Ysgrif: Ymwan â melinau gwynt - Morgan Owen

08.05.2018

ychwanegwyd gan

 

Pan ddaethant o’r brifddinas ymerodraethol a chwalu tai a thyrau’r cewri a llenwi beddi parod dwy ganrif o gloddio â phopeth oedd ar ôl, nid oeddwn yn bod; nid oeddwn yn poeni rhyw lawer a minnau’n wacter. Fe’m ganed wedi hynny mewn ffin-dre rhwng y ffridd a’r creithiau, ac roeddwn yn ddigon hapus fy myd. Pethau rhamantaidd i fachgen yw adfeilion unrhyw oes, ac ni all yr ifainc synhwyro dolur y meysydd gweigion. Pan ydym yn ifainc, rydym yn bod yn y byd fel rhan o’r cyfan yn edrych tu fas: daw diwedd mebyd fel drych i daflu’r golwg hwnnw yn ôl ac yn y dryswch dilynol fe enir oedolyn o ryw fath, ac os nad yw’n ofalus, syllu i mewn y bydd o hynny allan o hyd. I’r mewnsyllwr diarbed, mae pob lle a brofwyd yn y gorffennol yn dafol i ddal y presennol siomedig i gyfrif – ac mae’n dafol anonest o bendrwm. Ni chwympais i’r fagl hon, ond mae un lle imi sy’n mesur tueddiadau’r oesoedd.

 

Am y rhan fwyaf o’m bywyd (erbyn ysgrifennu hyn, hynny yw), bûm yn byw mewn tŷ a wynebai lain o dir diffaith, ôl-ddiwydiannol: hen waith brics. Cyn y gwaith, roedd y llain hon yn frith o siafftau’r pyllau glo; erbyn imi ddod i’w nabod, nid oedd dim yno, heblaw hen sylfaeni’r gwaith ac ychydig olion amrywiol yma a thraw. Roedd waliau ar eu hanner a’u chwarter, hen beiriannau a’u perfeddion ar wasgar yn pydru, ac, yn anochel, frics ar hyd y lle. Y dyddiau hynny, a minnau’n ifanc, dyna oedd ein paith lle’r aem i chwilota ac archwilio, ac yn fy nghof hyd heddiw mae’n estyn dros bellter cwbl amhosib (nid yw’r map yn parchu ystumiadau mebyd ar y tir). Po bella’r aem ar hyd-ddi, agosaf oll oedd y tipiau sorod serth a oedd yn nodi’r ffin rhwng ein rhan ni o’r dref a’r rhan gyfagos: mynydd briwsionllyd llwyd i fachgen. Roedd y dirwedd hon imi ar y pryd yn hollol loerig – yn ystyr lythrennol y gair: tirwedd graterog anghyfannedd ddi-fywyd. Wrth reido’n beiciau drwy’r blerwch mawr agored, roeddem yn patrolio’n tiriogaeth ein hunain, ac fel gwastatiroedd y ffilmiau cowbois, roedd y lle hwn yn ddigyfraith ac yn ddi-drefn – rhyddid y dadfeilio a’r ymddatod. Gallem fod ar herw fan hyn heb gymhlethdodau. Serch hynny, nid oedd yr adfeiliedigrwydd yn ennyn tristwch na myfyrdod o unrhyw fath y dyddiau hynny. Daeth y pendroni’n ddiweddarach.

 

Tirwedd a wynebai’r tŷ, fe gofiwch imi nodi uchod. Daeth yr un grymoedd cyfrwys a greodd y rwbel a’r gwacter yn y lle cyntaf yn ôl yn annisgwyl. Ni roddwyd llonydd i’r diffeithwch. Dywedir wrthym fod y Cymry’n hoff o drioedd, ac yn gyfleus iawn, mae tri cham i’r newid ar y tir hwn: y cyfarwydd; yr anhysbys; ac, yn olaf, yr anghredadwy. Rhywbeth arall a’n hwynebai yn y man.

 

Rydym wedi clywed am y cyfarwydd, y lle llawn ceudyllau a malurion diwydiannol; neu o leiaf am yr hyn oedd yn gyfarwydd imi. Mae yna rai yn y pentref sy’n cofio’r gwaith brics, a gwacter gwahanol a welent hwy yno, wrth reswm. Ond fel sy’n chwannog i ddigwydd, cafwyd gwybod bod y tir neb hwn yn eiddo i rywun neu rywrai wedi’r cyfan. Tywyll oedd y manylion, ac roedd sïon ar led yn y dref. Sylwodd ambell un ar ddynion gydag offer mesur ar y llain o bryd i’w gilydd, ac roeddent yn dod yn amlach. Yn sydyn, dros nos, codwyd ffens o’i hamgylch. Daethai’r lle dros y blynyddoedd yn rhyw fath o dir comin i’r trigolion lle byddent yn cerdded, mynd â’r ci am dro, ac ati, ac felly ryfedd oedd y datblygiadau hyn. Erbyn hyn, gwyddai pawb fod cytundeb wedi’i lofnodi yn rhywle, a bod arian wedi newid dwylo, ac yn y man, roedd hi’n swyddogol: prynwyd y safle gan gorfforaeth fawr. Diymadferthedd oedd ar droed.

