Ysgrif: Dyfodolegau ar y cyrion - Dylan Huw

28.02.2019

ychwanegwyd gan

 

Dylan Huw sy’n ystyried ffyrdd amgen o feddwl am hanes, bywyd a chelfyddyd queer mewn modd sy’n edrych tuag at y dyfodol, gan archwilio gwaith yr artist gweledol James Richards.

 

Sut all strategaethau celf arbrofol ffurfio ac ail-ffurfio bydoedd newydd, cynnig dyfodolau amgen, aneglur i ddod, i bobol Cymru ac i bobol queer o bob cwr o’r byd? Mae’n debyg fod y cwestiwn yn un amhosib – neu, efallai, wedi ei gam-anelu. Mewn darlith ddiweddar, dywedodd yr artist John Akomfrah (enillydd gwobr Artes Mundi 7 dwy flynedd yn ôl, gan guro Bedwyr Williams a’i fideo Cymruddyfodolaidd canon, Tyrrau Mawr) linell a arhosodd gyda mi: “The future begins by making an image.” Mae’r artist wedi cyfansoddi corff cyfoethog o waith yn ymwneud â’r berthynas rhwng yr hanesion y mae archifau’n eu hadrodd a’r systemau technolegol sy’n teyrnasu drosom heddiw. Yn ei waith, mae deunyddiau archifol yn chwarae rhan storïwr, fel pen Bendigeidfran ar Ynys Gwales, yn gwarchod hanesion gwerthfawr, bregus cyn iddynt ddiflannu i niwl hanes am byth.

 

Rwy’n hoff o’r cysyniad hwn: mai o flagur delwedd y crëwn y dyfodol. Ond mae’n annigonol, rhywsut, hefyd; does dim ffasiwn beth â dyfodol a ddyfeisir o ddim. Byddwn innau’n cynnig nad yw’r dyfodol yn cychwyn from making an image, yn union, ond yn cychwyn o gymryd delweddau sydd eisoes yn bodoli a’u gwneud yn newydd. Trwy brosesau ailgymysgu, benthyciad, ail-ddarganfod ac ail-ddefnyddio. Dyma’r unig ffordd y gall celf gynnig agwedd wirioneddol gritigol tuag at dreigl amser. Wrth ailedrych a chwarae gyda’r hyn sydd eisoes yn bodoli gallwn gyrraedd ffyrdd newydd o feddwl am ddyfodoleg – neu futurity, h.y. ffordd o feddwl am y dyfodol sydd o reidrwydd wedi ei ddiffinio yn erbyn strwythyrau’r presennol  – yn ogystal â dyfodolaeth (futurism).

 

Mae’r artist o Gaerdydd, James Richards, wedi ffurfio ei yrfa drwy weithio â deunyddiau benthyg – pytiau o ffilmiau a fideos a hysbysebion, a ffilmiwyd ganddo ef ac eraill – i greu gweithiau fideo sydd wedi eu golygu mewn ffordd sy’n teimlo bron yn reddfol, yn creu naratifau neu theses llac o ludlunio sgraps o fideo. Yn ei fideos, mae’n amhosib gwahaniaethu rhwng ffurf a chynnwys; maent yn gwahodd penbleth cyn gymaint ag ysbrydoliaeth di-flino. Un ohonynt yw What weakens the flesh is the flesh itself, a wnaethpwyd ar y cyd â’r Americanwr Steve Reinke. Dyma’r prif waith yn arddangosfa Richards fel cynrychiolydd Cymru ym Miennale Fenis yn 2017, ac o bosib gwaith mwyaf uchelgeisiol yr artist hyd yma. Mae’n amhosib crynhoi cynnwys y gwaith enfawr a chyffyrddol hwn, ond mae’n eich gadael i ystyried cyfoeth o ddelweddau sy’n adeiladu portread amrywiol o hanesion hoyw a’u hôl-fywydau, sut y cânt eu portreadu a’u trosglwyddo o genhedlaeth i genhedlaeth.

