Stori Fer: Y Goeden - Eluned Winney

10.03.2020

ychwanegwyd gan

Maen nhw’n dweud bod ’na goeden yn yr hen goedwig lawr y lôn sydd ddwywaith yn lletach nag unrhyw goeden ’rwyt ti wedi ei gweld erioed. Maen nhw’n dweud ei bod mor hen â’r mynyddoedd.  Mae nhw’n dweud y gelli di gyrraedd Gwlad y Tylwyth Teg wrth ddilyn llwybr ar hyd ei gwreiddiau, bod hen ddewin yn byw yn ei boncyff, a bod ei changhennau’n cyrraedd hyd at y cymylau. 

 

Maen nhw’n dweud llawer o bethau. Wrth, gwrs mae’r rhan fwyaf o beth glywi di’n sothach llwyr, yn ddim byd ond straeon i ddiddanu plant bach.  Ond weithiau mae ’na elfen o wir yn y straeon.  Dim ond weithiau. Dim ond smotyn bach o wirionedd. Dim ond trwy ddamwain. 

 

Achos y gwir yw bod yna goeden yn y goedwig sydd yn hŷn na’r gweddill i gyd. Coeden hudol, swynol, sy’n sibrwd cyfrinachau ac addewidion. A dwi’n gwybod shwt mae’i chyrraedd.

 

Hoffet ti i fi fynd â ti yna i’w gweld? Alla i ddangos y ffordd i ti, os wyt ti eisiau.  Dyw e ddim yn bell o gwbl, dim os wyt ti’n gwybod pa lwybr i’w gymryd. Meddylia am yr hanes bydd gyda ti i’w ddweud wrth dy deulu a dy ffrindiau pan ddoi di nôl, am shwt ddest ti o hyd i’r Hen Goeden a beth welest ti yna.

 

Wnân nhw byth dy gredu di, bydd y stori mor fawr a mor wyllt. Ond bydd dim ots, achos honno fydd y chwedl orau gei di ei hadrodd byth.  Bydd pawb wrth eu boddau yn ei chlywed, yn swrth o dan ei swyn, bron cymaint ag y byddi di’n mwynhau ei hadrodd. 

 

Ond, os ddwedwn ni’r gwir wrth ein gilydd, baset ti ddim ishe iddyn nhw dy gredu di, ta beth. Basen nhw ishe gweld y goeden hefyd tasen nhw’n dy gredu, ac ishe i ti ddangos y ffordd iddynt. Cyn bo hir iawn base pawb yn gwybod shwt i’w ffeindio, ac nid dy gyfrinach di, ein cyfrinach ni, fasai hi wedyn.

 

Alla i fynd â ti yna i’w gweld, os wyt ti moyn. Gallwn ni fynd nawr a dod nôl erbyn amser te. Brwyn yw’n enw i - dwi’n byw yn y goedwig, reit ar bwys y goeden, dyna shwt ’wy’n gallu ffeindio’n ffordd ‘na.  Beth yw d’enw di? 

 

Co’ ni, t’el, ry’n ni’n ffrindiau nawr.  Ry’n ni’n nabod ein gilydd. ’Sdim rheswm i ti beidio dod i fforio ’da fi nawr, wês e. 

 

Na, na, wrth gwrs bod rhaid i ti fynd i ddweud wrth dy fam ble ti’n mynd. Arhosa i amdanat ti fan hyn, am gymaint ag y galla i ta beth. ’Wi ffaelu aros yn hir, felly gwell i ti hastu. 

 

Na, ma’ arna i ofn sai’n gallu aros yn hir, rhaid i fi fynd ’nôl, maen nhw’n ’y nisgwyl i adre. ’Da fi dasgau i’w gwneud rownd yr aelwyd.

 

Ddoi di? Ti'n siŵr so ti moyn dweud wrth dy fam? Arhosa i fan hyn amdanat ti gymaint ag y galla i.   

