’r testunau a themâu hynny. Weithiau, gwrando, a chael dy glywed ydi’r ffordd orau o gael effaith ar bobl.

 

Oes yna gynlluniau ar gyfer y dyfodol felly?

 

Hanan: Oes, yn sicir! Ryda ni wir eisiau datblygu ar y syniad ’ma o arddangos (mi ddefnyddia i y term, gan dy fod ti wedi ei ddefnyddio fo yn barod) yr amrywiaeth diwylliannol o fewn y celfyddydau, ac yn amlwg, ein harbenigedd ni ydi barddoniaeth, spoken word a rhyddiaith. Ein bwriad ni ydi dod ag artistiaid at eu gilydd, ac mae ganddo ni lwyth o syniadau. Y peth ydi, fel ti’n gwbod, mae o’n ddibynnol ar arian cyhoeddus.

 

Durre: Roedden ni’n meddwl gwneud gweithdai, a rhoi canllawiau at ei gilydd ar gyfer pobol greadigol newydd— ac fysa hwnna ddim hyn yn oed yn gorfod bod ar gyfer pobol BAME yn unig chwaith.

 

Hanan: Pan oedden ni’n dechre rhoi ein gwaith allan yn y byd, t’mod, cysylltu â chyhoeddwyr ac yn y blaen, y ffaith amdani oedd ei bod hi’n anodd iawn gwneud hynna. Dwi’n gwybod fod na ganllawiau ar gael, ond oni bai dy fod ti’n troi yn y cylchoedd cywir, fysa ti ddim yn gwybod lle i sbïo i gael y cyngor. Felly mi fysa ni’n hoffi creu rywbeth fydda ar gael i unrhyw un sy’n cychwyn sgwennu a gyrru eu gwaith allan i’r byd— i bobol sy’n meddwl ‘ww, fyswn i wrth fy modd yn gweld os oes gan hwn siawns o gael ei gyhoeddi mewn cyfnodolyn, neu gasgliad, neu rywbeth fela.’

 

Ryda chi wedi crybwyll cyhoeddi. Yn lle ddaru chi ddechrau cyhoeddi eich gwaith? Be oedd y peth cynta i chi gael ei gyhoeddi, ac yn lle?

 

Hanan: I fi roedd o mewn Cylchgrawn Merched Islamaidd. Ac mi roedd hynny fwy neu lai achos, pan fyddwn i’n gyrru fy ngwaith i gyfnodolion cyffredinol, roedden nhw wastad yn deud ‘dydio ddim y math o beth yda ni’n chwilio amdano fo’. Mae gan fy sgwennu i damed o flas y profiad Mwslemaidd ynddo fo, ond tydio ddim yn arbennig o grefyddol nac ysbrydol ei naws, felly doeddwn i ddim yn deall yr ymateb. Ond dwi’n meddwl weithiau, t’mod, mae pobol yn tueddi i sbïo ar be mae nhw’n wybod yn barod. Ond mae hynny’n newid. Mae pobol yn chwilio am leisiau gwahanol.

 

Durre: Mae pobol yn dod yn fwy ymwybodol fel ti’n dweud, o amrywiaeth, ac o hyrwyddo pobol o wahanol gefndiroedd, a’u storïau nhw.

 

Beth felly am gyhoeddiadau Cymreig? Ydych chi’n teimlo fod gofod i’ch lleisiau chi yno?

 

Hanan: Dwi’n gobeithio fod yna! Mae yna nifer o bethau tebyg yn y sialensau sy’n ein gwynebu ni fel merched o leiafrifoedd ethnig, a’r bobol hynny sy’n ceisio sefydlu pwysigrwydd yr iaith Gymraeg. Mae o’n ddifyr, achos er ei fod yr iaith yn ran o’r cwricwlwm, dydi pobol dal ddim yn deall yr hanes, nac yn deall y brwydro, ac mae hynny’n drist i mi fel rhywun sy’n hanner Cymraeg ac yn gwybod fod aelodau o fy nheulu wedi cael eu hatal rhag siarad Cymraeg ar rai adegau yn eu bywydau. Felly mi fyddwn i’n gobeithio fod modd cydweithio fymryn mwy. Ond dwi hefyd yn gweld lle gellid cael gwrthdaro. Dwi’n meddwl ei fod o’n mynd yn ôl i’r syniad o, os wyt ti eisiau creu gofod ar gyfer gwahaniaeth, ac mae’r gofod ti’n medru greu yn un cyfyng, wyt ti’n dewis rhwng siaradwyr Cymraeg, neu ferched o leiafrifoedd ethnig?

