annibynnol - gwirfoddol - cydweithredol

CADOEDIAD NAWR

CADOEDIAD NAWR

Cyhoeddwyr dros Balesteina

Mae Cyhoeddiadau’r Stamp yn un o arwyddeion datganiad o gydsafiad gan Publishers for Palestine, ochr yn ochr a chyhoeddwyr ledled y byd sy’n galw am gadoediad ac yn condemnio ymosodiadau hil-laddol diamgyffred gwladwriaeth Israel. Rydym yn gwahodd cyhoeddwyr, golygyddion ac awduron o bedwar ban byd - ac yn pwyso ar ein cyd-weisg yma yng Nghymru yn enwedig - sy’n sefyll dros gyfiawnder, rhyddid mynegiant a grym y gair ysgrifenedig i lofnodi’r llythyr hwn.

Diolch i Gyhoeddiadau Barddas, O’r Pedwar Gwynt a chylchgrawn Cara am ymuno â’r rhestr. Gallwch ddarllen datganiad Barddas yma.

Sgriptiau Stampus 03: Woof - Elgan Rhys

Dysgu Nofio - Iestyn Tyne

Ffosfforws 4 - gol. Carwyn Eckley

Pwy ydym ni?

Gwasg fechan annibynnol, wirfoddol, yw Cyhoeddiadau'r Stamp, a sefydlwyd ochr yn ochr â gwefan a chylchgrawn Y Stamp. Er i’r cylchgrawn ddod i ben yn 2021, mae Cyhoeddiadau’r Stamp yn parhau i gynhyrchu deunydd newydd. Mae'n gweithredu ar sail yr un gwerthoedd â'r cylchgrawn, gyda'r gobaith o roi llwyfan i leisiau newydd ac ymylol yn y Gymraeg, creu llwyfan agored i greadigrwydd o bob math, a bodoli'n annibynnol heb nawdd cyhoeddus. 

Rydym yn ymfalchio nid yn unig mewn cyhoeddi print (a hynny am y tro cyntaf i gyfran helaeth o'r awduron, er bod lle hefyd i leisiau mwy sefydledig sy'n mentro i gyfeiriadau newydd), ond hefyd mewn trefnu ddigwyddiadau sy'n cynnig y cyfle i gyfrannwyr y cyfrolau drafod, dadansoddi a pherfformio eu gwaith - cyfle yr ystyriwn yn llawn mor bwysig â chyhoeddi'r gwaith hwnnw yn y lle cyntaf.

Mae cyfrolau barddoniaeth Cyhoeddiadau'r Stamp wedi ennill Categori Barddoniaeth Gwobr Llyfr y Flwyddyn (2022: merch y llyn gan Grug Muse; 2020: Hwn ydy'r llais, tybad? gan Caryl Bryn) a chyrraedd y rhestr fer (2022: Stafelloedd Amhenodol gan Iestyn Tyne), ac wedi ennill Gwobr Michael Marks am Farddoniaeth yn yr Ieithoedd Celtaidd (2020: Carthen Denau gan Rhys Iorwerth; 2019: moroedd/dŵr gan Morgan Owen). Dewiswyd nifer o’n cyfrolau hefyd ar gyfer Silff Lyfrau Cyfnewidfa Lên Cymru (2022: merch y llyn gan Grug Muse; 2023: Croendena gan Mared Llywelyn, Imrie gan Nia Morais, Dysgu Nofio gan Iestyn Tyne).

Tîm Cyhoeddiadau’r Stamp yw Llŷr Titus, Grug Muse, Iestyn Tyne ac Esyllt Lewis.