Rhestr Ddarllen: Bwyd - Lowri Haf Cooke

14.04.2020

ychwanegwyd gan

Lowri Haf Cooke yw golygydd cylchgrawn Taste Blas, ac awdur Bwytai Cymru, Caffis Cymru a Canllaw Bach Caerdydd. Mae hi'n blogio ei ryseitiau i leddfu'r gofid ar ei blog, Merch y Ddinas (www.lowrihafcooke.wordpress.com), ac yn feirniad bwytai i bapur bro Y Dinesydd. Gofynnodd Y Stamp iddi am fwydlen o seigiau llyfryddol i gyd-fynd â'n mis o gyfraniadau ar thema bwyd. Dyma'i hawgrymiadau ...

 

1. The Physiology of Taste or Meditations on Transcendental Gastronomy - Jean Anthelme Brillat-Savarin, 1825 (Cyfieithiad M. F. K. Fisher, 1949)

 

Os ydych chi’n caru caws, byddwch yn gyfarwydd â Brillat-Savarin – caws anfoesol o hufennog  (mae 75% ohono’n fraster), sy’n gweddu i’r dim â chwrw golau neu Champagne. Cafodd ei enwi ar ôl nawddsant bolgwn, sef Jean Anthelme Brillat-Savarin (1755-1826) – ‘athronydd yr archwaeth’ a ‘guru gastronomaidd’ cynta’r byd. Wedi gyrfa fel barnwr, cyfreithiwr a maer tref, daeth yr hen lanc o Dde-Ddwyrain Ffrainc â thri degawd o’i nodiadau ynghyd. A sôn am drysorfa o fyfyrdodau hynod flaengar am fwyd– o wyddoniaeth ‘blas’ a’r synhwyrau, y system dreulio ac ymprydio, effaith bwyd ar freuddwydion a chynghorion deiet (roedd yn ladmerydd cynnar dros y mudiad ‘low-carb’). Cofnodwyd y cyfan yn ystod (ac yn sgil) y Chwyldro Ffrengig, ac ar ddechrau oes y ‘bwyty’ a siwgwr fel cynhwysyn. Yng nghyfieithiad M. F. K. Fisher sawrwn afiaith Brillat-Savarin at fwyd, gan wirioni ar ei adlewyrchiadau difyr. Yn eu plith, ‘Does gan y rhai sy’n meddwi a stwffio ddim syniad sut i yfed a bwyta’, a’r clasur, ‘you are what you eat’.

 

 

2. The Gastronomical Me - M. F. K. Fisher, 1943

 

Ble mae dechrau gyda M. F. K. Fisher (1908-1992) – ‘bardd bwyd’  yr Unol Daleithiau, chwedl John Updike. A sôn am fardd, dyma farn W. H. Auden; ‘ I do not know of anyone in the United States who writes better prose.’  Ac yng nghynhadledd ‘A Feast For Your Eyes’ y mynychais yn San Francisco yn 2014, fe’i disgrifiwyd gan y darlithydd Jeanette Ferrary o Brifysgol Stanford fel ‘Her Royal Amazingness, MFK Fisher’. Dyma ddynes unigryw wnaeth ei gyrfa fel sgwenwraig bwyd ar hyd yr Ugeinfed Ganrif. Mewn maes mor wrywaidd roedd ganddi ‘lais’ sgrifennu cryf, ac mae ei rhyddiaith goeth yn dal i ennyn edmygedd ac eiddigedd. Arweiniodd drafodaeth frwd am ei bywyd a’i gwaith at gwestiwn pur anochel; a ddylai awdures fel Mary Frances Kennedy Fisher gael ei hystyried mewn cyd-destun llenyddol, neu gastronomaidd yn unig – beth, yn ei hanfod, yw’r gwahaniaeth rhwng sgrifennu a sgrifennu bwyd? Does dim gwahaniaeth, oedd ateb di-gyfaddawd Anne Zimmerman, awdur An Extravagant Hunger: The Passionate Years of M.F.K. Fisher, hefyd o Brifysgol Stanford;  yn syml, meddai, ‘A good writer is a good writer.’ Ei chyngor i unrhyw un sydd erioed wedi clywed amdani o’r blaen fyddai darllen The Gastronomical Me‘You go home, you get a glass of wine and you engage with the book.’. Mae hi’n bendant yn un o’m hoff awduron i, wrth iddi grisialu grym bwyd yn ei geiriau gwych. Cyhoeddodd How To Cook A Wolf (1942) yn ystod cyfnod dogni yr Ail Ryfel Byd, ac mae An Alphabet For Gourmets (1954) yn cychwyn â’r ysgrif ysgubol ‘A is for dining Alone’. Fe ddywedodd MFK unwaith, ‘Since we must eat to live, let’s do this intelligently and thoughtfully’ . Ac fe gyfeiriodd at bobi bara mewn termau Bwdistiaeth Zen; ‘No chapel or yoga class will leave you feeling so at peace’.

