Portread: Myrddin Jôs - Cenin Siôn Hughes

18.06.2019

ychwanegwyd gan

Rydan ni o hyd yn falch iawn o gael cyflwyno gwaith gan awduron newydd sbon i'r Stamp ar ein gwefan. Roedd hi'n braf iawn felly derbyn y darn creadigol yma gan Cenin Siôn, un o griw fu'n rhan o weithdy gynhaliwyd gan rai o'r stampwyr yng Ngholeg Meirion Dwyfor, Pwllheli. Mwynhewch, ymatebwch, a chadwch glust at y ddaear am ei henw hi eto yn y dyfodol.

Wrth i fywyd fynd yn ei flaen yn ei ruthr beunyddiol, eisteddai Myrddin yn ei nefoedd bren o hanner awr wedi wyth y bore hyd nes troi tuag adref wrth i’r gwyll gau amdano. Gellid clywed ei esgidiau llac yn paredio ar hyd Stryd y Plas pan fyddai gweddill y byd yn cysgu, a hawliai’r Groes yn Nhref y Penwaig fel petai yr un mor hanfodol â’r concrid garw a’r muriau maen. Doedd ’run o’r bobl leol yn gwybod ei hanes, na chwaith yn trafferthu gofyn. Byddai pawb yn disgwyl gweld y gŵr llwyd wrth yrru heibio – ‘yn tydi o wedi bod yno erioed?’

 

Hen greadur oedd Myrddin, yn benderfynol o gadw ei deyrnas bathetig rhag bwlio cas amser. Cyn meddwl edrych drwy ffenestr ffawydd melyn y fflat tamp, byddai’n taflu ei siwt frown batrymog amdano. Crys crychiog wen yn adrodd cyfrolau. Beth oedd wedi ei yfed y diwrnod hwnnw? Sut fath o friwsion bras oedd yn pluo o’i farf ar y cotwm tenau? Byddai’r atebion fel tapestri ar y crys mochaidd. Gellid gweld ei arferiad drwg o bylu sôs coch ar bob pryd yn amlwg wrth edrych arno; boed hynny’n lobsgows Meri Ann drws nesaf, neu’n sosij rôl o’r becws lleol. Pâr o drowsusau llaes â phatrwm chec coch tenau yn rhedeg drwy’r defnydd rhwth brown, lle’r oedd mwy o dyllau nac edau a’i bengliniau crynedig i’w gweld yn noethlymyn gorcyn yn rhoi oddi tano. Siaced unfath gyda’r bachyn ar golar ei siaced wedi ei ymestyn wedi sawl dydd o haf yn cael ei daflu dros yr ysgwydd fain yn hamddenol braf ac un bys gwyn a gwythienog yn ei ddal yno. Dyna’r unig siwt iddo wario arni ers ei hanner cant a oedd sawl mlynedd yn ôl bellach; ar yr union ddiwrnod ddaru fo ddychwelyd i lannau Penrhyn Llŷn. Byddai’n gyndyn o ychwanegu unrhyw fath o newid i’r edrychiad gwallgof hwn, ond roedd hi’n draddodiad ganddo i chwilota am bâr o fenyg cardotaidd pan fyddai ‘yr aer rhy oer iddi eira’.

 

Sawl awr o ladd amser … o synfyfyrio ac aflonyddu. Byddai Myrddin yn gwneud yr un hen ystumiau drosodd a throsodd; cosi ei drwyn hirgul, rhedeg ei figyrnau gwyn gwythiennog drwy ei wallt arian pigog. ‘Brillo’ y byddai’r bechgyn ifanc yn ei alw er mwyn ei watwar; ac yn wir i chi, roedd yn rhaid cytuno fod y pen blêr yn edrych yn union fel y brwsh sgwrio metelaidd sy’n eich cegin. Wrth syllu ar y cymylau yn dawnsio byddai’n eistedd yn ôl a’i freichiau wedi plethu, cyn plygu ymlaen a chraffu ar frain yn ffraeo ar bwys y ciosg gerllaw. Gwedd welw, rychiog oedd gan Myrddin a’i ên yn hir. Byddai hynny, ynghyd a’i dagu cras, yn llwyddo i ddychryn pob cot law fechan a fyddai’n mynd heibio’r Groes. Er iddo geisio eu galw ato a chyn i unrhyw un gael y cyfle i brofi’r tinc cyfeillgar yn nyfnderoedd hallt ei lygaid trist, brasgamai'r bobl heibio gan adael i’r enaid unig bylu.

 

Byddai’n ei heglu hi ar hyd y ffordd fawr yn y welingtons melyn enfawr, a’r rheini’n fflachio atgof pell o’r hen ddyddiau. Cloch drws yr Old Post yn canu am un ar y dot, a chopi o’r Daily Mail yn cael ei swatio dan gesail esgyrnog. Holi wrth y til mewn tempar fain, ‘Ti’n siŵr wan ‘mechan i? ‘Sa ddim pacad pump o Woodbine yn cefn ’na rwla?’ Cai’r un ymateb siomedig cyn bodloni ar Rothmans Superkings Blue tra’n gwgu. Yn dilyn echdoriad anfodlon ynglŷn â’r sigaréts, dychwelai i’w hafan gysetlyd i’r wellingtons ac yntau'n cael gorffwys unwaith eto. Wedi ennyd i gael ei wynt prin i grafu’n gyson unwaith eto, arferai osod y sigarét denau rhwng pegiau plastig gwynion o ddannedd yn lein ddillad ei geg. Byddai Myrddin ond yn siarad yn ôl yr angen, oni bai eich bod yn ei ddal yn traethu wrtho’i hun am oriau maith am yr hwn a’r llall a ddeuai heibio. Y ffotograff llonydd o’r llanc â’i het yn isel, mewn trwmgwsg rhag gweddill ryfeddodau’r byd tu hwnt i gysgod y Groes. A’r ffotograff hwnnw yn melynu fel ei ewinedd maith.

