Ysgrif: Derlwyni - Morgan Owen

18.09.2018

ychwanegwyd gan

 Pwy fuasai’n meddwl bod yna gilcynnos o goedwigoedd derw hynafol ar y llethrau uwchben Merthyr ar ochrau’r cwm llydan hwnnw? Ar ddiwrnod o haf, maen nhw’n ddigon gweladwy o’r dref islaw, ac nid yw’n anodd gwahaniaethu rhwng y glesni goleuach, gwasgarog hwn a thywyllwch y rhesi bythwyrdd byddinog agosach at y grib, er bod y planhigfeydd hynny’n cael eu clirio’n ara’ deg. O ran eu lleoliad, mae’r derlwyni’n estyn yn wregys anwastad o Heolgerrig yr holl ffordd heibio i dueddau Mynydd Gethin, lle maen nhw’n parhau ar hyd ymylon y cymoedd canlynol tua’r gwastadeddau – a’r brifddinas – yn y pen draw. Ond nid yw’r coedwigoedd hyn yn deilio yn y cof mewn ymateb i hen ystrydebau am lwydni tybiedig y parthau hyn. Cyd-geinciaf â’r deri eleni am fy mod mewn dinas estron, ac mae’r pellter wedi goleuo’r holl ddeildai, coedlannau a gelltydd y bûm erioed yn synfyfyrio ynddynt ac arnynt uwchben fy nhref. Yng ngolau glasaf dechrau Mai mae’r mannau hyn yn mynnu llais; mae’r tymor eginol yn fy atgoffa bod yr haf yn codi o’r ddaear gyfarwydd draw ym Merthyr yn gymysg â’m hatgofion innau yn drwch o ddail a chlychau’r gog a chraf. Gwelaf yn y glesni y byd i gyd ar ongl letraws; ac yn y glasu rwy’n cymuno â’r derlwyni lle mae’r gweld yn gliriach.

 

Nid oes gan yr ardal hon enw fel y cyfryw, am nad yw’n ardal gydlynol gydnabyddedig i neb ond fi. Pe bai rhywun yn mapio ffiniau’r derlwyni a’r mannau cyffiniol – y llennyrch a’r lleiniau o goed cymysg a thir gŵydd – ni fyddai’n cyfateb i unrhyw ddarnodiadau cartograffig parod ar unrhyw fap. Y peth agosaf i ffin fyddai’r gorwydd (gor- + gŵydd, gair prydferth am ofod ffiniol arbennig: ymyl neu oror coed/fforest); ond ni rhoir sylw neilltuol i hwnnw ‘chwaith ar unrhyw fap sydd gen i. Fy nghrwydradau hyd y llwybrau cudd a’r nentydd a’r bylchau rhwng y coed sydd wedi creu’r ardal hon a’i gwneud yn lle ar wahân, ac felly fy mhrofiadau i ohoni yw ei ffiniau. Yn swyddogol, fodd bynnag, gellir tynnu ar ddaearyddiaeth fwy uniongred er mwyn rhoi syniad bras o’i lleoliad. Sôn yr ydym am ochr orllewinol Merthyr, gan ddechrau yn Heolgerrig a theithio i’r de mewn llinell weddol syth. Ar aeliau’r cwm yr ydym o hyd, ond mewn mannau, mae’r deri’n estyn i lannau afon Taf, yn enwedig lle mae’r afon yn culhau i’r de o Ferthyr. Ond un rhan o’r ardal ehangach sydd gennyf mewn golwg fan hyn: dechreua ychydig i’r dwyrain o Heolgerrig ger Cwm y Glo (lle mae olion capel anghydffurfiol o’r ail ganrif ar bymtheg a gweddillion mân-lofeydd yma ac acw); ac oddi yno, heibio i fferm Blaencannaid ac ar hyd ael y cwm ac ar draws Blaencannaid tua Choetir Gethin. Dyma wlad y derlwyni.

 

Un o brif hynodion y derlwyni hyn yw’r olygfa a gei di ynddynt o’r dref ei hun oddi tanodd, sydd fel petai ar lwyfan o’th flaen. O sefyll a’th gefn yn erbyn bôn derwen braff, cnocellau a sgrechod y coed yn gwibio uwch dy ben ac arogl oeraidd-briddlyd y mwsog a’r gwely dail a’r ffrydau creigiog yn drwchus amdanat, gelli weld i ganol y dref, a sawl man gyhoeddus agored fel Sgwâr Penderyn. Bydd dy lygaid yn y dref a’th draed yn y derlwyn, a thithau felly mewn dau le gwahanol iawn ar yr un pryd: ysbryd rhwng deufyd. Atgyfnerthir y teimlad rhyfedd a diddorol hwn gan un-ochredd y syllu, am na fyddai neb islaw yn meddwl eu bod nhw’n weladwy dros bellter mor fawr, na bod unrhyw lecynnau ar y llethrau uchod y byddai rhywun yn trafferthu ymweld â nhw.

