Ymateb: Llyfr y Flwyddyn 2019 - Casi Dylan, Eurig Salisbury, @mwnaimwnai

11.06.2019

ychwanegwyd gan

  Gorffwys ar ôl bod yn darllen llyfrau (Jeong Seon, 1676-1759)

 

Cafwyd ymateb cadarnhaol i drafod a fu ar wefan Y Stamp y llynedd ynghylch rhestrau byrion cystadlaeuaeth Llyfr y Flwyddyn 2018. Un o'n hamcanion pennaf wrth sefydlu'r cylchgrawn ddwy flynedd a hanner yn ôl oedd ennyn trafodaethau o bob math ar waith creadigol cyfoes o Gymru. Dyma ni'n dychwelyd felly gyda chriw newydd o ddarllenwyr yn bwrw barn ac yn myfyrio dros gynnwys rhai o restrau byrion 2019.

 

Cynhelir seremoni wobrwyo Llyfr y Flwyddyn 2019 ar y 20 Mehefin yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth. Gallwch ddod o hyd i ragor o fanylion yma

 

Fe allwch chi hefyd ymuno yn yr hwyl ar y noson (pwy gafodd gam, pwy freibiodd pwy, pwy chwydodd dros ei siwt) trwy ddilyn a chyfrannu at hashtag #LlYF19 ar twitter.

 

-----

 

Casi Dylan: Ffeithiol Greadigol (Cymraeg)

 

Fel pioden yn nythu, ’dw i’n fy nghael fy hun yn ddiweddar mewn cyfnod o ddarllen ble mae’n sylw yn cael ei ddenu gan ddernyn gloyw fan yma a fan draw, heb aros yn rhy hir yng nghwmni’r un awdur, cyfnod na genre. Adwaith yw hyn, ’dw i’n tybio, i’m cyfnod yn gweithio yng Ngŵyl Lyfrau Rhyngwladol Caeredin, a’r pwyslais ddaeth yn sgîl hynny ar newydd-deb, a chyfoesedd llenyddol namyn dim. Yn fwy nag arfer eleni felly, a minnau’n darllen am yn ôl fel petai, yn igam-ogam i gyd, mae rhestr fer Llyfr y Flwyddyn yn cynrychioli nid crynodeb blwyddyn o ddarllen ond arwyddbost amserol i godi ’mhen ac edrych unwaith eto o’m hamgylch.

 

Ac o edrych, mae’r sgwrs rhwng cyfrolau rhestr fer categori Ffeithiol Greadigol 2019 yn fy nharo fel un o bwys. Bu darllen Y Gymru ‘Ddu’ a'r Ddalen ‘Wen’ Lisa Sheppard yn brofiad dadlennol i mi, ac rwy’n falch o weld y llyfr yn codi eleni gyda'r hufen. Dyma gyfrol ddiweddaraf cyfres Gwasg Prifysgol Cymru, ‘Y Meddwl a’r Dychymyg Cymreig’, teitl addas i fyrdwn y tri llyfr yn y categori fel ei gilydd, er bod hynny ar donfeddi tra gwahanol. Ar eu gorau, yn eu gwahaniaethau, cynigant bob un eirfa a mynegiant i’r meddwl Cymreig cyfoes yn ei ehanger, ei bryderon, ei hunanymwybyddiaeth.  

 

Os oes perygl i gyfrol Andrew Green, Cymru Mewn 100 Gwrthrych, ddioddef ffawd unrhyw ymgais at restru a safoni, mae ei phwyslais ar hygyrchedd – o ran dehongliad, diwyg, mynediad cyhoeddus at y gwrthrychau ar lawr gwlad – yn glodwiw. Cydnabydda Green yn ei gyflwyniad mai ‘anaml y bydd gwrthrych yn dweud un stori’n unig’, gan yrru at gwestiwn anochel prosiect o'r fath: Sut mae diffinio Cymru yn y cyd-destun yma? Sawl Cymru sydd yma i’w chyflwyno? O osod y gwaith deongliadol yma ochr yn ochr â chyfrol Lisa Sheppard, gwelwn y galw cynyddol sydd ar yr angen i ail-wifrio’n dealltwriaeth (ein cydnabyddiaeth?) o amlddiwylliannedd yn y cyd-destun Cymreig, ac i (ail)berchnogi ein straeon ni ein hunain. ‘Trwy fabwysiadu dull darllen rhyngieithol’, yn ôl Sheppard, ‘gallwn ddarllen a dehongli’r genedl o'r newydd.’ Perthyn i’r byd sydd ohoni mae’r gyfrol hon, nid i fyd ysgolheictod yn unig: mae’r eirfa a gyniga yn rhedeg yn ddyfnach na’r Rhestr Termau ym mlaen y llyfr.

