Ymateb: Llyfr y Flwyddyn 2018 - Catrin Beard, Lisa Sheppard, Gareth Evans Jones

15.05.2018

ychwanegwyd gan

Heb os, mae cystadlaethau a gwobrau llenyddol yn ffordd dda o ysgogi trafodaethau di-ri - a thrafodaethau tanllyd iawn ar adegau. A gafodd so and so gam? Pwy breibiodd betingalw er mwyn cael ei le ar y restr? (Nid, wrth gwrs, ein bod ni'n awgrymu i neb wneud y ffasiwn beth eleni - Gol) Beth oedd ar feddwl y beirniaid yn dewis y gyfrol yna? A beth yw pwynt y fath gystadlu yn y lle cyntaf? 

 

Gan obeithio cyfrannu i'r drafodaeth honno, dyma ni'n cynnig cyfle i dri beirniad answyddogol rannu eu barn ar restrau byrion y gwobrau - sydd wedi eu cynnwys yn yr erthygl hon gan BBC Cymru Fyw. Felly dyma beth sydd gan Catrin Beard, Lisa Sheppard a Gareth Evans Jones i'w ddweud, ond cofiwch chi hefyd rannu barn, gan ddefnyddio hashnod Llenyddiaeth Cymru, #LLYF18.

 

Mi fydd enwau'r enillwyr yn cael eu cyhoeddi mewn seremoni wobwyo yn y Tramshed, Caerdydd ar y 26ain o Fehefin. 

 

 

Catrin Beard

 

Pe bawn i’n feirniad Llyfr y Flwyddyn eleni, byddai’r rhestr yn bur wahanol…

 

…dwedodd pawb, bob blwyddyn.

 

Efallai mai arwydd o ffyniant y diwydiant cyhoeddi yw hi fod cyfrolau teilwng yn cael eu hepgor. Sut arall mae esbonio nad oes lle ar y rhestr fer i Syllu ar Walia gan Ffion Dafis? Campwaith o gyfrol wreiddiol, onest a dadlennol yn rhoi darlun ‘warts and all’ o unigolyn cyhoeddus, a pha mor aml mae un o’r rheini’n ymddangos yn Gymraeg?

 

Dim syndod gweld enw dwy fenyw gryf greadigol arall ar y rhestrau serch hynny; Gwyneth Lewis a Catrin Dafydd, gyda gweithiau’r ddwy yn haeddu ennill eu categorïau.

 

Da gweld enw Mihangel Morgan ar y rhestr unwaith eto, er y byddwn i wedi dewis y gyfrol arall a gyhoeddodd yn 2017, 60, yn hytrach na Hen Bethau Anghofiedig. Ac er fy mod yn cytuno bod Fabula gan Llŷr Gwyn Lewis yn gyfrol dda, gwerthfawrogi ei chlyfrwch wnes i yn fwy na’i mwynhau.

 

O’r naw cyfrol, Gwales ddylai gael y wobr. Nofel gymhleth, eang ei chwmpas a’i themâu, ond sydd hefyd yn cadw sylw’r darllenydd ac yn bleser pur i’w darllen.

 

Lisa Sheppard

 

Rwy’ mor falch o weld All That is Wales, casgliad o ysgrifau gan M. Wynn Thomas ar restr fer y categori Ffeithiol Greadigol Saesneg. Mae cyfraniad Wynn i feirniadaeth lenyddol Gymreig yn amhrisiadwy – mae wedi cyhoeddi ar awduron sy’n sgwennu’n Gymraeg ac yn Saesneg o wahanol gyfnodau, ac mae’r gyfrol hon yn enghraifft bellach o’i waith treiddgar a phwysig.

