Llyfrau 2018: Dewisiadau'r Golygyddion

12.12.2018

ychwanegwyd gan

2018. Blwyddyn gachu i'r amgylchedd, i ddemocratiaeth, ac i Orsedd y Beirdd; blwyddyn dda o lyfrau. Yma i glorianu eu blwyddyn nhw mewn llyfrau mae ein golygyddion, sy'n edrych ymlaen at gael treulio eu Nadolig mewn pillow fort fawr, mins pei mewn un llaw, gwin cynnes yn y llall, a llyfr newydd ar agor o'u blaenau. Ond tan hynny, dyma rai o'r llyfrau sydd wedi cael argarff arnyn nhw yn 2018...

 

Grug

 

Dwi'n sbio'n ôl ar be ddarllenais i ddechrau'r flwyddyn, ac mae hi'n teimlo'n amser maith yn ôl. Argol mae hon wedi bod yn flwyddyn hir. 

 

Dwi wedi cael fy hun eleni yn darllen lot o lyfre am natur a'r amgylchedd. Mi wnes i fwynhau cyfrol Twm Elias Natur yn galw; Waterlog gan Roger Deakin; Moby Duck gan Donovan Hohn, Spying on Whales gan Nick Pyeson, a Pebbles gan Clarence Ellis, ond yr un a gafodd yn argraff ddofnaf arna i eleni oedd Hope in the Dark gan Rebecca Solnit. Y mae cyfrol Solnit yn trafod y gwahaniaeth rhwng optimistiaeth, pesimistiaeth a gobaith, a hynny yng nghyd-destun ymgyrchu i newid y byd, yn arbennig ymgyrchu dros warchod yr hinsawdd. Tra fod optimistiaeth (‘fydd pob dim yn iawn’) a pesimistiaeth (‘does na ddim byd alla i ei wneud, da ni’n doomed’) ill dau yn parlysu, y mae gobaith (‘mae pethau’n ddrwg, ond gallent wella’) yn rym sy’n ein hysgogi i weithredu. Cyfrol ddylai fod ar silff pawb ddyddiau yma, yn sicr.

 

O ran ffuglen eleni, dwi wedi bod yn pendilio rhwng darllen pethau gwleidyddol a chyfoes sy’n adlewyrchu cyflwr y byd, a pethau mwy rhamantus neu anwleidyddol sy'n cynnig dihangfa. Rhai o’r uchafbwyntiau oedd Conversations with friends gan Sally Rooney, nofel am ddwy ffrind o Ddulyn a’u carwriaethau trwsgwl; Crudo gan Olivia Laing, nofel sy’n dal naws narsisistaidd, ddryslyd ac absẃrd ein cyfnod i’r dim; Moby Dick gan Herman Melville- clasur; Homesick for another world gan Otessa Moshfegh sy’n gyfrol o straeon byrion; cyfrol arall o straeon byrion sef Her Bodies and Other Parties gan Carmen Maria Machado,  a Convenience store woman gan Sayaka Murata, nofel am ddynes sy’n cael trafferth gyda deddfau bach cymdeithas. Ond yr un wnes i fwynhau fwyaf oedd In our mad and furious city gan Guy Gunaratne, nofel am eithafiaeth yn Llundain, trwy leisiau pump cymeriad sy’n byw o amgylch un o’i stadau mawr. Mae Gunaratne yn gwneud pethe gwych efo iaith, yn ogystal a adrodd stori afaelgar, ddirdynnol.

 

Dyna ddod yn ola at farddoniaeth, ac mae hi wedi bod yn flwyddyn dda ar gyfer cerddi. Gwaith beirdd fel Ulrike Almut Sandig, Sabrina Mahfouz, Sharon Olds, Anna Akhmatova, Robert Minnhinik, Emyr Lewis, Terrance Hayes, Rosalind Jana, Iwan Llwyd, Fatimah Asghar a Hera Lindsey Bird ydw i wedi bod yn troi atyn nhw eleni. Yr uchafbwynt i fi yn sicir oedd gwaith Terrance Hayes, American Sonnets for my past and future assassin. Dydw i heb fedru cael ei lais o allan o fy mhen i ers i mi ei darllen nhw, a mae hi'n gyfrol dwi wedi mynd nol a nol ati hi droeon. 

