Ymateb: Gorwelion - Caryl Bryn

20.08.2019

ychwanegwyd gan

Dywed Manon Steffan Ros yn ei cholofn yn Golwg; ‘Do’n i heb feddwl, cyn hyn, fod ‘A dechrau yn y dechrau’n deg’ wedi ei serio ar fy enaid mewn ffordd na fyddai “To begin at the beginning’ byth.’

 

Diau mai’r grefft o gynnig naratif ar gynghanedd yw hud cystadleuaeth y Gadair i mi – byddaf yn ymdrochi y mesuriadau a’r cynganeddion a’n synnu ar ddawn prifardd i allu drosglwyddo neges mor rhwydd ac hwythau'n gaeth i’r gynghanedd.

 

Cyniga T. James Jones ddarlun o ddiwedd y Gymru annibynnol drwy linellau megis ‘Â gefel ei gof fe wêl gyrff ych-a-fi fel lluwchfeydd eira’n hen aros Eryri’ ac ‘yn rhwyd undeb Prydeindod y daliwyd dwywlad yn un paith uniaith, a’i lysenwi’n Englandadnwales, a hi’r wales ar ddiflannu, bron, yn silcyn dindod i’r gwaelodion’. Dawn nad yw’n eiddo i lawer yw’r gallu i lunio darlun mor ingol ar y mesur hwn – nid yw’r gynghanedd yn dwyn sylw’r glust ac yn caniatáu inni deimlo’ gofidiau a gobeithion Iolo Morgannwg a’r bardd ei hun am Gymru a’i diwylliant.

 

Dywed Ieuan Wyn yn ei feirniadaeth: ‘Cawsom gyfanwaith sy’n gyforiog o ddelweddau trosiadol, cymariaethau, cyferbyniadau a chyfeiriadaeth, gyda’r rhuglder cynganeddol yn amrywiol ei rhythmau – yn byrlymu, yn arafu, ac yn ergydio’n effeithiol’.

 

Gofyn fy chwaeth bersonol yw gweld yr hyn a restrir gan Ieuan Wyn uchod mewn cyfanwaith i ennill y Gadair – dangosa hyn addysg y bardd ynghylch yr hanes tu ôl i’w waith a’i allu i athronyddu’n greadigol am yr hanes hwnnw gan blethu’i ing bersonol ynghylch hyn oll.

 

I mi, gesyd y cwestiynu ynghylch swyddogaeth bardd mewn is-haen ar ddechrau’r awdl / casgliad o gerddi rhyw fath o bŵer goruwchnaturiol i Iolo Morgannwg – dyma enghraifft berffaith o allu Jim Parc Nest i gyflwyno’r hanesyddol yn greadigol gan lwyddo i fodloni’r glust. Wrth i’r bardd gynnig darlun o Iolo Morgannwg yn tynnu’i sylw at ddarlun Thomas Jones, The Bard y mae’n gofyn ‘Ai hyn oll fu ei siwrne hi, ‘mond storom o dosturi?’ Wedi myfyrio gofidus a galarus Iolo Morgannwg y mae’n pledio ar y bardd yn y darlun i ddal ei dir. Ceir darlun o Iolo Morgannwg yn cael ei ‘daflu’n ddiseremoni o’r oriel’ fel dywed Llion Jones yn ei feirniadaeth. Diau mai un o’m hoff rannau o’r gerdd yw’r darlun hwnnw – ‘Now, listen here!’ mynte rhyw lais yn heriol. ‘Na! Dal dy dir! Eilia gân ar dy delyn!’ [ . . . ] ‘Quiet, be quiet, you cad!’ [ . . . ] ‘Diawl! Chaiff neb fy nistewi!’. Nid oes i’r geiriau hyn or-athronyddu – dim ond darlun o orffwylltra Iolo Morgannwg a geiriau di-ystyr y ‘Saislifiad’ yn ei goncro. Dyma grisialu cymaint mewn hanner sgwrs oer.

 

Y mae gallu’r bardd i galedu a chyflymu llinellau o gynghanedd i gyd-fynd â naws y naratif yn anhygoel a’n fwy anhygoel fyth – y gallu i arafu’r cyfanwaith wrth blethu’i lais sy’n pryderu ynghylch y Gymru fydd. ‘...ond, dan ormes traed estron y gwelai’i wlad, ac wylai o waelod ei galon’ a’r ddwy linell ola’n mynnu deigryn. ‘A ddeffra’i chwedl y genedl gaeth honno a’i herio i hawlio ymreolaeth?’. Ysgafnder cain i’r glust ac ergyd i foddhau’r galon wedi dilyn naratif yr awdl.

 

Wedi bwrw golwg yn unig dros yr awdl, dymunaf estyn diolch i Jim Parc Nest am ‘Gorwelion’ gan ei longyfarch yn wresog.

 

-----

 

Llun: The Bard, Thomas Jones (1742-1803) - Amgueddfa Cymru, Caerdydd

 

Rhannu ar Facebook
Rhannu ar Twitter
Please reload

Cynnyrch Diweddar
Please reload

Dilynwch Y STAMP
  • Facebook Basic Square
  • Twitter Basic Square

Menter gydweithredol a redir yn wirfoddol yw Cylchgrawn Y Stamp, gyda'r bwriad o gynnig llwyfan i leisiau newydd a sefydledig ym mhob cyfrwng creadigol. Gwasg anibynnol newydd yw Cyhoeddiadau'r Stamp. Rydym yn gwerthfawrogi unrhyw roddion all ein gelpu i gyflawni'r nodau a osodwyd yn ein maniffesto. Os hoffech roi arian tuag at elfen benodol o'n gwaith, nodwch hynny yn eich sylwadau wrth yrru'r rhodd.

© 2019 gan Y STAMP. 

  • w-facebook
  • Twitter Clean