 

Gwych! Gwell i ni frysio de, er mwyn i ti ddod 'nôl cyn iddyn nhw weld dy ishe.  Dere ’da fi. So fe’n bell o gwbl. Dere ’da fi mewn i’r goedwig co’ - ’drycha, ddilynwn ni’r hen lwybr, yr un sy’n fforchio i’r dde wrth droad cyntaf y llwybr newydd.

 

’Drycha, dy’n ni’n gadael y llwybr fan hyn. Wyt ti’n gallu gweld y ffordd? Rhaid i ti edrych amdano’n ofalus, cwningod sydd wedi ei ddamsgen, yn rhedeg trwy’r drysni.  Ti’n gallu ei weld? Gwych.  Dilyna’r llwybr co’, ’de.  Yn syth ymlaen. 'Wi ’ma, y tu cefn i ti. Reit fan hyn.

 

Mae’r drain wedi cuddio’r ffordd yma, ond paid â phoeni, mae e yma o hyd. Edrycha lawr. Elli di weld twnnel bach tywyll yn arwain i mewn i’r llwyn? Lawr fan ’na, wrth dy draed? Ie, dyna ti. Cropia mewn i’r twnnel bach yna - paid â becso, mae llawer yn fwy y tu fewn na mae’n edrych, ac os wyt ti’n ofalus wnei di braidd fachu dy got ar y drain o gwbl.

 

’Na ti, te’l. Wedes i, ond do fe. Anhygoel, ond yw e! Mae hwn yn rhan o’r hud sy’n tarddu o’r goeden. Y lanterni yna lan yn y nenfwd co' sy’n goleuo’r lle. Dwyt ti braidd yn gallu gweld bod y waliau yn y pellter draw wedi eu gwneud o frigau a drain, maen nhw’n edrych mor llyfn a chadarn. Dy’n ni’n cynnal dawnsfeydd a thwmpathau yma weithiau, pan dy’n ni’n dathlu’r heuldro a diwrnodau arbennig arall. Ni? Fy nheulu a’n ffrindiau, pawb o’r gymuned. Gei di gwrdd â nhw heno, os wyt ti eisiau.

 

Edrycha nawr, draw fanco. Weli di’r drws ‘na? Cer i’w wthio ar agor, ac fe fyddwn ni yn ôl yn y goedwig eto.

 

Ie, yr un lle yw hwn. Wel, yr un lle, ond yn wahanol. Dychmyga ein bod ni wedi cymryd cam i’r wysg. Dyna ble mae Gwlad y Tylwyth Teg, dim ond hanner cam yn ôl i’r ochr o dy fyd di.

 

Paid ti â phoeni. Mae’r ffordd adre yn syth trwy’r drysau ’co. Fe fyddi di adre o fewn deg munud pryd bynnag ti moyn. Wyt ti ishe mynd adre nawr? ’Sdim ots ‘da fi os wyt ti, dwi’n deall yn iawn fod mamau’n gallu becso a phoeni, a bydd croeso i ti ddod yn ôl eto, os rwyt ti’n meddwl y gelli di gofio’r ffordd.

 

Na? Gwych, ro’n i’n gobeithio byddet ti ishe aros yma tamed bach yn hirach. Tyrd, dere ’da fi. Dal fy llaw a gad i fi ddangos y goeden i ti. Mae’n hen. Hen iawn. O hon mae’n hud ni i gyd yn dod.

 

Ie, Tylwythen ydw i. Wnes i ddweud wrthot ti, wi’n siŵr. Na, na, paid ag ofni. Dwi heb dy gipio i ffwrdd, nagw i?  Dim ond hen straeon plant yw’r straeon yna. Dy’n ni ddim yn dwyn plant i ffwrdd. ’Drycha - mae’r ffordd gartre o hyd yna i ti, i’w gymryd pryd bynnag ti ishe. Edrycha dros d’ysgwydd, weli di’r drws? Dyw e byth yng nghlo.  Dwyt ti ddim wedi cael dy faglu, cei di fynd a dod fel y mynni, nawr dy fod yn gwybod y ffordd. A dychmyga’r straeon bydd gyda ti i’w rhannu pan ei di adre, ond chredan nhw byth mohono ti.

