Wrth dy grefft: Brawddegau - Llŷr Gwyn Lewis

22.01.2020

 

Dyma’r darn diweddaraf mewn cyfres o ysgrifau lle rhoddir cyfle i awduron, beirdd a dramodwyr ystyried elfennau o’u crefft gan rannu yr hyn y maent wedi ei ddysgu. Gobeithiwn y bydd o ddefnydd i eraill wrth ystyried a datblygu eu crefft hwy, boed hynny drwy roi syniadau newydd, neu ddim ond beri i ni eistedd yn ôl ac ystyried ein hymarfer ninnau.

 

 

 

 

 

 

Dach chi’n gwybod amdani. Y math o frawddeg sydd gen i mewn golwg. Hon. Neu hon falla. Y math o frawddeg fachog, fer sy’n cythru’n uniongyrchol am y darllenydd. Heb ferf ar ei chyfyl weithia. Yn gweiddi. Yn hawlio sylw.

 

Yn baragraff ynddi’i hun.

 

Ymhobman.

 

Does gen i ddim byd yn erbyn yr arddull hwn, a’r math hon o frawddeg. Mi fyddwn i’n tybio ei bod wedi datblygu o dan ddylanwad sawl elfen wahanol a distadl: byd drama, teledu a ffilmiau (a phoblogrwydd cyfansoddi ymsonau, monologau a sgriptiau ar gyrsiau fel TGAU neu Lefel A Cymraeg, er enghraifft), ac yn sicr y cyfryngau cymdeithasol, lle mae dull bachog, sionc o sgrifennu yn gweddu’n arbennig o dda oherwydd yr angen i fod yn gryno. Yn Gymraeg, mae’n siŵr gen i fod dylanwad cyfieitheg hefyd wedi chwarae rhan, a’r cyngor hollbresennol hwnnw: os ydi’r frawddeg yn hir yn Saesneg, torrwch hi’n ddwy yn Gymraeg.

 

Er nad oes gen i ddim yn erbyn arddull o’r fath, roeddwn i wedi dechrau ymboeni braidd ei bod yn dod mor boblogaidd nes dod yn ddull awtomatig, diofyn o gyfansoddi, a ninnau’n anghofio bod gwahanol ffyrdd o fynd o’i chwmpas hi. Roeddwn i eisiau profi, mewn ffordd, fod y Gymraeg yn fwy ystwyth a hyblyg na hynny, ei bod yn gallu cynnal brawddegau amlgymalog, cyhyrog, cymhleth ar brydiau. Roeddwn i’n poeni ein bod yn tueddu i israddio a bychanu’n hiaith ein hunain, mewn rhyw fath ar gymhleth y taeog cystrawennol, drwy’n hargyhoeddi’n hunain bob amser fod y Gymraeg, rywsut, yn llai galluog i ‘gynnal’ neu i ‘gario’ brawddegau hirion neu amlgymalog, gan fod perygl i ni drwy hynny ddechrau credu neu awgrymu na all hi ‘gynnal’ neu ‘gario’ syniadau cymhleth ac amlgymalog chwaith. Yn hytrach na dilyn dylanwad eithaf amlwg Eingl-Americanaidd y math o frawddeg y ceisiais ei hatgynhyrchu uchod, beth pe baem yn trio efelychu brawddegau hirion, trofaus ieithoedd fel yr Almaeneg neu’r Ffrangeg (er nad ydw i, fel cynifer o rai eraill, mae’n siŵr, yn rhugl ond yn y Gymraeg a’r Saesneg)? I mi hefyd roedd rhywbeth atyniadol henffasiwn mewn brawddegau o’r fath, fel pe baem rywsut wedi anghofio sut i’w cyfansoddi, ac arnom angen ailddysgu.

 

Pa fath o elfennau, felly, y bûm i’n eu hystyried wrth gyfansoddi rhyddiaith, ac y credaf y gallai sawl un arall elwa o’u cysidro a meddwl yn helaeth amdanynt, o leiaf? Yn bennaf, roeddwn yn awyddus i arbrofi â brawddegau hirion, amlgymalog, sydd yn gallu cynnal sawl is-gymal ac sy’n ymddangos fel pe baent yn crwydro, ac yn dilyn teithi’r meddwl. Gall brawddegau fel hyn hefyd awgrymu neu ymddangos fel pe baen nhw’n addef nad yw mynegi’r ‘union’ ystyr, yr hyn rydych chi’n gwirioneddol ddymuno’i ddweud, byth yn bosib ac mai dim ond ymgyrraedd tuag at hynny y gallwn ei wneud. Dyma lle mae rhaid i ni gofio mai dyna ogoniant rhyddiaith ar bapur, mewn nofel neu lyfr o straeon. Yn wahanol i ddrama neu gerdd mewn talwrn neu stomp, does dim rhaid i bopeth fod ar gael neu’n ddealladwy ar y darlleniad neu’r gwrandawiad cyntaf. Gall mwy gael ei ddatgelu i’r darllenydd wrth ddod yn ôl at y testun drachefn a thrachefn.