 

Ond y peth mwyaf trawiadol yw gweld cynifer o lwybrau’n croesi a chynifer o bobl yn mynd rhagddynt a’u holl ymwneud â’i gilydd: mae’n peri i rywun fyfyrio ar yr holl weithredau a symudiadau mae’n eu gweld, ac am ba mor dyngedfennol y gallai croesi hewl arbennig neu gymryd troad annisgwyl fod yn y pen draw ym mywydau’r holl bobl oddi tanodd. Byddaf innau’n cofio’r holl droeon y bûm ar droed yn y dref a’r manylion bychain a allasai fod wedi newid fy hynt fy hun a’m harwain, yn y pen draw, i’r derlwyn dyrchafedig yn tafoli tirlun fy ngorffennol fel meudwy ar encil. Dyna rediad y meddwl wrth syllu ac ymlithro i fyfyrdodau yn y derlwyn, a’r myfyrio’n deillio o ymdeimlad o ddidoledd ymwybodol. Dichon mai atynfa gwylio’r dref fel hyn ei fod yn diriaethu’r ffaith fy mod ei gweld o hirbell o hyd bellach, hyd yn oed ar yr adegau hynny pan fyddaf adref ar ymweliad. Nid yw’n ddrwg i gyd: gwelaf bethau na fuaswn yn eu gweld fel arall; a dyna yw’r cyfaddawd di-droi’n-ôl. Nid nes camu o’r neilltu y mae gweld y cyfan, ond wedi ei weld, aiff yr argraffiadau cynnar yn anghaffael: mae’r dref a brofais law gyntaf cyn ymbellhau yn amhosib ei chysoni â’r dref a welaf o’r derlwyni.

 

Os oes colled mewn un cyfeiriad, mae enillion mewn cyfeiriad arall. O syrffedu ar y syllu tuag allan, ymgollais yn y derlwyn. Yn y pen draw, ffordd o syllu i mewn yw syllu tuag allan, ac o fod wedi syllu’n ddigon hir, mae popeth yn ymdoddi’n un gymysgfa berffaith. Ymysg y derw yn fy myd eginol, blagurol, glas-las hardd, mewn ardal sy’n bodoli ar fap fy atgofion a’m breuddwydion yn unig, byddaf yn ymwybodol fy mod yn cyfranogi o gyffro arbennig y gofod rhwng ffiniau. Rhwng y dref islaw a’r mynyddoedd sy’n gorymdeithio tua’r gogledd; rhwng enwau’r map ‘go iawn’; rhwng y coed a’r diffeithdir. Fel hyn mae creu gofod newydd, a heb orfod gofalu am dy leoli dy hun yn ôl hen gyfeirbwyntiau, mae’r byd yn bywiocáu; gwefr o’r fwyaf yw canfod pethau anghyffredin mewn llefydd cyffredin. Droeon bu imi fentro ar drywydd newydd drwy’r coed a tharo ar bob math o bethau annisgwyl, megis olion hen ffermdai, hen ffwrneisi ac odynnau, cledrau trenau. Maent oll yn adfeiliog, a bron iawn wedi eu cymathu gan y coed a’r blodau a’r perthi. Nid yw’r llecynnau hyn yn annhebyg i hen fynwent sydd, er ei bod yn llawn o bethau meirwon, yn gyforiog o fywyd.

 

Dychwelaf i’r derlwyni, lle mae’r dref a hanes hŷn ei chyrion yn ymgymysgu, lle’r wyf innau’n ymgymysgu’n drwyadl â’r cyfan. Yno, rwy’n rhydd i dorri llwybr drwy’r oesoedd a llygadrythu ar y llennyrch mwsoglyd a’r golau brith drwy’r dail, a synnu fod y dref mor agos a minnau ar fy mhen fy hun mewn lle mor anhygoel. Hyd yn oed ar lethrau’r cwm, ar yr ymylon, mae gwrthdrawiadau, darganfyddiadau, a bywyd i’w brofi yn ei holl frwysgni. Ysgrifennaf hyn o bell, ond gwn mai dan y deri ar ongl letraws uwchben Merthyr y mae sylwi nad yw ymbellhau yn gyfystyr â cholli craidd profiad na chynheswch ymgydnabod. O’r golwg, aiff popeth yn ei flaen, a deilia’r derlwyni.

 

Rhannu ar Facebook
Rhannu ar Twitter
Please reload

Cynnyrch Diweddar
Please reload

Dilynwch Y STAMP
  • Facebook Basic Square
  • Twitter Basic Square

Menter gydweithredol a redir yn wirfoddol yw Cylchgrawn Y Stamp, gyda'r bwriad o gynnig llwyfan i leisiau newydd a sefydledig ym mhob cyfrwng creadigol. Gwasg anibynnol newydd yw Cyhoeddiadau'r Stamp. Rydym yn gwerthfawrogi unrhyw roddion all ein gelpu i gyflawni'r nodau a osodwyd yn ein maniffesto. Os hoffech roi arian tuag at elfen benodol o'n gwaith, nodwch hynny yn eich sylwadau wrth yrru'r rhodd.

© 2019 gan Y STAMP. 

  • w-facebook
  • Twitter Clean