Celf: Aralledd yn y Gymru Wledig - Heledd Williams

24.02.2019

 

(1) Cytia Gwalia Foel 


 

Dyma gasgliad o luniau nes i ar ôl bod yn darllen am hanes y teulu ar ochor fy nhad i o Nant Peris, a hanes y brwydro caled dros y dosbarth gweithiol yr oedd y diwydiant chwarelyddol wedi ei feithrin. Bu farw taid o Silicosis yn ei 70au. Roedd o prin yn medru cerdded erbyn hynny, ar ôl bywyd o waith caled yn y chwarel ac yn llafurio wrth adeiladu peilons i’r orsaf bŵer Hydro yn Llanberis. Erbyn hyn does dim lot o waith yng Ngwynedd a mae lot yn heidio i Gaerdydd a dinasoedd Lloegr. Dwi’n un o rheini; wedi treulio fy arddegau yn Nant Peris dwi wedi treulio rhan fwya o fy 20iau yng Nghaerdydd.

 

Rhaid i mi ddweud - dydi ddim yn beth syml bod yn lesbian neu’n ddeurywiol yng Ngwynedd. Os ti ar Tinder mae ‘na risg y bydd pobol homoffobaidd yn busnesu i weld pwy sy’n “gê” yn yr ardal drwy fynd ar yr app. Mae ffrind i mi wedi clywed merch yn cyfadde hyn! Felly dwyt ti ddim yn medru teimlo 100% yn gyfforddus ar y “dating apps” yma os nad wyt ti’n hollol barod i bawb gychwyn cario clecs amdanat a cael barn am dy rywioldeb.

 

A o ran tafarndai hoyw, mewn difri does dim. Does dim gwerth mynd i’r White Lion ym Mangor o fy mhrofiad i - efallai iawn i ddynion hoyw ond dim gwerth i ferched. Mae wrth gwrs clwb LGBT Prifysgol Bangor ond mae’n chwithyg mynd os nad wyt yn fyfyriwr. Un peth positif yw bod gwyl Lesbiaidd yn dod i Landudno bob blwyddyn ac yn sgil hynny mae grwp cymdeithasol ar Facebook “North Wales Lesbians”; wedi cychwyn, er nad ydw i wedi bod i ddim o’u gweithgareddau hyd yma.

 

(2)  Chwaral Bleuna 

 

Er nad oes sîn LDHT loyw yng Ngwynedd, dyma lle ydi adra a ma’ na rwbeth hudol am y lle. Serch hynny mae trawma i bob ardal ôl-ddiwydiannol. Mae’r modd mae’r diwydiant yma wedi chwalu'r mynyddoedd yn gofeb barhaol i ddioddefaint cymuned glos cenhedlaeth fy nhaid a sawl un cyn hynny. Er cymaint mae bywyd y chwarelwr yn cael ei ramantu, eu tynged oedd marw’n ifanc o’r llwch, neu mewn damweiniau yn y chwarel. Gallai chwarelwyr ddisgwyl byw tan eu bod nhw yn eu 40au ar gyfartaledd yn ôl llyfr “The North Wales Quarrymen” (R.Merfyn Jones) ac oedd ansawdd eu hiechyd o ganlyniad i ddiet gwael, tai tamp a llygredd y diwydiant yn sobor.


 

Mae rhannau helaeth o Wynedd yn lefydd lle mae modd byw yn naturiol drwy gyfrwng dy iaith, a mae hyn i raddau helaeth diolch i’r diwydiant llechi a olygodd datblygiad dosbarth gweithiol diwydiannol Cymreig yng Ngwynedd. Mae’r gymdeithas yn ddrych ohonom ni ein hunain a mae’n dda cael byw yn fy iaith. Serch hynny mae craciau yn y drych os wyt yn wahanol mewn rhyw ffordd - os ti’n LDHT er engrhaifft. Hynny yw, heb weld pobol fel fi yn y gymdeithas o’m cwmpas mae’n hawdd teimlo fymryn yn ynysig yng nghanol yr union le ble dwi fod yn ‘perthyn’ iddo.