 

Pe bai rhywun yn bod yn dechnegol am y peth, gallem awgrymu bod modd i ni geisio cyfansoddi rhagor o frawddegau hypotactig, yn hytrach na rhai paratactig yn unig. Hynny yw, dylem ysgrifennu brawddegau sydd yn amlhaenog ac amlgymalog, ac sydd yn tadogi rhyw fath o hierarchaeth ar yr amrywiol gymalau hynny – lle defnyddir rhai cymalau sydd yn ddarostyngedig i’r prif gymal, yn hytrach na chymalau sydd yn bodoli ochr yn ochr. Trwy hyn daw ein mynegiant yn rhywbeth amlhaenog y mae modd cloddio iddo, ac sydd efallai yn gallu cario rhagor nag un ystyr. Os derbyniwn bod canfod ‘un’ ystyr pendant, diamwys i unrhyw beth yn amhosibl, yna byddai modd dadlau bod y frawddeg hypotactig, wrth addef ei haenau, yn adlewyrchiad mwy teg o hynny. Ac wrth dreiddio i haenau’r dweud, gallwn hefyd gael ein cludo, neu gwsg-gerdded, o un pwnc neu olygfa neu bennod i’r llall heb sylwi bron.

 

Techneg arall ddifyr yw ‘polysyndeton’, sef y dull o ddefnyddio ac ailadrodd cyfres o gysyllteiriau i ddal y frawddeg at ei gilydd; mae’r cysylltair ‘a’ yn cael ei ddefnyddio’n aml i wneud hyn. Brawddeg fwy paratactig yw hon, felly, ond mae’n ffordd serch hynny o arbrofi â hyd, rhythm, goslef a sain y frawddeg. Mae modd i’r awdur, trwy arbrofi â hyn oll, greu sain ychydig mwy hen ffasiwn ar adegau, neu archwilio’r ffin rhwng rhyddiaith a barddoniaeth. Gall wneud i’w ryddiaith adleisio tinc beiblaidd, neu efelychu arddull y Mabinogi. Dyma dechneg sy’n ymestyn nôl o’r awduron hynny, drwy ysgrifwyr ac awduron rhyddiaith y dadeni, hyd at awduron dechrau’r ugeinfed ganrif, ond sydd rywsut wedi dod yn bur anghyffredin erbyn heddiw. Os dim arall, mae’r cyfan yn gwneud i awdur feddwl rhagor am oslef brawddeg, ei rhythm, ei cherddoriaeth. Gall alluogi ffyrdd o fanteisio ar holl gyfoeth amrywiol cystrawennau’r Gymraeg hefyd, a chwarae â rhai o’r rhain sydd wedi mynd allan o ffasiwn, er mor swynol ac effeithiol y gallan nhw fod – fel y frawddeg annormal (lle daw’r goddrych cyn y ferf, e.e. ‘mi a glywais...’) neu ddefnyddio’r arddodiad ‘o’ i gysylltu’r goddrych â berf neu ferfenw (‘cyn canu o’r ceiliog ddwywaith, gwedi fi deirgwaith’). Os oedd y gystrawen hon yn ddigon da i Saunders Lewis...!

 

Rhai mân bwyntiau posibl eraill i’w hystyried fyddai chwarae â threfn y cymalau, yn enwedig y cymal adferfol. Daw hwn yn aml iawn, yn naturiol, yn union ar ddechrau neu ar ddiwedd brawddeg – ond mae modd iddo ddod ynghanol brawddeg, bron fel sioc. Mae’r Gwyddelod yn dda iawn am wneud hyn. Ond wrth arbrofi â hyn oll, ac wrth amlhau cymalau, mae gofyn gofal mawr ag atalnodi, ac osgoi’r ‘comma splice’ felltith yn enwedig. Os oes dau gymal mewn brawddeg sydd ill dau yn cynnwys berf weithredol, a hwythau’n annibynnol ar ei gilydd a heb gysylltair neu air arall tebyg yn eu cysylltu neu’n dangos y berthynas rhyngddynt, nid yw atalnod (comma) yn ddigon cryf wrth eu gwahanu. Y pryd hwnnw, y mae angen hanner colon o leiaf, neu atalnod llawn hyd yn oed. Dylid dysgu hefyd y gwahaniaeth rhwng rhagenwau ôl-gyfeiriol a blaen-gyfeiriol, a phryd i’w defnyddio. Yn syml, mae’r rhain oll yn bethau y dylai pob awdur wybod sut i’w trin. Nid sôn yr ydw i yma am wallau arwynebol, hawdd eu hunioni, fel camsillafu a chamdreiglo, ond agweddau ar dechneg sy’n treiddio’n ddyfnach i wneuthuriad y frawddeg, i’w chystrawen, i’w meddwl mewn gwirionedd.