 

Nid unrhyw hanesyn cyffredin yw hwn: mae’r hyn a wnaethpwyd yn dramateiddio, drwy gyfrwng y tir, rywbeth ehangach – ysbryd oes. A dyma ddod at yr ail gam. Fel llucheden o gyflym, cafodd y llain ei llwyr wastatáu. Cliriwyd yr holl weddillion a llanwyd pob twll a phannwl, nes bod y safle’n hollol unffurf a fflat a llwyd. Nid oedd dim ynghylch hanes y lle a oedd yn ennyn sentimentaliaeth, ond roedd yr olion o leia’n tystio i adeg pan oedd rhywbeth yn digwydd, pan oedd pwrpas o ryw fath. Roedd yn atgof gweledol a oedd yn clymu’r gorffennol â’r presennol; bron na ellid ei alw’n fap. Dygai nodau’r glofeydd a’r gweithfeydd yn llythrennol. Ond sgwriwyd y ddalen yn lân nes nad oedd yn dweud dim o gwbl. Ac i ychwanegu at y dryswch sy’n dilyn y fath ddilead, codwyd ffens braffach o amgylch y safle a oedd bellach yn cael ei oruchwylio ddydd a nos. Parhâi’n hollol weladwy i bawb, gan ei fod ar fymryn o godiad tir, ond dim ond eu golwg a âi yno o hyn allan. Aeth y dirwedd hon a oedd yn gyfeirbwynt lleol yn ddim, yn ddiffeithach nag unrhyw ddiffeithdir. Ni châi hyd yn oed chwyn dorri ar y dimbydrwydd.

 

Arhosodd y gwastatedd newydd yn gwbl wag fel hyn am flynyddoedd, yn rhyfedd ddigon, wedi’r holl ymdrech i’w ddwyn o’r anhrefn adfeiliog. Roedd sïon eraill ar led bellach, a dyddiadau cychwyn ar y gwaith adeiladu yn mynd a dod, a rhai newydd, pellach yn cymryd eu lle. Ac yn addas iawn yng nghyd-destun y Cymoedd, roeddem yn syllu yn ystod y blynyddoedd hynny ar wacter.

 

Daeth y gwaith adeiladu yr un mor ddisymwth â’r gwastatáu, heb rybudd. Cyraeddasai byddin o gerbydau cawraidd a phob math o dyllwyr a chraeniau, ac wrth iddynt lenwi’r llain, sylweddolwyd mor anferthol fyddai’r adeilad yn y pen draw. A beth fyddai hwnnw? Anodd ei ddisgrifio: warws a fydd yn gwerthu popeth, unrhyw beth. Ynghyd â’r adeilad warysaidd hyll i’w godi mor gyflym a rhad â phosib, byddai trên bychan, llyn, bwyty, gorsaf betrol: cyfalafiaeth barodïaidd a gwallgof sy’n ceisio llunio byd bach lle mae popeth yn seiliedig ar dynnu elw. Byd bach heb gymunedau. Afraid dweud na fyddai unrhyw gyswllt rhwng hyn oll a hanes yr ardal, na hanes y tir ei hun y mae’n sefyll arno.

 

Amser maith yn ôl, gweithiai pobl yno o dan y ddaear dan amgylchiadau sâl, ond er gwaethaf hynny, trwy ddod ynghyd a chyd-dynnu, ymffurfiasant yn gymuned, a gwellasant eu hamodau byw a gweithio drwy ymdrefnu a chydweithredu: daethant yn gymdeithas. Y rhain oedd yn brwydro’n barhaus nes ymgyrraedd at yr hyn a ddaeth yn sylfaen cymunedau’r Cymoedd – cyn y chwalu. Roedd ganddynt bwrpas; roedd ganddynt ei gilydd. Wedi’r dirwasgiadau, ac wedi i’r glofeydd gau, sef yn gynt yn Heolgerrig nag mewn rhannau eraill o’r Cymoedd, cafwyd ambell ffatri a gweithfa, ac felly’r gwaith brics y chwaraewn ymysg ei weddillion. Hyd yn oed pan oedd yn adfeiliedigrwydd, diffinnid y tir hwn gan ymwneud y bobl ag ef, drwy’r da a’r drwg. Ond wrth i’r warws-gwerthu-popeth ymblannu yno, torrwyd y cyswllt. Er gwaetha cost aruthrol yr adeiladu, ni newidiwyd dim ar amgylchiadau’r bobl: nid buddsoddiad oedd hwn, ond cyfle i’r gorfforaeth elwa ar dir rhad a childyrnau gan yr awdurdodau. Ni fyddai pobl yr ardal yn gallu gwario eu ffordd mas o’r gwacter. Nid yw hynny mor syml â llenwi’r hen siafftau glo. Nid yw’r siopfeydd dirfawr hyn yn llefydd o gwbl; gallant fod yn unrhyw le, ac yn wir dyna yw eu pwynt. Gwrth-lefydd ydynt.