 

Yn ddechreubwynt i What weakens the flesh is the flesh itself ceir cyfres o ffotograffau a ddarganfuwyd gan Richards yn y Schwules Museum ym Merlin. Maent o archif Albrecht Brecker, dyn hoyw a erlidiwyd o’r Almaen gan y Natsïaid, a gymerodd bortreadau obsesiynol o’r ffurfiau eithafol o anffurfio’r corff yr oedd ef a’r pobol yn ei gylchoedd yn eu gweld fel hobi; mae eu testunau’n cwmpasu sadomasochism, noethlymuniaeth, hunan-anafiad a piercings eithafol. Gellir dadlau, fel y mae un o draethodau catalog arddangosfa Richards yn ei wneud, bod “holl egnïoedd yr ugeinfed ganrif o drais ac emancipation” i’w gweld yn y ffotograffau cofiadwy rhain o Becker a’i ffrindiau. Wrth i What weakens the flesh ddatblygu, mae pob math o glipiau bastard yn ymddangos; yn araf bach mae eu rhythmau’n adeiladu portread symffonig o natur gorporaidd y weithred o greu delwedd. Gwelwn ddelweddau o Richards a’i ffrindiau mewn digwyddiad Balchder/Pride yng Nghaerdydd yn yr 00au cynnar; gwahanol glipiau byr o ddeunydd erotig, doniol ac aflonyddol a ffilmiwyd gan Richards a Reinke rywbryd yn eu gyrfaoedd; ac animeiddiadau sinistr o sgerbydau’n dawnsio i gân The Carpenters; ymhlith amrywiaeth o benodau anesboniadwy eraill.

 

James Richards a Steve Reinke, What weakens the flesh is the flesh itself (installation view), fideo digidol gyda sain, 2017 © James Richards a Steve Reinke; trwy garedigrwydd Wales in Venice. Llun Jamie Woodley

 

 

Mae’r rhan fwyaf o’r adrannau yma’n ailymddangos, ac mae’r gwaith wedi ei greu i’w ddangos ar loop, heb ddechrau na diwedd amlwg. Mae’r montage – yn enwedig wrth i’r gwyliwr dreulio oriau dan hypnosis ei ddelweddau – yn araf awgrymu ymdriniaeth o dreigl amser fel clytwaith. Awn o ddelweddau rhyfeddol Becker o hanner gyntaf yr ugeinfed ganrif i glipiau o porn cyfoes, i mementos personol y ddau awdur hoyw, i naratifs pytiog ffantastig. Dyma fynegiant o hanes fel rhywbeth nad yw’n llinell syth, ontolegol, ond fel rhywbeth sydd, o reidrwydd, yn hyblyg; yn ddeunydd y gellir chwarae ag ef. Dyma ymwrthod ag ‘amser syth’ a ‘llinell syth’ hanes hefyd. Dyma ddyfodoleg hoyw ar waith.

 

Yn ei ymagwedd ymyraethol a chwareus tuag at archifau, cyflwyna’r ffilm ffyrdd o feddwl am dreigl amser sy’n herio’n rhagfarnau mwyaf elfennol am drefn hanes. Mae gen i ddiddordeb yn y modd y gall diwylliannau a leiafrifwyd, fel y mae diwylliannau pobol queer yn dal i fod, ddefnyddio ffurfiau newydd ein harchifau digidol agored i weld eu hunain. Mae gweld hanes wedi ei gyflwyno mewn gramadeg mor collagaidd â What weakens the flesh yn gallu golygu gweld eich hunan o’r newydd. Mae’r gwaith, yn enwedig gan iddo gael ei gomisiynu fel cynrychiolaeth ‘swyddogol’ Cymru yn Fenis 2017 (ac felly’n cael ei ariannu’n rhannol gan arian cyhoeddus) yn ddifyr i’w ystyried yn nhermau dyfodoleg Cymreig yn ogystal â dyfodoleg queer. Ymhlith yr holl weithiau diweddar sydd wedi ymdrin â materion Cymraeg a Chymreig yng ngramadeg dyfodolaeth (o Dyfodiaith i Y Dydd Olaf i The Meat Tree i Tyrrau Mawr), dyma waith sy’n cynnig her wirioneddol newydd ynglŷn â’r berthynas rhwng Cymru a Chymreictod a’r ffordd rydym yn ymdrin ag amser. Fel Cymro queer, yr un fath â James Richards – yn ‘lleiafrif o fewn lleiafrif’ dim ond yn y ffordd mwyaf arwynebol, gyda pherthynas gymhleth iawn â’r statws hwnnw – profais y gwaith fel cyffur. Gwelais rywbeth o fy hun pan welais y fideo am y tro cyntaf yn Chapter nôl yng Nghwanwyn 2018. Profais y fideo’n agos ataf, fel cyfrinach, fel petai Richards a Reinke wedi ei greu yn arbennig ar fy nghyfer i, fel eu bod wedi dod â’r holl ddelweddau hyn yn ôl yn fyw mewn ffordd oedd bron yn llythrennol, mewn ffordd a ddeallais, rywsut, yn syth.