 

Pam mae hyn oll yn gymaint consyrn i mi, meddech chi? Yn un peth, fel sydd wedi cael ei awgrymu eisoes uchod, roeddwn i eisiau archwilio ffyrdd o wneud fy mynegiant yn fwy ‘Cymraeg’, boed hynny drwy chwarae â gwahanol gystrawennau a chymalau, a cheisio adleisio’n wan, yn eu sain o leiaf, rai o gampweithiau’n rhyddiaith fel y Mabinogi a’r Beibl; neu’n syml drwy ymestyn a chymhlethu fy mrawddegau er mwyn dangos nad rhaid i’r Gymraeg ddilyn naill ai drywydd ‘torrwch hi’n ddwy’ ein cyfieitheg nac arddull fachog, Eingl-Americanaidd y teledu a’r cyfryngau cymdeithasol bob amser.

 

Ymhellach na hynny, o’m profiadau fel darllenydd yn fwy nag fel awdur efallai, mae wedi dod yn fwy a mwy eglur i mi ei bod yn hollbwysig i unrhyw awdur rhyddiaith feddwl yn ddwys am arddull ei fynegiant, gan ofyn a yw’n addas i’r math o lais, awyrgylch neu gymeriad y dymuna ei gyfleu. Yn rhy aml yn y blynyddoedd diwethaf rwyf wedi darllen nofelau sydd yn hynod fedrus, difyr a dyfeisgar o ran eu strwythur neu eu cymeriadau, ond sydd wedi eu mynegi mewn arddull awtomatig bron. Hynny yw, maen nhw’n dibynnu ar elfennau fel y plot neu’r cymeriadau i yrru’r cyfan yn ei flaen heb feddwl digon am ansawdd neu ymdeimlad yr ysgrifennu ei hun. Cyfrwng yn unig yw’r sgrifennu, modd o symud pethau o A i B, heb fod angen poeni am sut mae rhywbeth yn swnio, pa ystyron a mân wahaniaethau pwyslais a chynildeb mae’n ei gyfleu ar hyd y ffordd, sut fath o awyrgylch mae’n ei greu ym mhen y darllenydd, pa fath o ymateb y mae’n ei ennyn neu’n ei hawlio. Gall y rhyddiaith rhwng y deialogi deimlo fel dim amgen na chyfarwyddiadau llwyfan ar brydiau, fel pe bai i gyd i fod mewn italics neu rhwng cromfachau. Dyna i chi fath o sgrifennu sy’n dweud: peidiwch â sbio arna i, peidiwch ag oedi drosta i, dydw i fy hun ddim yn bwysig… ond mi leiciwn i, dim ond weithiau, pe bai o’n bwysig. Byddaf wrth fy modd yn darllen nofelwyr sydd yn fy nharo ar fy nhalcen â rhyw gymhariaeth neu ddelwedd, neu yn gwneud i mi ofyn sut ar y ddaear mae hi wedi llwyddo i’m cyfareddu efo rhyw frawddeg gordeddus, fel rhywun yn eich arwain trwy ddrysfa. Mewn stwff da iawn, mae’r gwahanol elfennau hyn yn annatod ynghlwm nes na fedrwch mo’u dihatru: y mynegiant a’r ieithwedd ydi’r cymeriad, y strwythur, y plot, y digwydd.