 

‘Cred yn dy iaith dy hun’ yw un o’r gwersi bywyd yn rhestr Malan Wilkinson tua diwedd Rhyddhau’r Cranc, ac mae’r gyfrol gyfan yn fynegiant didwyll o’r wers hon. O ran cywair a ieithwedd mae’r llyfr ar dir gwahanol i’r gweddill, ac mae grym a chynhesrwydd arbennig yn perthyn i’w phortread o iechyd, a salwch, meddwl, a’i le yn ei bywyd dydd i ddydd. Trwy ei gwaith – trwy’r categori cyfan – cawn flas o’r straeon a’r lleisiau sydd arnom angen eu clywed a’u cydnabod yn rhan o’n stori ehangach. Mae llawer mwy ohonynt i’w dadorchuddio eto, neu, i fenthyg delwedd Malan ei hun, i’w rhyddhau fel cranc o gaethiwed y lein bysgota.

 

Mae’n werth crybwyll efallai, fel ôl-nodyn ac fel un a argyhoeddwyd gan ddadl ryngieithiol Lisa Shepphard, cymaint o’r cyfrolau Saesneg y rhestr fer sydd eto gen i i’w darllen (er bod The Light in the Dark Horatio Clare a West Carys Davies yn y pentwr ger fy ngwely ers tro). Arwyddbost arall i’w ddilyn, mae’n rhaid. A braf hefyd yw ennill ar y cyfle i ail-berchnogi Sal Mick Kitson fel llyfr i Gymru, a minnau wedi dod ar ei draws gyntaf mewn cyd-destun cwbl Albanaidd, rhan o arlwy cyffrous gwasg Canongate, Caeredin.

 

-----

 

Eurig Salisbury: Barddoniaeth (Cymraeg)

 

Ac ystyried nad enwyd cyfrol o farddoniaeth yn Llyfr y Flwyddyn er 2002, yr uchafbwynt i’r beirdd yn ddieithriad ers tro fu’r wobr farddoniaeth. Tybed a ddaw un o’r beirdd i’r brig yn 2019? Does wybod, wrth reswm, ond un annoeth, am wn i, fyddai’n mentro arian yn erbyn yr awduron ffuglen eto eleni.

 

Er gwaethaf y brif wobr, felly, dyma air neu ddau am y tair cyfrol o farddoniaeth a osodwyd ar y rhestr fer. Tair cyfrol wahanol iawn, ond tair ag un peth amlwg yn gyffredin: maen nhw i gyd yn edrych am yn ôl.

 

Cyfrol i anesmwytho dyn yw twt lol gan Emyr Lewis. Ei horgraff, i ddechrau: mewn dwy gerdd yn unig y defnyddir priflythrennau yn y dull arferol, ac enwau priod yn unig a briflythrennir yn y lleill i gyd. Fel yn achos y teitl ei hun, effaith hyn i gyd yw taro’r darllenydd oddi ar ei echel a gwneud i’r cerddi ymddangos yn eiddilach pethau nag ydyn nhw mewn gwirionedd. Bydd y dechneg yn gyfarwydd i bawb sy wedi gweld Emyr yn darllen ei gerddi chwareus a chraff â llais siarad cwbl dawel a digyffro.