 

Durre: A dwi’m yn meddwl y dylsa fo orfod bod yn un neu’r llall. Roeddwn i mewn cyfarfod yn weddol ddiweddar, a wna i ddim dweud efo pwy, ond efo rhywun o fyd cyhoeddi, ac roedden nhw’n deud “Mi ryda ni eisiau cyhoeddi mwy o bobol o wahanol gefndiroedd, ac eisiau pobol amrywiol, ond t’ydyn nhw ddim yn dŵad ata ni”. Dwi’n meddwl fod honno’n agwedd broblematig. Dwi wedi cyhoeddi mewn cylchgronau Cymreig, a dwi’n meddwl fod hynny am fy mod i wedi bwl-dowshio trwy bob amheuaeth. Dwi’m yn tueddu i feddwl ‘tydi hwn ddim ar fy nghyfer i’, dwi jest yn ei wneud o. Ond dwi’n meddwl weithiau fod angen cael dull gwahanol o fynd ati lle ti’n annog yn fwriadol— fel wyt ti wedi gwneud, yn dod yn fwriadol yma i siarad efo ni— ti angen annog pobol o wahanol gefndiroedd yn benodol i wneud cais. Er enghraifft, os wyt ti’n gwneud galwad am waith, dylie ti ddeud yn benodol “ryda ni’n chwilio yn arbennig am waith pobol o gefndiroedd ethnig”. Mae hynny’n bwysig iawn. Dwi’n teimlo fod hynny’n rhan o’r rheswm pam fod pobol o gefndiroedd ethnig yng Nghymru weithiau ddim yn gyrru eu gwaith i gael ei gyhoeddi gan, falle y New Welsh Review, neu Poetry Wales, achos eu bod nhw’n teimlo nad ydi o ar eu cyfer nhw. 

 

Gawn ni droi felly at y syniad ’ma o hunaniaeth. Mae o’n amlwg yn rywbeth sy’n dod yn ran mwy a mwy pwysig o’r disgwrs ar hun o bryd. Hanan, rwyt ti yn disgrifio dy hyn fel rhywun ‘bi-racial’. Ga i ofyn beth mae hynny yn ei feddwl i ti?

 

Hanan: Mae o’n un o’r pethau hynny sy’n newid gymaint— un diwrnod mi fyddai’n teimlo mai bi-racial ydi’r ffordd iawn i ddisgrifio ac adnabod fy hyn, a’r diwrnod nesa fyddai’n meddwl na, mae cefndir ethnig cymysg yn ddisgrifiad mwy addas. I ddweud y gwir, dwi’m yn gwybod. I mi, mae bi-racial yn fodd o ddangos fod y ddwy hunaniaeth ethnig oddi mewn i mi yn gydradd. Rydw i mor Iraci ac ydw i’n Gymraes (er, peidiwch a deud wrth Nan!). Mae o’n rywbeth fyddai’n archwilio yn fewnol o bryd i’w gilydd.

 

Sut mae pobol yn ymateb i ti felly, fel Cymraes sy’n gwisgo Hijab?

 

Hanan: Dwi’n meddwl mod i wedi derbyn y sbectrwm llawn o ymatebion gan bobol. Ar un llaw, os fyswn i byth yn gwneud un rhywbeth i fynegi unrhyw fath o falchder yn fy hunaniaeth Arabaidd, mi fydda fy Nan yn benodol yn deud yn syth “Cymraes wyt ti gynta, paid ac anghofio hynny”.

 

Dwi wedi cael ymatebion o hwnna, reit fyny at “go back to your own Country”— a hynny, yn ddigon diddorol, gan Gocni. Felly ro’n i fel “met, dwi yn fy ngwlad fy hyn, be am i ti groesi’r ffin nol i un ti?”.

