Cyfweliad: Cylch - Dafydd Frayling

17.02.2019

ychwanegwyd gan

 

Yn 90au'r ganrif ddiwethaf, roedd Aberystwyth yn gynnwrf i gyd. Os na allan nhw gymryd yr holl gyfrifoldeb, yna yn rhannol gyfrifol o leia roedd y criw o lesbiaid a hoywon aeth ati i sefydlu y grŵp Cylch -  ‘Cymdeithas Y Lesbiaid a hoywon Cymraeg eu Hiaith, cymdeithas oedd yn ymgyrchu dros hawliau lesbiaid a hoywon Cymraeg. Un o’r sylfaenwyr oedd Dafydd Frayling, a dyna pwy a fu’n ateb cwestiynau’r Stamp am hanes y mudiad:

 

Sut gafodd Cylch ei sefydlu – be oedd y bwriad?

 

DF: Daeth Cylch i fodolaeth ar ôl i grŵp o lesbiaid a hoywon Cymraeg ddod at ei gilydd yn Aberystwyth tua chanol yr wythdegau – nifer ohonym yn y coleg yn astudio Cymraeg. Roedd nifer fechan o unigolion a oedd wedi bod yn llythyru am bynciau hoyw yn y cylchgronau Cymraeg ac roedd Cylch yn ymdrech i gorlannu’r egni a’i anelu. Prif bwrpas y grŵp oedd ymgyrchu.

 

Be oedd prif lwyddiannau Cylch?

 

DF: Codi proffil ein cymuned yn y Gymru Gymraeg drwy ymddangos yn gyhoeddus wrth ymgyrchu yn erbyn homoffobia (ar faes yr Eisteddfod ac yng nghyfarfod blynyddol Cymdeithas yr Iaith, er enghraifft). Ond hefyd dadlau ein hachos ar y teledu, y radio a thrwy gyfrwng y cylchgronau Cymraeg. Cynnal stondin am sawl blwyddyn ar faes yr Eisteddfod.

 

Be am yr heriau oedd yn eich wynebu?

 

DF: Yr her oedd homoffobia a’r agwedd Gymreig a Chymraeg mai rhywbeth estron oedd bod yn lesbiaidd neu hoyw. Torrwyd i mewn i’n pabell ar y maes a chachwyd dros y pethau arddangos yno. Roedd Ysgrifennydd Cyffredinol y Bedyddwyr wedi ymosod ar aelodau drwy wagio bwced o ddŵr drostynt. Roedd homoffobiaid yn y brifysgol wedi atal un aelod rhag gwneud ymarfer dysgu oherwydd ei rywioldeb. Roedd pris i’w dalu.

 

Roedd y gymdeithas yn cyhoeddi cylchgrawn o’r enw’r Ddraig Binc. Sut oedd mynd ati i’w roi o at ei gilydd, a be oedd y bwriad wrth ei gyhoeddi?

 

DF: Propaganda hoyw oedd y cyfan ac roedd yn ddifyr y tu hwnt casglu erthyglau at ei gilydd a’u cyhoeddi. Roeddem yn ei werthu ar faes yr Eisteddfod ac wrth gwrs ar y cychwyn nid oedd gan y cyhoedd syniad yn y byd am natur y cylchgrawn. Felly roedd pobl yn prynu i gefnogi unrhyw gyhoeddiad yn y Gymraeg heb sylweddoli mai cylchgrawn hoyw oedd o! Roeddem yn cael tipyn o sbort hefyd wrth fod yn bryfoclyd – eitemau fel ’10 Mantais o Fod yn Hoyw’ (“byth yn gorfod trafod pêl-droed”) a’r ’10 Llyfr Hoyw Mwyaf Poblogaidd’ (“Annwyl Hulpan, Annwyl Bôr” a oedd yn sgit ar gasgliad o lythyrau rhwng Saunders Lewis a Kate Roberts).

 

(gweler un o'r rifynnau'r cylchgrawn yma, heb gynnwys y lluniau yn anffodus, oherwydd technoleg gyntefig yr oes – ond mae o'n cynnwys un o'u cwisys arbennig! - Gol.)

 

Pa gwestiyna fysa chi’n hoffi i bobol ei holi am Cylch?- h.y. oes na rwbath yda ni wedi ei fethu yn fa’ma ddylsa gael ei wyntyllu?

 

DF:

  1. Sut alla i wneud rhywbeth tebyg i ymgyrchu dros y materion sy’n bwysig imi?

  2. Beth oedd y wers bwysicaf am weithredu yn y fath fodd?

Am wybodaeth bellach am y mudiad, ceir pennod ar eu hanes yn y gyfrol The phenomenon of Welshness II : or, "Is Wales too poor to be independent?" gan Siôn T Jobbins (Gwasg Carreg Gwalch, 2013)

 

Hefyd, gweler edyfyn Iwan Stanno am ei brofiad ef o'r mudiad:

 

 

Rhannu ar Facebook
Rhannu ar Twitter
Please reload

Cynnyrch Diweddar

22.11.2019

17.11.2019

Please reload

Dilynwch Y STAMP
  • Facebook Basic Square
  • Twitter Basic Square

Menter gydweithredol a redir yn wirfoddol yw Cylchgrawn Y Stamp, gyda'r bwriad o gynnig llwyfan i leisiau newydd a sefydledig ym mhob cyfrwng creadigol. Gwasg anibynnol newydd yw Cyhoeddiadau'r Stamp. Rydym yn gwerthfawrogi unrhyw roddion all ein gelpu i gyflawni'r nodau a osodwyd yn ein maniffesto. Os hoffech roi arian tuag at elfen benodol o'n gwaith, nodwch hynny yn eich sylwadau wrth yrru'r rhodd.

© 2019 gan Y STAMP. 

  • w-facebook
  • Twitter Clean