 

Ond effaith hynny hefyd yw rhoi’r argraff, o leiaf, fod Emyr wedi danto â’r byd, ac nid heb reswm da. Marwnadau yw rhai o gerddi amlycaf y gyfrol, ac mae’r rhwystredigaeth wleidyddol yn rhemp. Pwy wêl fai arno am fod yn ddig? Cerddi byr, pytiog a chwerw yw nifer ohonynt, lawer a welodd olau dydd am y tro cyntaf ar y cyfryngau cymdeithasol, rai eraill a gyfansoddwyd mor bell yn ôl â 2007. Mae hyd yn oed wedi cefnu ar ganu dinesig, i bob golwg, y wythïen gyfoethog honno a gloddiodd mor effeithiol yn ei gyfrolau blaenorol, fel yr awgryma yn ‘petrus gam’:

 

cerddaf ar lan yr afon

heddiw’n swil, a’r ‘ddinas hon’

yn ddinas na feddiannaf

mohoni chwaith, am na chaf

ynddi hi’r un esmwythâd

erbyn hyn, nac eneiniad.

 

Er mor fwriadol anesmwyth yw llawer o’r darluniau cain gan Esyllt Angharad Lewis, merch Emyr ac Angharad, maen nhw’n aml yn lliniaru rhywfaint ar erwinder llwm y geiriau. Da’u cael, am hynny. Wn i ddim pa mor hawdd fyddai tramwyo diffeithder rhai o’r cerddi heb gwmni un o genhedlaeth ifancach!

 

Mae’r lluniau’n gaffaeliad yng ngyfrol Manon Rhys hefyd, rhai Siôn Tomos Owen y tro hwn. Mae stafell fy haul yn llawn lleisiau a chymeriadau, ond y mae’r ffaith mai swbwrbia wag o bobl a welir yn y lluniau’n cyd-fynd i’r dim â’r ffaith mai myfyrio yn y person cyntaf a wneir yn bennaf. Gan hynny, mae’r cerddi – sy’n hir iawn yn aml ac eto’n rhwydd ryfeddol i’w darllen – yn creu argraff freuddwydiol, ffuglennol, er bod llawer o’r hyn a ddisgrifir yn seiliedig, am wn i, ar brofiadau go iawn.

 

Llais cwbl hunanfeddiannol a glywir yn y cerddi, nid rhyw dybio neu gerdded ar flaenau’r traed, ond dweud pendant a di-ildio. Gallai llais felly’n hawdd fod wedi mynd i ymddangos yn ffroenuchel – yn enwedig ac ystyried ei gyd-destun dosbarth canol ystafelloedd haul a thrips i’r Gelli – ond y mae’r troeon ymadrodd annisgwyl a ffresni chwareus y delweddau’n milwro’n erbyn hynny. Eto i gyd, anodd peidio â synhwyro rhyw ryfyg chwithig yn y dal dig sy wrth wraidd y cerddi am fwlio ond, wedi’r cyfan, anodd dannod hynny i’r bardd.

 

Mae llawer o’r cerddi ar eu hennill o’u darllen gyda’r mymryn lleiaf o eironi – felly y darllenais i lawer o’r gyfrol, ta beth, yn gam neu’n gymwys, ac a oes ots yn y pen draw? Nid eithriad mo’r gerdd-stori olaf, teyrnged hyfryd i Tony Bianchi sy’n olrhain taith i Ŵyl y Gelli a’r cyffiniau. Mae’r geiriau sy’n gyrchfan – ‘karka dy ddiwedd’ – yn werth y daith.

 

Tair cyfrol yw’r rhain, ddwedais i, sy’n edrych am yn ôl, a neb yn amlycach nag Alan Llwyd, ac yntau wedi cyrraedd oed yr addewid ac yn tremio wysg ei gefn dros ei fywyd. Os wysg ei gefn, hefyd, oherwydd yr argraff a geir yn aml yn Cyrraedd yw bod Alan wedi troi ei gefn yn llwyr ar yr oes hon.

 

Cymerer y gyfres hirfaith ond cwbl grefftus o englynion ‘Y Llun’, lle hiraetha’n ddiymddiheuriad uwchben ffotograff ohono a dynnwyd ochr yn ochr â phum bardd arall ‘ar faes un o Eisteddfodau Cenedlaethol y 1980au cynnar’. Mawrygir y gorffennol gwych yn y llun hwnnw ar draul y presennol cwbl ddiddim, ac ymroi’n llwyr, gorff ac enaid, i nostalja.