 

Mae yma drafodaeth ar awduron fel Lynette Roberts, Dylan Thomas, Gillian Clarke a Leslie Norris, â’r gyfrol yn dadlau bod modd ystyried Cymru yn wlad ‘ficrogosmopolitaidd’ - ei bod yn dangos nad mewn diwylliannau mwyafrifol yn unig y gellir canfod amrywiaeth ddiwylliannol, ond ei bod yn elfen ffurfiannol mewn diwylliannau lleiafrifol neu ymylol hefyd. Ond yn fwy na thystio i rinweddau amlwg y gyfrol hon, mae cynnwys ei waith ar y rhestr fer yn deyrnged gwbl haeddiannol i rywun sydd wedi ymroi ar hyd ei yrfa i ddangos yn ddiymwad fod gan ddiwylliannau Cymraeg a Saesneg Cymru bethau yn gyffredin a’u bod yn werth eu trafod ochr yn ochr a’i gilydd.

 

Bu ei gyfrolau fel Internal Difference (1992) a Corresponding Cultures (1995) yn braenaru’r tir i’r beirniaid sydd wedi dilyn ei gamrau, ac fel un o sylfaenwyr Cymdeithas Llên Saesneg Cymru mae wedi ysbrydoli cenedlaethau o feirniaid llenyddol o Gymru a thu hwnt i ddwysáu ein dealltwriaeth o’r gornel fach ond arwyddocaol hon o’r byd - ac wedi bod mor gefnogol a chroesawgar i bawb sy’n ceisio ymgymryd â’r dasg honno.

 

Yn wir, mae’n drueni yn fy marn i nad yw’r gyfrol Gymraeg a gyhoeddwyd ganddo y llynedd, Cyfan-dir Cymru (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru), ar y rhestr fer yn y categori Ffeithiol Greadigol Cymraeg - byddai hynny wedi coroni’r cyfan!

 

Gareth Evans Jones

 

Roeddwn i fel sawl un arall ar fore Gwener, yr 11eg o Fai, yn cadw llygad barcud ar ffrwd Trydar Llenyddiaeth Cymru er mwyn gweld pa gyfrolau oedd wedi cyrraedd rhestr fer Llyfr y Flwyddyn eleni. A braf oedd gweld fy mod wedi darllen y rhan fwyaf o’r cyfrolau Cymraeg ac ambell un Saesneg. Ond dyma ganolbwyntio ar ddweud gair am y cyfrolau Cymraeg.

           

Yn y categori Ffuglen, mae nofel ddyfodolaidd arloesol Catrin Dafydd, Gwales, cyfrol o straeon byrion hynod grefftus, Llŷr Gwyn Lewis, Fabula, a Hen Bethau Anghofiedig, nofel arswyd Mihangel Morgan sy’n sicr yn llwyddo i godi cryd ar y darllenydd. Yn y categori Ffeithiol Greadigol, mae Blodau Cymru: Byd y Planhigion, sy’n fath o wyddoniadur cynhwysfawr i blanhigion y wlad gan Goronwy Wynne. Yn y byd naturiol y mae Meddyginiaethau Gwerin Cymru, Anne Elizabeth Williams hefyd wedi’i wreiddio. A’r trydydd yn y categori ydi cofiant cyflawn cyntaf T. E. Nicholas, Ar Drywydd Niclas y Glais gan Hefin Wyn. Dydw i ddim wedi darllen y ddwy gyfrol olaf yma, ond maen nhw acw yn barod imi fynd i’r afael â nhw. A’r tair cyfrol yn y categori barddoniaeth ydi Caeth a Rhydd, Peredur Lynch, Treiglo, Gwyneth Lewis, a Llif Coch Awst, Hywel Griffiths – mi ddywedaf fwy amdanyn nhw yn y man.  

           

Wedi gweld y dewis diddorol o deitlau a chydymdeimlo efo’r beirniaid am y gwaith anodd sydd ganddynt o’u blaen, dyma godi fy mhen o’m nyth a gwrando ar sawl aderyn yn trydar o’m cwmpas:

 

‘Dewis difyr, ond lle mae Porth y Byddar?’

‘Iawn, ’de, ond lle oedd Syllu ar Walia’?’

‘Beth am Ar Ddisberod a Hel Hadau Gwawn?’

 

Ac mi glywais sawl titw tomos las wedyn yn chwarae’r gêm, ‘Pa gyfrol sydd heb gyrraedd y rhestr fer ... a pham?’