 

Mae creu delweddau yn gallu bod yn anghenraid, yn ffordd o wrthwynebu ac o oroesi, ac o ddiogelu hanesion cymunedau lleiafrifol. Yr hyn a bwysleisir gan weithiau James Richards yw mor denau yw’r linell rhwng creu celfyddyd a ffurfiau eraill o fydoli – worlding. Cydweithio; dealltwriaeth rhwng cenedlaethau; creu llinach; gadael ôl.

 

Mae theoregwyr cyfoes dyfodoleg a bydoli yn pwysleisio’r anghenraid o gynnig gwahanol ffurfiau o fodoli yn y byd drwy dorri llinellau cyfarwydd o ddealltwriaeth ac ailgreu bydoedd newydd. Rhaid torri ar draws cenedlaethau, ar draws yr holl haenau trwchus sy’n ffurfio llanast hanes, ar draws deunyddiau a ffurfiau a genres a chyfryngau, i wneud synnwyr o’r ffordd rydym eisiau i’r dyfodol i edrych. Rhaid adeiladu’r dyfodol hwn o’r newydd gan ddinistrio – gyda dychymyg – yr hyn y tybiwn ein bod yn adnabod o’r gorffennol – “ein” gorffennol, pwy bynnag yw’r “ein” hynny. Dylem feddwl am ‘y dyfodol’ nid yn unig fel thema neu genre sydd i’w weld mewn rhai gweithiau Cymreig sy’n ymwneud â’r dyfodol fel testun, ond hefyd yn gategori o feddwl y dylem feddu arno yn ein hymagwedd tuag at bob celfyddyd blaengar sy’n dod o Gymru, rhywbeth sydd wedi ei wâu i mewn i ffurf unrhyw waith sy’n gosod Cymru neu Gymreictod yng nghyd-destun treigl hanes.

 

Dydy bydoedd newydd ddim yn ymddangos. Maen nhw’n cael eu creu. Ac mae’r teclynnau i’w creu yn aml yno, o dan ein trwynau.

 

 

(Mae’r erthygl hon yn addasiad o bennod o draethawd-hir a gyflawnwyd yn yr adran Visual Cultures yn Goldsmiths, Prifysgol Llundain yn 2018, sydd yn traddodi gwaith Bedwyr Williams, Gwyneth Lewis a James Richards yn nghyd-destun dadleuon deallusol cyfoes ym maes dyfodoleg+aeth. Os ydych am ddarllen fersiwn gwreiddiol yr erthygl hon, neu’r holl draethawd hir, croeso i chi gysylltu â’r awdur.)

                                                                        

Rhannu ar Facebook
Rhannu ar Twitter
Please reload

Cynnyrch Diweddar

22.11.2019

17.11.2019

Please reload

Dilynwch Y STAMP
  • Facebook Basic Square
  • Twitter Basic Square

Menter gydweithredol a redir yn wirfoddol yw Cylchgrawn Y Stamp, gyda'r bwriad o gynnig llwyfan i leisiau newydd a sefydledig ym mhob cyfrwng creadigol. Gwasg anibynnol newydd yw Cyhoeddiadau'r Stamp. Rydym yn gwerthfawrogi unrhyw roddion all ein gelpu i gyflawni'r nodau a osodwyd yn ein maniffesto. Os hoffech roi arian tuag at elfen benodol o'n gwaith, nodwch hynny yn eich sylwadau wrth yrru'r rhodd.

© 2019 gan Y STAMP. 

  • w-facebook
  • Twitter Clean