 

Bu hwnnw’n emosiwn poblogaidd erioed, ond wela’ i ddim math o dda ynddo! Gall y teimlad fod yn ddigon diniwed yn y lle cyntaf, y cysur surfelys hwnnw a ddaw o gofio’r hyn a fu, ond gwylia feddwi arno. Y canlyniad yn aml yw gwneud i’r presennol, mewn cymhariaeth, ymddangos yn gwbl wrthun. Dyma gyflwr y Babell Lên heddiw, yn ôl Alan, ar ôl llewyrch mawr y dyddiau fu:

 

Nid diwylliant gwlad holliach a leinw’r

        Babell Lên amgenach:

    Mor wag yw’r babell bellach,

    A llai fyth yw’r babell fach.

 

Pabell fach yn crebachu, hithau’r iaith

        yn ei thro’n clafychu;

    a phell yw’r babell lle bu

    ein hiaith yn ein huniaethu.

 

Gellid rhoi rhywfaint o goel ar y geiriau pe bai’r bardd wedi tywyllu’r babell honno neu, yn wir, y sin ehangach fwy nag unwaith neu ddwy dros y degawd diwethaf. Nid fi yw ffan mwyaf y Babell Lên, nid o bell ffordd – mae llawer y gellid ei wneud er mwyn amrywio’r arlwy a’i wneud yn fwy perthnasol – ond y mae o leiaf yn llwyfan cyhoeddus, byw. Er gloywed crefft ddiymdrech ryfeddol y gerdd – fel yn y gyfrol ar ei hyd – ni all y gynghanedd guddio’r ffaith mai peth syml ddigon yw’r gerdd yn gysyniadol, creadigaeth braidd yn hunanfodlon sy’n ymdrybaeddu mewn hiraeth.

 

Gair byr hefyd am y gyfres o sonedau i ‘Wrthrychau fy Nghofiannau’. Gwae’r neb a gofiennir gan Alan, os dyma’r hyn sy’n eu haros! Does wybod beth wnaeth Kate Roberts, er enghraifft, i haeddu ei hiselhau i’r fath raddau nad yw ond ‘Brenhines drasig ein llwyth a sagâu ein llên’. Dywedodd Alan lawer – a llawer sy’n wych, a bod yn deg – am Hedd Wyn, ond wn i ddim a ddylwn i ei goelio pan ddywed ‘Ni ddywedaf ddim mwy’, a hynny yn llinell gyntaf y gerdd.

 

Ond yr hyn sy fwyaf rhwystredig am y gyfrol yw’r ffaith fod ynddi rai cerddi gwirioneddol gyffrous a theimladwy. Does amau fod Alan ei hun yn teimlo i’r byw y colledion a ddaeth i’w ran, ac ni welir hynny’n amlycach nac yn fwy cyfareddol drist nag yn rhai o gerddi olaf y gyfrol, a ganwyd er cof am Pheobe Florence Read, a fu farw o afiechyd yn bumlwydd oed. Ynghyd â’r cerddi eraill a luniwyd fel rhan o ymdrech i godi arian er mwyn trin yr afiechyd, mae’r cerddi hynny’n rhoi gwedd newydd fywiocaol ar allu rhyfeddol Alan fel bardd.

 

Mae’n arwyddocaol, efallai, nad colled a ddaeth i ran Alan ar ei ben ei hun oedd y golled honno ond, yn hytrach, un a lethodd gymuned gyfan. Yn y canu mwy cyhoeddus hwnnw, mae Alan yn rhoi llais i alar ehangach y bobl o’i amgylch, ac mae hynny, yn ei dro, yn ei godi o’r pwll hunandosturiol lle crewyd llawer o’r cerddi eraill. Does dim cymhariaeth, mewn gwirionedd, rhwng y diweddglo disymwth o ddiffaith a roir i’r gerdd ‘Galwad Cynnar’, fel llawer arall, a’r nodyn llawen-drist a drewir yn llinellau olaf ‘Cyngerdd Nadolig Ysgol Gymraeg Bryn-y-môr’:

 

… ac eto, eleni eto,

roedd hi yno yn gyffro i gyd,

roedd hi yno yn y cyngerdd a unai

ynghyd holl blant bach y byd,

yn bresennol yn ei habsenoldeb,

yn absennol yn ei phresenoldeb;

yno, yng nghanol y llond capel o blant,

yn canu, yn dawnsio ac yn cydio dwylo,

yr oedd Pheobe Flo.