 

Dyma’r goeden. Dwi’n gwybod, wedes i bod hi’n fawr ond do fe. Mae’n ein cynnal ni i gyd, y goeden hon. Wyt ti’n gallu teimlo’r gwres yn codi trwyddi ac yn ymestyn ohoni? Na alli? O, dyna ryfedd. Rhyfedd iawn dy fod di’n ei chael hi’n oer ac yn bigog yma - mae’n gynnes ac yn felys yma i fi. Efallai achos ’mod i’n un o’r Tylwyth, a dy fod di’n un o’r Bobl.

 

Tyrd, dere i gyffwrdd y goeden. Dere i deimlo’i rhisgl, i’w hanwylo, i faldodi ei chroen esmwyth, cynnes, ymgeleddgar. Paid â phoeni, paid â bod ofn. Na, sai’n gwybod pam mae’n dy wneud di’n nerfus, ond sdim angen bod. Edrycha sut dwi’n ei mwytho hi fan hyn.  Estyn dy law fa’ma i deimlo’i chynhesrwydd gyda fi.

 

Neu fasai’n well gyda ti os â i a ti adre?

 

Dyna ni, anwesa hi fan na. Edrycha shwt mae’n ymateb i dy gyffyrddiad. Edrycha shwt mae trio dy gofleidio di’n ôl. Paid â becso, mae’n dy fynwesu di’n ôl, dyna i gyd. Drych’ shwt mae’i phlisgyn yn estyn yn dyner ar draws croen dy law. Mae’r rhisgl sy’n tyner lithro ar draws dy gnawd ac yn dy gofleidio, yn dy dynnu i mewn at ei chanol, yn fynegiant o’i serch, ei chariad, a’i diolchgarwch.

 

Wyt ti’n teimlo’n un â’r goeden nawr? Nawr ei bod hi wedi dy dderbyn a dy gymryd i’w bron? Rwyt ti wedi ei hadnewyddu gyda dy nerth, dy egni, dy anadl, dy waed, dy fywyd. Ac mae hithau wedi tyfu, yn dalach ac yn lletach. A gall ein hadfywio ninnau i gyd gyda’i hud swynus, serchus unwaith eto.

 

Ac fe gei di dy garu. Ac fe gei di dy ddiolch. Ac fe gei di dy gofio. Gan y goeden a’r goedwig a gan y Tylwyth a ddaw heno i dy ddathlu. Y Tylwyth a ddaw i ddawnsio ac i adfywio ac i blygu wrth dy draed mewn diolch am dy rodd, dy haelioni, dy garedigrwydd a’th gariad.  

 

Diolchwn i ti heno, ac am byth. Yn dragwyddol.

 

-----

 

Llun: Mark van Veen, https://creativecommons.org/licenses/by-nc-sa/2.0/legalcode

Rhannu ar Facebook
Rhannu ar Twitter
Please reload

Cynnyrch Diweddar
Please reload

Dilynwch Y STAMP
  • Facebook Basic Square
  • Twitter Basic Square

Menter gydweithredol a redir yn wirfoddol yw Cylchgrawn Y Stamp, gyda'r bwriad o gynnig llwyfan i leisiau newydd a sefydledig ym mhob cyfrwng creadigol. Gwasg anibynnol newydd yw Cyhoeddiadau'r Stamp. Rydym yn gwerthfawrogi unrhyw roddion all ein gelpu i gyflawni'r nodau a osodwyd yn ein maniffesto. Os hoffech roi arian tuag at elfen benodol o'n gwaith, nodwch hynny yn eich sylwadau wrth yrru'r rhodd.

© 2019 gan Y STAMP. 

  • w-facebook
  • Twitter Clean