 

Ond y cam olaf yw’r anghredadwy. Nid digon oedd codi rhyw siop enfawr mewn ardal sydd wedi bod yn gweddïo am swyddi o ansawdd ers degawdau; erbyn i’r adeilad nesu at ei gyflwr gorffenedig, codwyd tyrau arno ac o’i amgylch. Dyna yw e: warws gwyn-lwyd dur yr un maint â channoedd o gaeau pêl-droed, a thyrau castellaidd hollol hurt (yn amlwg fe’u codwyd yn y modd rhataf posib) fel melinau gwynt arfog yn weladwy o bob man o ochr arall y cwm a’r ardaloedd cyfagos. Liw nos, mae llifoleuadau’n taflu golau llym drostynt a thros y tai sydd lai na chanllath i ffwrdd o’r safle. Mae’n ymdebygu i wersyll milwrol neu garchar, ond bod disgwyl i’r carcharorion fynd yno o’u gwirfodd. Dyma gaer gyfalafol sy’n syllu’n heriol ar bawb islaw.

 

Codwyd castell heb fod iddo hanes. Cofiaf ddarllen pan oeddwn yn iau a’r safle’n wag o hyd am Don Quixote yn ymwan â melinau gwynt yn ei wallgofrwydd, ac wrth gwrs, defnyddir yr ymadrodd ‘ymwan â melinau gwynt’ (tilting at windmills) i ddynodi brwydr ofer, ac yn benodol, ymladd brwydr ddi-bwrpas yn erbyn gelyn dychmygedig neu hollol ddistadl. Efallai y byddai ymwan â’r tyrau melinaidd hyn yn weithred ofer, yn enwedig gan fod byddin o gontractwyr ‘diogelwch’ – troedfilwyr y corfforaethau – yn eu gwarchod, ond nid anobaith yw hi i gyd, ac nid dychmygedig mo’r gelyn na’r frwydr. Nid yw’r cedyrn yn cuddio y tu ôl i furiau praff: ffug-rwysg yw’r tyrau. Wrth i’r oes hwyr-gyfalafol fynd rhagddi, ac wrth i adnoddau brinhau a phobl ymgynhyrfu a chyfoeth grynhoi yn nwylo llai a llai o bobl oruwch-gyfoethog, mae’r awydd am newid – am chwyldro – yn ymnerthu. Aiff cyfalafiaeth yn barodi fwyfwy o’i hunan, nes y bydd yn ei thraflyncu ei hunan yn ei awydd – ei angen – parhaus i draflyncu elw. Tra bo cymuned, er mor ddarniog, bydd gwrthsafiad. Mae’r adeilad hwn yn amlygiad o’r cam gorffwyll hwnnw yn ei datblygiad.

 

Gwelais ar y llain hon o dir esgyniad a chwymp yr amseroedd, a chyda phob cwymp, anhysbyswyd y tir. Amlygiad llymaf y gwacter hyd yma yw’r un diweddaraf: prynwriaeth ddi-enw, ddi-gymuned, ddi-hanes. Unwaith eto, bydd rhaid cyd-dynnu, cyd-ddyheu, a chyd-weithredu’n gymuned i osgoi’r gwastatáu parhaus ar ein cyd-fod; a nawr bod tyrau’r gaer mewn golwg, rhaid sefyll ein tir, neu fe’i cymerir oddi tanom.

 

 

 Morgan Owen 

Llun: Bethan Scorey (gweler Y Stamp: Rhifyn 4)

 

 

 

 

Rhannu ar Facebook
Rhannu ar Twitter
Please reload

Cynnyrch Diweddar
Please reload

Dilynwch Y STAMP
  • Facebook Basic Square
  • Twitter Basic Square

Menter gydweithredol a redir yn wirfoddol yw Cylchgrawn Y Stamp, gyda'r bwriad o gynnig llwyfan i leisiau newydd a sefydledig ym mhob cyfrwng creadigol. Gwasg anibynnol newydd yw Cyhoeddiadau'r Stamp. Rydym yn gwerthfawrogi unrhyw roddion all ein gelpu i gyflawni'r nodau a osodwyd yn ein maniffesto. Os hoffech roi arian tuag at elfen benodol o'n gwaith, nodwch hynny yn eich sylwadau wrth yrru'r rhodd.

© 2019 gan Y STAMP. 

  • w-facebook
  • Twitter Clean