Stori Fer: Rhywbeth rhyfedd yn y dŵr - Seran Dolma

03.07.2018

ychwanegwyd gan

          Mae 'nhad yn gwisgo mantell o fflamau, ac yn marchogaeth trwy'r awyr ar gefn teigr, ei lygaid yn poeri mellt a'i lais yn atseinio fel taranau o amgylch y clogwyni.  Mae fy mam yn gorwedd yn wyrdd a chysglyd yn yr heulwen, ei chorff yn llyfn a llonydd, dŵr yn cronni yn ei phantiau ac yn anweddu o'i hysgwyddau.  Os oes ganddi hi lais, dyw hi ddim yn gweld angen ei ddefnyddio, ond i sibrwd weithiau wrth ei phlant fel awel trwy'r grug: '’na ni 'nghywion i, na phoenwch, mae mami yma'.  Rhoddodd i ni ein maeth a'n magwraeth, ein llawenydd a'n hiraeth, a bu pethau felly am yn hir hir iawn, nes daeth y glaw a thywallt mor ddidrugaredd ar bennau'r bryniau nes golchi ymaith ddarnau mawr o gnawd a chig y tir, gan adael esgyrn moel yn dangos trwodd, a mam yn griddfan mewn poen.  Dyna pryd y'm golchwyd innau ymaith hefyd.  Rowliais allan o'r ogof, yn goesau a breichiau ac onglau miniog i gyd, ond yn fach, fach, fel plankton.  Ni allwn ymwrthod â grym y llif, ac er i mam erfyn am i mi aros, mynd oedd raid, ac nid oedd hi'n hollol ddrwg gen i am hynny.  Tasgais gyda'r dŵr a'r dail a'r mwd a'r cerrig mân yn un rhaeadr dros ochr y dibyn ac i lawr oddi wrth y mynydd, ac er bod pob trawiad yn anaf, a phob anaf yn golled, rhywsut, fe fûm i'n bwydo ar rym rhuthr y dŵr, oherwydd er i mi golli rhai o'm coesau a'm breichiau, ac i'r onglau miniog gael eu rhwbio ymaith, deuthum i gynyddu o ran maint.  Tyfu, a rhowlio, a llyfnio, a thasgu i lawr pob rhaeadr yn hollol ddi-hid heb unwaith aros i feddwl, nes glanio yng ngwaelod pwll dwfn yn yr afon, ac er bod y dŵr yn dal i lifo uwchben, roeddwn i bellach mor drwm nes fy mod wedi suddo i'r gwaelod, ac yno y byddwn i hyd heddiw mae'n siŵr oni bai i fachgen dewr oedd eisiau dangos ei hun blymio i'r gwaelod a 'nghario i fyny i ddangos i'w gariad.  Dewisodd fi am mai fi oedd y peth mwyaf oedd o'n medru ei godi oddi ar waelod y pwll, ond doedd ganddo ddim meddwl amdanaf heblaw am hynny, ac wedi sefyll am funud yn diferyd yn yr haul, ac oerni'r afon yn amdo ar ei groen, taflodd fi cyn belled ag y gallai i lawr yr afon, i ganol llif y dŵr gwyllt, gwyn, ac i ffwrdd a fi eto ar fy nhaith, yn gyffro i gyd, ac yn cynyddu, fel caseg eira.  Erbyn cyrraedd y gwastatir gwyrdd lle mae'r afon yn ymlwybro'n nadreddog rhwng trefi, roeddwn i wedi deall fod gen i ewyllys, a'r gallu i symud ar fy liwt fy hunan.  Roeddwn i'n fwy o lawer, ond yn ysgafnach hefyd; gallwn arnofio ar ben y dŵr fel cwch neu ddeilen, a dewis pa ffordd i hwylio a ble i aros.  Yn y pen draw, sylweddolais y gallwn nid yn unig arnofio, ond hyd yn oed ymsymud ar wyneb y dyfroedd, neu adael yr afon yn gyfan gwbl, a symud fel rhith, neu ledrith, dros dir coediog, gwlyb, creigiog neu boblog. 

 

Pan ddois i at y ddinas llithrais dros ymyl y dŵr, dros ben wal, a chael fy syfrdanu o weld y goleuadau'n disgleirio ac yn adlewyrchu ar y dŵr, a chlywed rhu y traffig (meddyliais i ddechrau mai heidiau o anifeiliaid newydd, ffyrnig, oedd yn gwneud y sŵn).  Roedd 'na gychod a cheir a beiciau a goleuadau stryd, a choed a'u gwreiddiau wedi caethiwo o dan gerrig palmant. 

 

Llithrais trwy ddrws ble roedd y sŵn yn fyddarol, fel rhu'r afon pan mae'n plymio ar ei anterth dros ddibyn. Roedd y golau yn symudol, yn wan fel y golau ar waelod pwll pan fo'r haul yn methu cyrraedd trwy'r dŵr mawnog, ac roedd pawb ar eu traed, yn symud ac yn llithro yn erbyn ei gilydd, fel gwymon.  A dyna pryd y'i gwelais hi. 

 

Roedd hi'n siglo'i chluniau, a'i breichiau ar led, yn sianelu pwerau'r bydysawd.  Gwenai fel petai popeth yn llawenydd, a disgleiriai ei llygaid yn y tywyllwch swnllyd.  Roedd hi mor gryf; sugnodd fi i lawr i'w hysgyfaint ar un anadl.  Mwythais gefn ei gwddf ar y ffordd i lawr, gan wneud iddi chwerthin. Amsugnais i mewn i'w gwaed, ac ymgartrefu yn ei chalon, a dyna lle'r ydw i'n byw yn awr, yn aros am fy nghyfle.

 

 

Seran Dolma

 

Rhannu ar Facebook
Rhannu ar Twitter
Please reload

Cynnyrch Diweddar
Please reload

Dilynwch Y STAMP
  • Facebook Basic Square
  • Twitter Basic Square

Menter gydweithredol a redir yn wirfoddol yw Cylchgrawn Y Stamp, gyda'r bwriad o gynnig llwyfan i leisiau newydd a sefydledig ym mhob cyfrwng creadigol. Gwasg anibynnol newydd yw Cyhoeddiadau'r Stamp. Rydym yn gwerthfawrogi unrhyw roddion all ein gelpu i gyflawni'r nodau a osodwyd yn ein maniffesto. Os hoffech roi arian tuag at elfen benodol o'n gwaith, nodwch hynny yn eich sylwadau wrth yrru'r rhodd.

© 2019 gan Y STAMP. 

  • w-facebook
  • Twitter Clean