 

Cystal dweud fod gen i feddwl mawr o Alan. Bu’n gefnogol iawn imi erioed, ac rwy’n ddiolchgar am hynny. Ond buasai’n dda gen i hefyd ei herio weithiau i ddod allan o’r stydi i brofi’r diwylliant hwnnw sy’n ei chael hi ganddo mor aml. Ni fyddai pob dim at ei ddant, wrth reswm, os nad y rhan fwyaf, ond byddai cymaint ag un cipolwg o leiaf yn tanseilio’r gred fod pethau wedi mynd i’r wal. Beth amdani, Alan?

 

Er gwaethaf gwychder twt lol, mae hi rhwng stafell fy haul a Cyrraedd i mi. Dau lais unigolyddol yn aml, ond dau sy’n llefaru hefyd ar eu gorau am eu lle yn eu priod gymunedau. Mae’r dynfa tuag at fawredd cyfrol Alan, er gwaethaf pob dim, ond efallai fod rhywbeth ym mwrlwm a dicter cerddi Manon sy’n peri ei bod yn gwthio ei ffordd i’r blaen.

 

-----

 

@mwnaimwnai (Cynan a Rachel Llwyd) : Ffuglen (Saesneg)

 

Rydyn ni wrth ein boddau â rhestrau byrion gwobrau llenyddol. Y cyffro o estyn am y llyfrau hynny sydd â’r sticeri lliwgar arnynt yn awchus, yn edrych ymlaen at gael gwledda ar siwgr ac Es creadigol. Ni chawsom ein siomi gan gyfrolau categori ffuglen Saesneg Llyfr y Flwyddyn eleni. Dyma ein hargraff ohonynt, a’n sgôr allan o 5, yn dilyn ein harfer ar Instagram.

 

Arrest Me, For I Have Run Away gan Stevie Davies (Parthian)

 

Mae Parthian yn hynod gynhyrchiol ac â track record wych o gynhyrchu cyfrolau arobryn. Mae Arrest Me, For I Have Run Away gan Stevie Davies yn brawf pellach fod Parthian, sy’n dathlu ei ben-blwydd yn 25 eleni, ymhlith cyhoeddwyr llyfrau gorau Cymru a gweddill gwledydd Prydain. Cyfrol o 20 stori fer yw’r gyfrol ac mae’n cynnwys toreth o straeon dynol a theimladwy o oes y Rhufeiniaid i’r presennol. Mae’r ysgrifennu’n dyner ac yn hynod o gynnil nes gorfodi’r darllenwr i roi cig a chnawd ar yr esgyrn. Cawn ein cyflwyno i gast o gymeriadau credadwy; pobl rydych yn siwr o’u hadnabod. Wrth ddarllen y gyfrol teimlom dristwch a hapusrwydd. Yn wir, cryfder Davies yw ysgrifennu am y natur ddynol, ac felly uniaethwn gyda phob stori. Nid pob stori oedd yn ein symud i uchelfannau gorfoledd neu i ddyffrynnoedd tristwch ac anobaith. Efallai y gellid fod wedi chwynnu a hepgor rhai o’r straeon nad oedd yn taro deuddeg. Ond efallai mai chwaeth bersonol yw hynny ac nad ein hoff straeon ni fydd hoff straeon pobl eraill. 3/5​

 

Sal gan Mick Kitson (Cannongate)

 

