Cerdyn Post Creadigol: Venezia - Cain Muse

20.11.2018

ychwanegwyd gan

 

 

Hon oedd fy noson olaf yn Venice, dinas yr oeddwn i wedi breuddwydio amdani ers ro’n i’n fach. Roeddwn i’n eistedd yn set flaen vaporetto, math o gwch sy’n gweithio fel bws, a roeddwn i’n mynd i fyny’r Grand Canal am y tro ola’ i fyny i’r orsaf bws er mwyn gadael am byth. Dwi ‘di clywed pobl yn dweud dyle Venice gael ei weld o’r dŵr ac yn y foment honno roeddwn i’n cytuno’n llwyr. Falle, am fod y golygfeydd o’r gwch yn hudolus eithriadol; falle am fod unrhyw un sy’n chwarter call yn mynd i ddewis cymryd cwch i lle bynnag ma’ nhw’n mynd; a falle am fod fy nhraed yn rili, rili lladd am ‘mod i ddim ond wedi penderfynu cael tocyn vapretti tan y diwrnod ola’ un.

Ar y llaw arall, dwi’n meddwl fod Venice ar droed yn llawer mwy diddorol na Venice o vaporetto a’r pethe welwch drwy ymlwybro’r strydoedd cul, troellog yn llawer difyrrach na be welwch chi wrth hwylio i fyny ag i lawr y Grand Canal.

Ond yn y foment honno, fi oedd brenhines Venice. Y dŵr - oedd y diwrnod cynt wedi codi’n uchel at ymylon y strydoedd ac oedd yn gawl byrlymllyd yn sgil y patran bychan o law - yn awr, yn dawel ac isel a’r unig styrbans oedd traffig y cychod eraill oedd yn sglefrio heibio. Y gondolas gwych gyda’i gondoliers urddasol a’u cargo o dwristiaid yn cymryd selfies. Y cychod gwaith gyda llwythau trwm o defnyddiau adeiladu, yn cludo nwyddau neu’n casglu sbwriel, yn aml yng nghwmni ci bach pert. Y tacsis sgleiniog o bren drud. Yr ambell gwch bach preifat yn edrych ar goll yng nghanol traffig mawr canol y dre. Roedd heddwch yn y bwrlwm wrth i'r diwrnod fynd yn nos, a’r gyfaredd oedd wedi fy swno i a'r holl dwristiaid eraill yn amlwg yn ein tawelwch wrth i ni fynd o dan bont Rialto.

Dwi wastad wedi bod isho mynd i Venice, ers yn blentyn bychan. Gwelais i o gynta’ mewn ffilm a wedyn y mwya’ ro’n ni’n clywad amdana fo’r mwya’ ro’n ni’n disgyn i fewn i’w hud a lledrith o. Lle cymleth gyda chant a mil o strydoedd bach yn croesi ar hyd ei gilydd lle does dim i ddangos be ‘di gogledd a be di de a lle nad ydi Google Maps yn ddim ond help pitw ynddo ydi’r strydoedd. Gwahanol iawn i’n nghartref i yng Ngwynedd lle mae ‘na wastad fynydd neu fôr i’w weld ar bob adeg a lle dwi erioed yn fy mywyd wedi mynd bod ar goll. Yn Venice, mi gymerodd hi ddeg munud cyn i mi fynd ar goll. Y tro cynta’. Wedi hynny daeth nifer iawn o adegau o fynd ar goll. Yn y strydoedd, yn y Palace Ducal, hyd yn oed ar gwch ar un pwynt. Cymeraf gysur yn y gred mai dim fi oedd yr unig un, o leia’, wrth i bawb fynd i lawr y stryd yng nghlwm i Google Maps eu ffO^n, a llais ffals Americanaidd “take the next left” yn sgleinio allan o bob cornel dawel, tywyll.

I ddechra, roedd y mynd ar goll yn fy mhoeni: y waliau mawr tywyll yn teimlo’n uwch ac uwch ac y strydoedd bychan yn teimlo’n gulach a chulach. Ond ar ôl y trydydd tro yn ymlwybro drwy’r un sgwar yn trio ffindio fy ffor’ adre dechreuais sylweddoli na chafodd Venice ei adeiladu ar gyfer unrhyw ffurf deithio benodol, boed ar gyfer gondola, cwch modur, neu hyd yn oed i ddilyn llais sidanaidd ein proffwyd: Siri. Yn Venice rhaid canfod eich ffordd eich hunain.

Wrth gwrs mae gan pob hud ei derfyn, a does dim modd gwadu’r ffaith fod y lle’n Fecca dwristaidd erbyn hyn. Ers y bedwaredd ganrif ar ddeg mae Venice wedi bod yn enwog am ei  hadeiladaeth, ei phobl, ei chelf, ei cherddoriaeth a phopeth arall am y lle. Mae’r canrifoedd o bobl a thwristiaid sydd wedi heidio yno wedi gadael toll ar y lle a fydd yn y diwedd yn golygu terfyn Venice wrth i’r ddinas suddo’n ddyfnach a dyfnach i mewn i’w lagŵn. Er hynny, mae pob cenhedlaeth newydd o dwristiaid wedi dal i ddod i Venice, ac mae’r lle’n llawn olion eu traed. Yn llythrennol, wrth i gerrig mawr pont Rialto gael eu llyfnu gan amser, ond hefyd ym mhob llun ar bob gondola, ym mhob chipati â glasiad o win gwyn yn y prynhawn, ym mhob gwyneb yn gwirioni ar do mosaics anhygoel y Basilica San Marco.

Mae’n nhw’n bodoli i mi yn fy chwaer aeth yno pan oedd hi fy oed i ac a ddwedodd wrtha i i fynd am dro dros y lagŵn i rai o’r ynysoedd bach gwych sydd o gwmpas Venice: Murano, Burano, Treviso. Yn fy nhad a aeth i Venice yn ifanc o gwmpas yr wythdegau ac a ddwedodd wrtha i i fynd i weld y Doges Palace. A hyd yn oed yn fy hen daid a gymerodd selfie wrth gymryd reid mewn gondola rywbryd yn hanner cyntaf yr ugeinfed ganrif. Doedd ganddo ddim cyngor i mi yn yr un modd, ond dwi’n hoffi dychmygu ei fod o’n yr un modd a fi wedi cael ei wefreiddio gan yr un murluniau yn y Palace Ducal, yr un mosaics yn y Basilica San Marco, wedi croesi’r lagŵn a bwyta Esse yn Burano, wedi troedio’r strydoedd bychan, wedi mynd ar goll, a phrofi pob tamaid o wychni sydd gan Venice i’w gynnig hefyd.


 

 

 

 

 

 

Rhannu ar Facebook
Rhannu ar Twitter
Please reload

Cynnyrch Diweddar
Please reload

Dilynwch Y STAMP
  • Facebook Basic Square
  • Twitter Basic Square

Menter gydweithredol a redir yn wirfoddol yw Cylchgrawn Y Stamp, gyda'r bwriad o gynnig llwyfan i leisiau newydd a sefydledig ym mhob cyfrwng creadigol. Gwasg anibynnol newydd yw Cyhoeddiadau'r Stamp. Rydym yn gwerthfawrogi unrhyw roddion all ein gelpu i gyflawni'r nodau a osodwyd yn ein maniffesto. Os hoffech roi arian tuag at elfen benodol o'n gwaith, nodwch hynny yn eich sylwadau wrth yrru'r rhodd.

© 2019 gan Y STAMP. 

  • w-facebook
  • Twitter Clean