Ymateb: Cerddi'r Gadair - Judith Musker Turner

30.08.2018

ychwanegwyd gan

‘Porth’ gan Gruffudd Eifion Owen 

 

 

Addas, wrth ystyried pwnc ei awdl, oedd i mi glywed y newyddion bod Gruffudd Eifion Owen wedi ennill y Gadair eleni dros Trydar, ac i mi gael fy mlas cyntaf o’i gerdd ar fideo a grëwyd ohoni gan Hansh ar gyfer YouTube (rwy’n hoff iawn o gyfres Beirdd // Beats fel ffordd wahanol o rannu barddoniaeth), a hynny ymhell cyn cael gafael ar gopi o’r Cyfansoddiadau.

 

Cerdd am ein dibyniaeth ar ein ffonau a’r cyfryngau cymdeithasol yw awdl ‘Porth’ Gruffudd Eifion Owen, ond mae’n gerdd am lot mwy, a lot llai na hynny hefyd. Hynny ydy, mae’n gerdd sy’n arsylwi’n graff ar sawl agwedd o gyflwr ein bywydau cyfoes, ond sy’n llwyddo i wneud hynny trwy gyfrwng  penillion darniog am wylio Netflix, hel atgofion am lwyddiant Cymru yn yr Ewros, pori drwy Trydar, colli bws a ffeindio merch ar Tinder. Mae pob pennod unigol o’r gerdd yn trafod pethau cymharol ddibwys – ac fe gymysgir hyd yn oed y darnau mwy difrifol lle y mae’r prif gymeriad yn cofio ei gyn-gariad, â disgrifiadau o’r lluniau o ‘hen-dos a phartis ffrindiau’ sydd ar ei phroffil ar y we.      Ond fel cyfanwaith maent yn ail-greu meddylfryd ein cymdeithas ar-lein, ddidaro, sgrolio-o-hyd, ac yn creu gofod i archwilio goblygiadau’r meddylfryd hwnnw. Dewisiad perthnasol yw’r dyfyniad gan Yr Ods ar ddechrau’r awdl felly: ‘Llenwa fi â sothach lliwgar o America, cyfog melys at fy mhoena’.

 

Yr hyn sy’n dal y gerdd at ei gilydd ac sy’n caniatáu’r bardd i fynd ati i adleisio arddull y ffrwd newyddion heb golli rheolaeth o’r gerdd yw’r gyfres o englynion milwr agoriadol a’r ddau bennill o hir-a-thoddaid sy’n dilyn. Disgrifia’r chwe englyn milwr sy’n agor y gerdd y weithred gyfarwydd, bob dydd o fynd i wely, codi’r ffôn a ‘Tseicio Twitter ran ’myrra’th’. Ond canolbwyntia’r englynion ar arwyddocâd y weithred hon - y diflastod, yr unigrwydd a’r gwacter ystyr mae’n cynrychioli:

 

      Y flwyddyn yn chwalu’n chwim

      yn ddarnau dyddiau diddim.

      Heno dwi’n damio g’neud dim.

 

Wedi tynnu sylw’n gynnil o'r dechrau at oblygiadau ein harfer o fod ynghlwm i’n ffonau, rhyddheir y bardd i fynd ati i greu byd o bytiau digidol digyswllt a meddyliau tameidiog y prif gymeriad, a gadael i’r darllenydd deimlo’r emosiynau a’r cymelliadau tu ôl iddynt. Mae’r gerdd yn ei chyfanrwydd yn enghraifft feistrolgar o ddefnyddio manylion diriaethol i gyfleu syniadau haniaethol.

 

Mor ffres a syml yw’r iaith, anodd yw credu ei bod yn gerdd gaeth weithiau. I mi, eglurdeb a naturioldeb y mynegiant yw’r hyn sy’n ei gwneud yn ‘awdl y genhedlaeth ddigidol’, i ddefnyddio ymadrodd Ceri Wyn Jones, yn fwy na’r sawl cyfeiriad at dechnoleg a diwylliant yr unfed ganrif ar hugain. Gweler, er enghraifft, y pennill o hir-a-thoddaid ergydiol hon, sy’n trafod y profiad o ‘[d]dilyn y llif diwaelod’ ar Trydar:

 

     Dwi ynghlwm i batrwm, dwi’n rhy betrus

     i aildrydar rhyw sylw direidus.