 

Ac yn olaf: yn aml iawn wrth drafod llenyddiaeth, a nofelau’n benodol, mae’n duedd gennym ddyrchafu ‘symlrwydd’, yn adeiladwaith yr iaith ei hun, ac o ran ei theithi, fel y gall y darllenydd tybiedig ei ‘deall’ yn syth. Yn fynych, wrth feddwl am y darllenydd tybiedig, byddwn yn meddwl am ddarllenwyr ifanc neu ddysgwyr, gan resymu mai dyna’r union bobl y mae angen eu denu i ddarllen rhagor yn Gymraeg. Does dim dadl ynghylch hynny, wrth reswm, ond mae perygl ar yr un gwynt i ni drwy hynny anghofio darllenwyr sy’n chwilio am ragor o her a rhywbeth i ymaflyd ag o wrth ddarllen. Yn hynny o beth mae perygl i ni fychanu’n ‘darllenwyr ifanc’ a’n ‘dysgwyr’ hefyd wrth dybio nad ydyn nhwythau’n barod am her! Ond hyd yn oed y tu hwnt i’r darllenwyr tybiedig hyn, yn aml iawn mi glywch chi adolygwyr ar raglenni radio neu deledu yn dweud ‘mae hwn y math o lyfr y bysach chi’n gallu’i ddarllen ar y traeth’, fel pe bai hynny yr unig ffordd o ddarllen llyfr neu hyd yn oed o gloriannu ei werth. Y pwynt ydi bod dirfawr angen llyfrau yn Gymraeg sydd yn hygyrch i ddysgwyr, i ddarllenwyr ifanc, i bobol ar eu gwyliau; mae angen llyfrau ‘Darllenadwy’ sy’n hawdd eu dallt a’u deijestio ar y darlleniad cyntaf. Ond mae angen amgen stwff arnom hefyd, stwff sydd yn hawlio’n sylw a’n myfyrdod, sydd yn ein herio ac yn mynnu ein bod yn ymgiprys â nhw, yn eu darllen a’u hailddarllen nes mynd ohonynt i’n cynhysgaeth. Mi all rhai llyfrau eithriadol wneud y ddau beth ar yr un pryd, wrth reswm – ‘easy reading is damned hard writing’, meddai Nathaniel Hawthorne yn ôl y sôn – ond nid yw hynny’n rheidrwydd.

 

Yn y pen draw, go lwm fyddai arnom pe bai pawb yn sgrifennu yn union fel unrhyw un, wrth gwrs – rhaid wrth amrywiaeth ac ehangder arddulliau os yw llenyddiaeth am ffynnu a disgleirio. Pe bai pob darn o ryddiaith yn dilyn yr holl bethau rydw i’n eu trafod uchod, wel Duw a’n helpo. Ond ar yr un gwynt, mae’n rhaid i ni sylweddoli ac addef ein bod yn byw mewn byd hynod gymhleth ar hyn o bryd, ac mae byd sy’n cynnig heriau cymhleth yn gofyn am ymatebion cymhleth, cywrain, amrywiol, cyhyrog. Yn y bôn, mae’n amhosib gwahanu’r iaith a ddefnyddiwn i’n mynegi’n hunain a’r syniadau sy’n cael eu mynegi drwyddi. Ie, naw wfft i syniadau hen ffasiwn fel ‘cywirdeb’ etc; ond mae’n rhaid i unrhyw artist fod yn feistr ar ei gyfrwng neu o leia’n ymwybodol o’r oll sydd yn bosib drwy’r cyfrwng hwnnw cyn dewis ei gyfryw ddull. Mi wn yn well na neb ei bod hefyd yn hawdd iawn mynd i’r pegwn arall, ac mae arnom ddirfawr angen digon o stwff syml, uniongyrchol, dealladwy yn yr iaith. Ond yn yr un modd da o beth fyddai i ni amrywio ac amrywiaethu ein harddulliau ac arddel, ar brydiau, Gymraeg cyhyrog, amlgymalog, amlhaenog sydd yn alluog o fynegi syniadau, dadleuon a delweddau heriol, cymhleth ac arloesol.

Rhannu ar Facebook
Rhannu ar Twitter
Please reload

Cynnyrch Diweddar
Please reload

Dilynwch Y STAMP
  • Facebook Basic Square
  • Twitter Basic Square

Menter gydweithredol a redir yn wirfoddol yw Cylchgrawn Y Stamp, gyda'r bwriad o gynnig llwyfan i leisiau newydd a sefydledig ym mhob cyfrwng creadigol. Gwasg anibynnol newydd yw Cyhoeddiadau'r Stamp. Rydym yn gwerthfawrogi unrhyw roddion all ein gelpu i gyflawni'r nodau a osodwyd yn ein maniffesto. Os hoffech roi arian tuag at elfen benodol o'n gwaith, nodwch hynny yn eich sylwadau wrth yrru'r rhodd.

© 2019 gan Y STAMP. 

  • w-facebook
  • Twitter Clean