           

Yr hyn sy’n wych ydi’r ffaith fod cystadleuaeth fel Llyfr y Flwyddyn yn dal i allu ennyn y fath ymateb a thrafodaeth, gan danlinellu, ar y naill law, bwysigrwydd ei chynnal ac, ar y llaw arall, gymaint o lyfrau safonol sydd bellach yn dod o stablau gweisg Cymru fel bod modd cael gwir gystadleuaeth.

           

Wrth imi fentro’r tu allan i’m nyth, dyma fi’n clywed brân yn crawcian am y categori Barddoniaeth, gan fynnu mai hwnnw oedd yr hawsaf ichi fedru cyrraedd ei restr fer. Teg dweud fod llai o gyfrolau barddoniaeth yn cael eu cyhoeddi na chyfrolau ffuglen neu ffeithiol greadigol, ond dylai’r frân gofio bod sawl cyfrol o farddoniaeth arbennig arall allasai fod wedi eu cynnwys eleni; ac mae’r tair sydd wedi eu gosod yn y categori hwnnw yn rhai safonol iawn.

           

Cyfrol farddoniaeth gyntaf Peredur Lynch ydi Caeth a Rhydd: cyfrol sy’n llawn cerddi crefftus ag amryw ohonynt yn canu’n y cof yn hir wedi’r darllen; yn enwedig felly’r farwnad i Gwyn Thomas a’r dilyniant arbennig er cof am dad y bardd, y Parch. Evan Lynch. Digwydd bod, ‘y tad’ yw un o elfennau canolog Treiglo, Gwyneth Lewis hefyd, ac, fel sy’n nodweddiadol o waith y Prifardd o Gaerdydd, dyma gasgliad o gerddi ffres a dyfeisgar sy’n cyfuno’r dwys a’r digri am yn ail. Llif Coch Awst gan Hywel Griffiths ydi’r gyfrol olaf yn y categori. Dwi’n cofio prynu hon yng Ngŵyl Arall y llynedd a doedd ’na fawr o sgwrs i gael gen i yn ystod y pnawn Sadwrn. Dyma eto gyfrol grefftus, sy’n cyfuno dealltwriaeth y daearegydd o’r byd naturiol â dawn y prifardd i sylwebu ar y natur ddynol. Mi fydd yn dipyn o gur pen i Beti George, Caryl Lewis ac Aneirin Karadog ddewis pa un o’r tair fydd yn mynd â gwobr y categori, heb sôn am orfod dewis pa lyfr fydd yn mynd â’r brif wobr. Amser a ddengys.

           

A dyna fydd yn wych pan gyhoeddir y canlyniad yn y seremoni wobrwyo yn y Tramshed, Caerdydd ar y 26ain o Fehefin eleni: bydd gennym Lyfr y Flwyddyn 2018 swyddogol, a bydd hwnnw naill ai’r un fath neu’n wahanol i’n llyfr y flwyddyn unigryw ni’n hunain.

           

Yn y cyfamser, cawn fwynhau trafod a phori drwy’r holl gyfrolau Cymraeg a Saesneg sydd ar y rhestrau byrion wrth wrando ar safbwyntiau amrywiol yr adar yn trydar o’n cwmpas.

 

Rhannu ar Facebook
Rhannu ar Twitter
Please reload

Cynnyrch Diweddar
Please reload

Dilynwch Y STAMP
  • Facebook Basic Square
  • Twitter Basic Square

Menter gydweithredol a redir yn wirfoddol yw Cylchgrawn Y Stamp, gyda'r bwriad o gynnig llwyfan i leisiau newydd a sefydledig ym mhob cyfrwng creadigol. Gwasg anibynnol newydd yw Cyhoeddiadau'r Stamp. Rydym yn gwerthfawrogi unrhyw roddion all ein gelpu i gyflawni'r nodau a osodwyd yn ein maniffesto. Os hoffech roi arian tuag at elfen benodol o'n gwaith, nodwch hynny yn eich sylwadau wrth yrru'r rhodd.

© 2019 gan Y STAMP. 

  • w-facebook
  • Twitter Clean