Mae Sal yn stori o oroesi. Chwiorydd yw Sal a Peppa ac maent yn llwyddo i ddianc rhag blynyddoedd o gamdriniaeth a sefydlu cartref yng nghefn gwlad gwyllt yr Alban. Er y themâu tywyll sydd ynddi, a bod y cynnwys ar adegau yn anghyfforddus i’w darllen, mae’r stori yn obeithiol. Mae perthynas y chwiorydd yn cael ei ddarlunio yn hyfryd. Mae awydd Sal i amddiffyn ei chwaer yn ddirdynnol. Sal sy’n adrodd y stori, ac mae Kitson wedi llwyddo i ganfod y llais perffaith iddi. Er ei hanallu i rannu a thrafod ei theimladau, mae ei ffordd ymarferol o feddwl a threfnu popeth dros ei chwaer yn dangos fod ganddi galon fawr, a dyna pam roeddem mor hoff ohoni. Mae disgrifiadau Kitson o’r gwyllt a sut llwydda’r ddwy i oroesi yn effeithiol ond i ni, y stori ddynol oedd yr uchafbwynt. Roeddem yn erfyn Sal ymlaen bob cam o’r ffordd am iddi lwyddo i ddianc o’i chefndir torcalonnus ac oherwydd iddi golli ei diniweidrwydd mor ifanc ac oherwydd hynny tyfu’n hen cyn ei hamser. Ond gwelwn yn aml mai merch ifanc yw hi o hyd yn yr hyn mae’n ei ddweud a’r ffordd mae’n ymddwyn, ac mae hynny ond yn ychwanegu at ein hoffter ohoni. Byddai Sal yn siŵr o ennill y categori oni bai am y ffaith fod nofel ragorol arall ar y rhestr fer. 4.5/5

 

West gan Carys Davies (Granta)

 

Dyma gyfieithiad o’n post ar Instagram o Mai 20fed 2018:

 

Roedd darllen y nofel fer hon gan Carys Davies yn bleser pur. Wedi dysgu bod esgyrn rhyfedd wedi’u darganfod yn Kentucky, mae Cy Bellman, sy’n ŵr gweddw, yn penderfynu gadael ei ferch a’i gartref ym Mhensylfania yng ngofal ei chwaer, er mwyn gweld os yw’r anifeiliaid rhyfedd dal yn byw yn y Gorllewin. Mae’r dyhead a’r atynfa i weld yr anifeiliaid â’i lygaid ei hun yn llethol ac mae’r nofel yn dilyn hynt a helynt Cy tra ar y llaw arall yn darlunio bywyd ei ferch a’i chwaer wrth iddyn nhw ddisgwyl ei ddyfodiad adref. Roedd y ddau ohonom wedi mwynhau pob math o bethau am y nofel; y disgrifiadau o’r daith a’r diwrnodau hir di-nod, y cymeriadu rhagorol a’r ysgrifennu cynnil sy’n adrodd cyfrolau. Yn wir, dydy’r crynodeb byr hwn ddim yn gwneud tegwch â rhagoriaeth y nofel.

 

Rhoesom 5 seren i’r nofel (sy’n beth prin i mwnaimwnai!) a thrafodon ni dros flwyddyn yn ôl mai West gan Carys Davies fyddai Llyfr y Flwyddyn. Wel, mae ar y rhestr fer - amser a ddengys a fydd ein rhagfynegiad yn gywir! 5/5

 

-----

 

Beth ddywedwch CHI? Cytuno neu anghytuno - trafoder, rhanner, cicier, stampier. #LlYF19

 

Rhannu ar Facebook
Rhannu ar Twitter
Please reload

Cynnyrch Diweddar

22.11.2019

17.11.2019

Please reload

Dilynwch Y STAMP
  • Facebook Basic Square
  • Twitter Basic Square

Menter gydweithredol a redir yn wirfoddol yw Cylchgrawn Y Stamp, gyda'r bwriad o gynnig llwyfan i leisiau newydd a sefydledig ym mhob cyfrwng creadigol. Gwasg anibynnol newydd yw Cyhoeddiadau'r Stamp. Rydym yn gwerthfawrogi unrhyw roddion all ein gelpu i gyflawni'r nodau a osodwyd yn ein maniffesto. Os hoffech roi arian tuag at elfen benodol o'n gwaith, nodwch hynny yn eich sylwadau wrth yrru'r rhodd.

© 2019 gan Y STAMP. 

  • w-facebook
  • Twitter Clean