 

Dwi ddim yn teimlo fod y ddwy hunaniaeth yn wrthbwyntiau i’w gilydd. Dwi’n meddwl ei fod o’n ddifyr pan mae pobol yn holi’r cwestiwn, achos mae fy Nghymreictod i yn un ran ohona i, a fy nghrefydd yn ran arall, ac mae nhw’n tueddu i groestorri, yn hytrach na cwffio yn erbyn eu gilydd. Mae fy hunaniaeth Gymreig yn rywbeth dwi’n ymfalchïo ynddo fo, a dwi’n hoffi ei archwilio’n fwy dwfn. Enw canol fy mab ydi Lleu, fel Lleu Llaw Gyffes. Dwi wedi adrodd y stori iddo fo, a’i ymateb o oedd “Ond mae Lleu yn marw!”. Pethau fela, mae’n bwysig i mi eu bod nhw’n parhau, a fy mod i’n trosglwyddo’r cariad a’r balchder hwnnw i fy mab hefyd.

 

Pa mor bwysig yw hi felly i weld merched o leiafrifoedd ethnig sydd ddim dim ond yn cymryd rhan mewn digwyddiadau fel WICF, ond mewn rôl fel arweinwyr, yn trefnu a rhedeg y math yma o ddigwyddiadau?

 

Hanan: Mae o’n hanfodol er mwyn helpu llywio a rheoli ein naratifau. Po fwya ydi ymwneud merched o leiafrifoedd ethnig yn y cyfrynga, y mwya o straeon ac amcanion amrywiol allwn ni eu harchwilio. Mae o’n anodd newid pethau heb gael dylanwad, ond mae hi hefyd yn rhwystredig gorfod aros i rywun ‘estyn’ cadair i ti wrth y bwrdd.  Weithiau, os ydi gofod ddim yn teimlo’n gynhwysol, neu ddim yn ymddangos fel eu bod nhw’n gwrando ar beth mae merched o leiafrifoedd ethnig yn ei ddweud, yna mae rhaid i ti greu dy ofod dy hyn. Fel dwedodd Angela Davis mor huawdl “I am no longer accepting the things I cannot change, I am changing the things I can no longer accept.”

 

Durre: Dwi’n meddwl  ei fod o’n bwysig iawn fod merched o leiafrifoedd ethnig yn cael eu gweld yn arwain y digwyddiadau hyn. Ryda ni’n cael ein gadael allan o sgyrsiau prif lif pan mae’n dod i ffeministiaeth mor aml, ac mae pobol yn siarad ar ein rhan ni, yn lle rhoi llwyfan i ni. Yn rheolaidd mae na ddiffyg dull croestoriadol [intersectional] i ymgyrchoedd ffeministaidd, ac mi ryda ni yn llythrennol wedi ein sgwennu allan o hanes pan mae hi’n dod i hawliau merched a’r bleidlais. Mae o’n newid yn ara deg, ond mae yna dal waith i’w wneud. Mae angen newidiadau strwythurol, lle mae merched o leiafrifoedd ethnig yn arwain trefniant cymunedol fel WICF a nid jest yn cael eu cynnwys er mwyn rhoi tic yn y blwch amrywiaeth.

 


Cyfweliad wedi ei gynnal trwy gyfrwng y Saesneg yn wreiddiol, a’i gyfieithu gan Grug Muse efo caniatâd Durre Shahwar a Hanan Issa.

 

Rhannu ar Facebook
Rhannu ar Twitter
Please reload

Cynnyrch Diweddar
Please reload

Dilynwch Y STAMP
  • Facebook Basic Square
  • Twitter Basic Square

Menter gydweithredol a redir yn wirfoddol yw Cylchgrawn Y Stamp, gyda'r bwriad o gynnig llwyfan i leisiau newydd a sefydledig ym mhob cyfrwng creadigol. Gwasg anibynnol newydd yw Cyhoeddiadau'r Stamp. Rydym yn gwerthfawrogi unrhyw roddion all ein gelpu i gyflawni'r nodau a osodwyd yn ein maniffesto. Os hoffech roi arian tuag at elfen benodol o'n gwaith, nodwch hynny yn eich sylwadau wrth yrru'r rhodd.

© 2019 gan Y STAMP. 

  • w-facebook
  • Twitter Clean