 

 

 

 

Iestyn

 

Ym 1915 y cyhoeddwyd My People gan Caradoc Evans, cyfrol a gythruddodd y Gymru wledig Anghydffurfiol i’r fath raddau y llosgwyd copïau ohoni’n gyhoeddus, ac y cafodd portread o’i hawdur mewn oriel yn Llundain ei dorri ar draws y gwddf â chyllell. Dair blynedd yn ddiweddarach, llosgwyd copïau o nofel Brinsley Macnamara, The Valley of the Squinting Windows yn gyhoeddus yn ei bentref genedigol yn Westmeath, Iwerddon; a gyrrwyd tad yr awdur ar ffo – yn esgymun o’i gymuned. Doeddwn i ddim yn gyfarwydd â’r awdur nes i mi godi’r argraffiad newydd i nodi canmlwyddiant y nofel (Mercier Press, 2018) yn siop lyfrau wych Charlie Byrne yn Ninas Galway (ewch yno, os byddwch chi ar grwydr yn y parthau hynny rhyw dro ...). Fel yn My People, portread cignoeth – gor-onest, efallai – a geir o gymuned wledig fewnblyg a chreulon mebyd awdur sydd wedi hen chwerwi ati; er bod yr ysgrifennu yn llai bwriadol gras a chlogyrnaidd na straeon byrion Caradoc Evans. Olrheinir – ugain mlynedd yn ddiweddarach – ganlyniadau perthynas rhwng Nan Byrne dlawd â mab y sgweier lleol, Henry Shannon, pan fo Nan â’i theulu yn symud yn ôl i Garradrimna – lle mae’r llenni y tu ôl i bob ffenest yn sibrwd. Fe glywch Garadog arall yma ac acw hefyd; anodd yw peidio gweld cymeriadau trist Un Nos Ola Leuad yn llechu ar gorneli strydoedd Garradrimna.

 

Maddeuwch i mi am aros yn Iwerddon am y tro ... neu gyda Gwyddel ar grwydr ar hyd y ffordd rhwng Paris a Phont-Aven. Fe gafodd yr arddangosfa o waith Roderic O’Conor a’i gyfoeswyr yn Amgueddfa Genedlaethol Iwerddon yn Nulyn yn yr Hydref gryn argraff arnaf. Casgliad oedd Roderic O’Conor and the Moderns. Between Paris and Pont-Aven o waith y criw o artistiaid a ymgasglai ym Mhont-Aven yn Finistère, Llydaw ddiwedd yr 1880au a dechrau'r 1890au; Paul Gauguin, Arnaud Seguin a Vincent van Gogh yn eu pith – a Roderic O’Conor, artist ifanc o Wyddel. Wn i ddim ai’r celf ynteu’r holl ramant ynghylch y gymuned gelf enwog honno a’m tarodd; ond mae llawlyfr trwchus, lliwgar yr arddangosfa yn parhau i fy hudo. Un arall fu'n bwrw golwg yn ôl dros ganrif a mwy yw Bleddyn Owen Huws yn ei astudiaeth o wrthwynebiaeth gydwybodol T H Parry-Williams yn ystod y Rhyfel Byd Cyntaf, Pris Cydwybod: T. H. Parry-Williams a Chysgod y Rhyfel Mawr (Y Lolfa). Yng nghanol jingoistiaeth ‘dathlu’ canmlwyddiant y Rhyfel, fe’m trawyd yn fy nhalcen gan yr ymdriniaeth hon â gwedd arall ar ryfel. Ni fu fawr o sôn am hyn mewn gweithiau blaenorol ar fywyd Parry-Williams, chwaith – ond dyma unioni’r cam. Dyma gampwaith sy’n academaidd drylwyr ond eto mor ddarllenadwy â nofel dda. 

 

Bu’n flwyddyn lewyrchus ar y naw o ran cyhoeddi barddoniaeth Gymraeg. Daeth o leiaf deg o gyfrolau unigol o’r wasg, heb sôn am gasgliadau aml-gyfrannog a llên-gofiannau. O’r rhain, y gyfrol a gafodd yr argraff fwyaf arnaf o dipyn oedd casgliad newydd Emyr Lewis, twt lol (Carreg Gwalch); casgliad distaw-hyderus a hunan-feistrolgar o gerddi tynn a di-wastraff. Weithiau, mae rhywun yn gallu mynd i gwestiynu’r gynghanedd a’i gwerth; ond mae Emyr Lewis yn ei defnyddio’n iawn – nid yw’n dangos ei hun yn ei ddwylo ond yn hytrach yn atgyfnerthu’n dawel yr hyn sydd ganddo i’w ddweud. Cerddi byrion sydd yma gan fwyaf – cerddi bardd sydd wedi symud ymlaen o ganu’r awdlau eisteddfodol sydd yn ei gyfrol gyntaf, Chwarae Mig, ac sydd bellach yn canu ar ei delerau ei hun am ei Gymru, ei Ewrop a’i fyd.

 

I orffen, gwych o beth eleni oedd gweld sawl un yn mynd ati i gyhoeddi ar ei liwt ei hun. Mae’n werth mynd i chwilio am gopi o Golau gan Dyfan Lewis – cyfrol fechan o farddoniaeth a ffotograffiaeth – a gyhoeddwyd dros yr Haf, ac fe fwynheais yn arw zine bychan ac ymarferol Mari Elin – Gwyrdd-aidd – llawlyfr i arbed ein defnydd o blastig a cheisio byw yn llai gwastraffus. Mae canran o elw gwerthiant y zine yma yn mynd at waith Cadwraeth Morfilod a Dolffiniaid. Cofiwch hefyd am Codi Pais, cylchgrawn newydd trawiadol sy’n dathlu gwaith creadigol gan ferched yng Nghymru. Mae’r rhifyn cyntaf, ‘Hedyn’, ar gael rŵan.