 

Ond roedd gan Myrddin gyfrinach, nad oedd wedi ei dweud wrth neb. Er i drigolion y dref ei farnu a phenderfynu mai ‘wast ar fywyd yn llwyr’ oedd yr hen lanc, ‘wedi taflu ei fywyd ‘ffwrdd yn crwydro strydoedd llwyd Tref y Penwaig’, bu i Myrddin grwydro pob twll a chornel o’r byd mawr hwn, gan chwilota am grancod mewn cefnforoedd a chrafu am marakely lu yn Madagasgar. Eisteddai ar y Groes yn ysu am gael menthyg clust iddo gael adrodd ei restr faith o hanesion bywiog a chyffrous. Byddai wrth ei fodd yn cofio am y diwrnod y bu iddo nofio yn nhonnau cynnes môr yr Iwerydd, a thaeru ei fod wedi ei hudo gan for-forwyn pengoch. Hoffai feddwl am ei hun fel perl byledig mewn iard sgrap. Er fod ambell un yn mentro cynnau sgwrs â’r hen lanc, doedd ei oddefgarwch tuag at ‘plant dyddia yma’ ddim yn hynod uchel.

 

Ar ddyddiau gwyntog, byddai Myrddin wrth ei fodd yn clywed yr eigion garw prin filltir i ffwrdd. Hoffai gau ei lygaid trwm yn dyn a cheisio cofio sut beth oedd cael clusten gan don fferllyd wrth frwydro yn erbyn clymaucawelli ystyfnig. Byddai’n chwerthin yn galonnog wrth ddychmygu ei goesau robin a’i ysgwyddau heglog gynt yn cystadlu â thri chant o benwaig mewn rhwyd. Synfyfyriai’n fodlon ei fyd am ennyd, cyn llyncu mul a phregethu ‘dan ei wynt nad oes gan ‘blant heddiw'r syniad cyntaf sut beth ydi gwaith go iawn, y ffernols diog!’ Yna eisteddai yn feddylgar ddifrifol gan anwesu ei farf llipa sydd fel gwymon ar graig. Hiraeth am yr hen ddyddiau oedd yn dwyn amser Myrddin. Hiraeth am yr amser pan oedd yn llanc ifanc a’i gynefin yn llawn dyddiau difyr di-ben-draw ar draethau euraidd a cherrig gwynion hardd. Bryd hynny, roedd y môr yn gyfaill dirgel a phob haf yn heulog. Cyndyn ydoedd i dderbyn y gaeaf hir.

 

Oedd, roedd yn ymddangos yn ddyn bregus erbyn hynny, ond cafodd caledwch ei fagu yng ngwythiennau Myrddin Jôs ac roedd ei dafod yn fwy llethol nac unrhyw grafanc neu lafn. Gyda’i galon hiraethus yn methu nid oedd Myrddin ond cwch pysgota gwag gyda’r dŵr yn nofio i mewn byth a hefyd, yn ei foddi’n araf bach. Chaiff yr un gair cyfeillgar ei gydnabod heb felltith na’r un cwmni cydymdeimlol ei werthfawrogi gyda gwên. Yn ei hanfod, aderyn rhydd oedd Myrddin a oedd yn ffynnu wrth drafeilio a darganfod; ond anodd oedd gweld hynny drwy niwl henaint a gaeai fel llenni llychlyd am ei lygaid llaith. Doedd neb yn cofio’r Myrddin a fu erbyn hynny; y dyn bodlon braf yn chwibanu a chorneli ei wefusau pinc yn bradychu ei wên ddireidus. Bu unwaith yn fodlon braf – yn gwenu a sawl llaw yn chwifio’n llawen, yn adnabod pob pryd a gwedd ai heibio. Ond erbyn hyn doedd dim ond wynebau dieithr di-ben-draw yn cuchio mynd drwy’r gylchfan brysur.

 

Dyddiau hir o ddilyn patrwm a’r misoedd yn plethu’i edau ym mlanced blynyddoedd Myrddin Nant Glas. Ond un Dydd Llun brwnt yn Rhagfyr, chlywodd neb orymdeithio welingtons melyn yn diasbedain ar hyd Stryd y Ffynnon. Doedd yr un paced sigarét ar goll o’r silff yn yr Old Post. Sylwodd neb fod cyrtans blodeuog y ffenestr ffawydd melyn yn dal ar gau. Ac am hanner awr wedi wyth y bore, tywynnai’r haul ar nefoedd bren wag y Groes yn Nhref y Penwaig.

 

 

 

Rhannu ar Facebook
Rhannu ar Twitter
Please reload

Cynnyrch Diweddar
Please reload

Dilynwch Y STAMP
  • Facebook Basic Square
  • Twitter Basic Square

Menter gydweithredol a redir yn wirfoddol yw Cylchgrawn Y Stamp, gyda'r bwriad o gynnig llwyfan i leisiau newydd a sefydledig ym mhob cyfrwng creadigol. Gwasg anibynnol newydd yw Cyhoeddiadau'r Stamp. Rydym yn gwerthfawrogi unrhyw roddion all ein gelpu i gyflawni'r nodau a osodwyd yn ein maniffesto. Os hoffech roi arian tuag at elfen benodol o'n gwaith, nodwch hynny yn eich sylwadau wrth yrru'r rhodd.

© 2019 gan Y STAMP. 

  • w-facebook
  • Twitter Clean