 

Dyma pam mae’r tirluniau yma yn edrych mor angyfarddwydd yn eu lliwiau afreal. Mae’r amlinell yn ffitio ond dydi’r lliwiau ddim, yn perthyn a ddim yn perthyn yr un amser.  Mae’r lens lliwgar yma’n dirlenwi’r diwydiant a fu. Llenwi’r gwagle mae’r diwydiant, y bwrlwm o ddiwylliant yn y cytia sydd wedi eu gadael ar ôl. Hoffwn feddwl bod y lliwiau hefyd yn cyfleu optimistiaeth newydd yn ein hoes dywyll. Ffasgiaeth, cynhesu byd eang, llymder, llygredd - mae optimistiaeth ynddo’i hun yn yr oes yma’n safbwynt radicalaidd.

Mae’n obaith dros greu gogledd all fod yn adra i bawb, gan gynnwys pobl LDHT. Yn eironig  mae rhan o’r optimistiaedd yn dod yn sgil rhywbeth peryglus i’m cymunedau, sef twristiaeth.

 

(3) Ysdol Creigia

 

Y tirluniau hardd yma sydd yn atynnu ymwelwyr i’r ardal, a gyda’r gwaith sydd yn dod yn sgil yr ymwelwyr yma mae cynhaliaeth. Ond mae peryg real iawn o neo-drefedigaethu ymhlyg o fewn datblygiad twristiaeth, ac mae nofel Arundathi Roy yn cyfleu hyn yn berffaith trwy ei phortread o drawsnewidiad Kerala yn India - mae'n ffenomen rhyngwladol, y cyfoethog yn troi'r tir yn degan. Neith y math yma o dwristiaeth ddim mo’r tro. Yn y lluniau yma y mae’r optimistiaeth wedi ei wreiddio yn bennaf yn y mentrau cymunedol sydd yn chwyldroi’r gogledd. O llety Arall yng Nghaernarfon i Siop Griffiths ym Mhenygroes, o Ynni ogwen i Cwmni Bro Blaenau Ffestiog, mae pobl leol yn gwneud ymgais i berchnogi y diwydiant newydd yma, a chreu adnoddau all pobol leol hefyd eu defnyddio. I mi mae hyn yn hynod obeithiol.

 

Yn wahanol i’r berthynas rhwng y Saesneg - Cymraeg, Cyfalafwyr - Gweithwyr a oes gobaith o ddyfodol gwell, cydweithredol a democrataidd yn ein cymunedau gwledig? Ymhlyg yn y democratiaeth yma mae lle i’r rhai ar y cyrion - y bobol “gê”, ni sy’n anabl, efo diagnosis o afiechyd meddwl, yn dosbarth gweithiol... neu ni sydd yn bob un o’r pethau yma neu unrhyw gyfuniad arall o “aralledd”- ble bynnag ydym ni yn y gwe gymhleth o berthnasau pŵer.
 

Gyda democratiaeth cymunedol yn tyfu, gobeithiwn daw cynrychiolaeth o amrywiaeth ein cymunedau i’r amlwg a chawn greu gofodau gyda’n gilydd sy’n adlewyrchu’r profiad dynol yn ei holl amrywiaeth trwy ein hiaith ni. Mae’r Stamp wedi creu gofod llenyddol a chelfyddydol  ar gyfer mis pobl LDHT a diolch mawr iddyn nhw.

 

Llyfryddiaeth:

The North Wales Quarrymen, 1874-1922 gan R Merfyn Jones, ail argraffiad, 2015, Gwasg Prifysgol Cymru

 

The god of small things, gan Arundahti Roy,  1998, HarperCollins

Rhannu ar Facebook
Rhannu ar Twitter
Please reload

Cynnyrch Diweddar
Please reload

Dilynwch Y STAMP
  • Facebook Basic Square
  • Twitter Basic Square

Menter gydweithredol a redir yn wirfoddol yw Cylchgrawn Y Stamp, gyda'r bwriad o gynnig llwyfan i leisiau newydd a sefydledig ym mhob cyfrwng creadigol. Gwasg anibynnol newydd yw Cyhoeddiadau'r Stamp. Rydym yn gwerthfawrogi unrhyw roddion all ein gelpu i gyflawni'r nodau a osodwyd yn ein maniffesto. Os hoffech roi arian tuag at elfen benodol o'n gwaith, nodwch hynny yn eich sylwadau wrth yrru'r rhodd.

© 2019 gan Y STAMP. 

  • w-facebook
  • Twitter Clean