 

 

 

Llŷr

 

Dwi’n un am sbeuna mewn bocsys llyfrau am bunt a dyna sut dwi’n dod ar draws llawer iawn o’m llyfrau, hynny ag awgrymiadau ffrindiau. Mewn bocs y des i ar draws The Homecoming gan Harold Pinter, drama llawn fwy confensiynol na drama y gwnes i ail-ddarllen eleni sef  4. 48 psychosis gan Sara Kane ond un roddodd dro y tu mewn i mi yr un peth a’n atgoffa fi fod dramâu naturiolaidd yn gallu bod yr un mor annelwig a styrbiol a rhai fwy arbrofol. Mae hi’n werth darllen dramâu am sawl rheswm, ond yn bennaf o ran deall strwythuro, deialog a sut i osod llwyfan mewn print (waeth be ddywed cyfarwyddwr wedyn) ac mae hon yn ddosbarth meistr o ran y tri. Drama o’i chyfnod yn sicr ond yn werth ei darllen.

 

Fe aeth casgliad o straeon byrion a’m bryd i hefyd er y byddai monologau yn gweithio fel teitl arnyn nhw sydd eto felly’n ein cadw ni ym myd y ddrama. Does yna ddim llawer o sôn am John Gwilym Jones wedi mynd (er bod yna griw tua Bangor wrthi yn newid mymryn ar hynny) a thestun siom a rhyfeddod i mi ydi na ail-argraffwyd Y Goeden Eirin erioed wedi’r argraffiad cyntaf yn 1946. Yr hyn a’m trawodd i wrth fynd drwy’r casgliad oedd eu modernrywdd nhw o ran arddull a rhaid bod y gyfrol hon wedi bod yn ddipyn o enigma pan gyhoeddwyd hi’n wreiddiol. Mae yna dynnu ar natur ddynol ynddi a sylwebaeth graff ar ddeuoliaeth pobl, a’r ffin rhwng y preifat a’r cyhoeddus. Efallai fod y gyfeiriadaeth Feiblaidd yn drech ar rai ond mae yna lond gwlad o bethau i’w tynnu ohoni, yn sgwennu craff a dyfnder seicolegol hynod. Cyfrol fer ydi hi ac os medrwch chi fachu copi gwnewch ar bob cyfri.

 

Dwi yn hoff o sgwennu mewnol, sgwennu y monolog a’r ymson ac ymson o fath ydi Y Trydydd Peth gan Sian Melangell Dafydd, nofel dwi newydd ei gorffen bore ’ma. Llif meddwl George Owens, dyn 90 mlwydd oed sydd yn nofiwr gwyllt ac yn adnabod dŵr ac afonydd sydd o fewn y cloriau — ac mae George Owens yn ddyn difyr iawn.

 

Dwi wedi gwneud reit dda o ran darllen llyfrau Cymraeg leni — Y Dreflan, Daniel Owen sy’n llawn

 difyrrach na Rhys Lewis, Cathod a Chŵn, Mihangel Morgan a wnaeth i mi chwerthin yn hurt (fel Cerdded Mewn Cell, Robin Llywelyn o ran hynny) a  Eira Llwyd gan Gareth Evans Jones nofel sydd heb os gyda’r chynilaf i mi ei darllen eleni ac yn wir werth ei phrynu. Nofelau sydd, neu fydd — fel Y Trydydd Peth gobeithio — yn cael lle go uchel yn y canon Cymraeg.

 

Pam ein bod ni’n darllen? I’n difyrru, i ddysgu ac i feddwl am bethau mewn modd wahanol efallai. Er bod pob cyfrol y darllenais eleni yn gwneud hynny yn Y Trydydd Peth y ces i gip ar fywyd ac ar fyd gwahanol a gweld pethau’n wahanol fy hun ar ôl darllen fwyaf oll.

 

Rhannu ar Facebook
Rhannu ar Twitter
Please reload

Cynnyrch Diweddar
Please reload

Dilynwch Y STAMP
  • Facebook Basic Square
  • Twitter Basic Square

Menter gydweithredol a redir yn wirfoddol yw Cylchgrawn Y Stamp, gyda'r bwriad o gynnig llwyfan i leisiau newydd a sefydledig ym mhob cyfrwng creadigol. Gwasg anibynnol newydd yw Cyhoeddiadau'r Stamp. Rydym yn gwerthfawrogi unrhyw roddion all ein gelpu i gyflawni'r nodau a osodwyd yn ein maniffesto. Os hoffech roi arian tuag at elfen benodol o'n gwaith, nodwch hynny yn eich sylwadau wrth yrru'r rhodd.

© 2019 gan Y STAMP. 

  • w-facebook
  • Twitter Clean