     Dwi ishio harthio ‘mae’r peth yn warthus’

     ond rwyf yn berchen i’r hen drefn barchus.

     Mae’n crap a dwi’m yn hapus – cowtowio,

     eto ymguddio wna ’marn gyhoeddus.

 

Cwyna Rhys Iorwerth am y defnydd o ‘dwi’ a ‘rwyf’ yn yr un pennill, ond credaf fod modd dadlau bod hyn yn hollol fwriadol yma, gan ei fod yn pwysleisio’r gwahaniaeth rhwng llais mewnol, anffurfiol y prif gymeriad a’i lais cyhoeddus, ffurfiol. Yn wir, defnyddia’r bardd gyd-destun llafar, cyfoes ac arwynebol y gerdd fel gofod i arbrofi ag iaith a chwilio am gyfatebiaethau cynganeddol newydd. Mae llinellau chwareus fel ‘dibynnu/ ar Phoebe a’r cwmni cu’ yn gwireddu’r ‘cachu – poblogaidd/ siwgraidd’ mae’r bardd yn cyfeirio ato yn yr un englyn. Mae yna awgrym o feta naratif am y broses feddyliol o farddoni a chynganeddu, sy’n herio syniadau fel cywirdeb, dwyster, a’r tyndra sydd rhwng dewis geiriau am eu hystyr a’u dewis am eu sŵn.

 

Rwy’n nabod Gruffudd Eifion Owen fel bardd sy’n canu’n ysgafn ym Mragdy’r Beirdd yn bennaf, ac yn sicr mae yna digon o olion ei hiwmor i’w darganfod yn yr awdl hon, sy’n ychwanegu at ei realaeth. Mae’n hiwmor tywyll, hunanfychanol, sy’n pwysleisio teimladau’r prif gymeriad o hunangasineb a methiant. Er nad yw iechyd meddwl yn bwnc echblyg yn y gerdd, mae’n islif cryf – nid yw’r prif gymeriad yn annhebyg iawn i arwr cerdd fuddugol Osian Rhys Jones y llynedd.

 

Mae’r olygfa sy’n cloi’r gerdd braidd yn annisgwyl – a dyna’r bwriad. Damwain ar hap yw torri’r ffôn, sy’n coroni’r holl episodau ar hap sy’n ffurfio’r naratif, ac yn amlygu’r ffaith bod bywyd yn ddim byd mwy na chyfres o ddigwyddiadau bach. Wrth i’r byd oer, go iawn ymyrryd, try sylw’r prif gymeriad oddi wrth ef ei hun tuag at fodau eraill – yr adar bach yn trydar yn yr eira –a hynny am y tro cyntaf. Er hynny, mae’n cyfaddef ‘bod eira’n/ dallu’: nid yw dianc o’r byd digidol yn digon i ddatrys y problemau oesol a drafodir yn gywrain mewn cyd-destun cyfoes yn y gerdd hon.

 

Yn hytrach na blino ar eich ffrwd newyddion ddiddiwedd ar ôl un sweip, gallwch bori trwy benillion yr awdl aml-haenog hon dro ar ôl tro, a darganfod cyfoeth newydd â phob darlleniad.

Rhannu ar Facebook
Rhannu ar Twitter
Please reload

Cynnyrch Diweddar
Please reload

Dilynwch Y STAMP
  • Facebook Basic Square
  • Twitter Basic Square

Menter gydweithredol a redir yn wirfoddol yw Cylchgrawn Y Stamp, gyda'r bwriad o gynnig llwyfan i leisiau newydd a sefydledig ym mhob cyfrwng creadigol. Gwasg anibynnol newydd yw Cyhoeddiadau'r Stamp. Rydym yn gwerthfawrogi unrhyw roddion all ein gelpu i gyflawni'r nodau a osodwyd yn ein maniffesto. Os hoffech roi arian tuag at elfen benodol o'n gwaith, nodwch hynny yn eich sylwadau wrth yrru'r rhodd.

© 2019 gan Y STAMP. 

  • w-facebook
  • Twitter Clean