 

 

3. Kitchen Confidential: Adventures in the Culinary Underbelly - Anthony Bourdain, 2000

 

Chewch chi ddim galw eich hun yn foodie nes y byddwch wedi darllen y gyfrol hon, sy’n gofiant chwyldroadol o fyd y gegin yn Efrog Newydd. Yn dilyn cyhoeddiad Kitchen Confidential (a White Heat gan Marco Pierre White) disgrifiwyd maes coginio fel ‘The New Rock ’n Roll’, a bu hunan-laddiad trasig y cogydd-awdur-gyflwynydd teledu yn 2018 yn achos o sioc, a galar mawr. Mae arddull sgwennu ‘hard-boiled’ Bourdain yn gwbl drydanol – does dim rhyfedd iddo fentro i faes llên ffuglen ditectif yn ogystal. Mae’r llyfr yn folawd i frawdoliaeth, a chymdeithas gudd, y gegin broffesiynol, a daniwyd (yn ôl Bourdain, ta beth) gan gyffuriau, cyn-garcharorion a mewnfudwyr Lladin-Americanaidd. Mae’r cofiant yn llawn clecs, cynghorion byd bwytai a golygfeydd eithafol. Ond wrth hel atgofion bwyd, mae Bourdain yn esgyn i’r uchelfannau ac yn sgwennu megis angel. Bu’n bleser cwrdd ag ef yn dilyn darlleniad yn Los Angeles yn 2014 – wrth glywed mod i o Gymru, roedd e’n llawn brwdfrydedd dros Ŵyl Fwyd Y Fenni. Mae’n dweud y cyfan am ei apêl eang mai’r boi o ’mlaen i yn y ciw oedd seren byd pornograffi, Ron Jeremy, oedd yr un mor awyddus a minnau i dalu teyrnged i’w arwr. Dwi dal yn ffrindiau gyda’r pâr oedd y tu ol i mi yn y ciw – yn hwyrach, fe aethant â mi i siop ‘medicinal marijuana’, yn goron ar noson gofiadwy yn Hollywood.

 

 

4. Heartburn - Nora Ephron, 1982

 

Nofel eithriadol o ddylanwadol, flynyddoedd cyn y bathwyd yr erthyl-derm nawddoglyd ‘chick-lit’. Newyddiadurwraig a thraethodydd yn Efrog Newydd oedd Nora Ephron cyn troi’n sgriptwraig ffilm a chyfarwyddwraig adnabyddus (When Harry Met Sally, Sleepless in Seattle, You’ve Got Mail, ac ati), ac mae ei nofel gyntaf yn gorwynt o ysgrif sgyrsiog, llif-yr-ymennydd. Mae’n dilyn hanes Rachel Samstat, awdur llyfrau coginio, sy’n darganfod bod ei gŵr yn cael affêr, a hithau 7 mis yn feichiog. Mae’n stori sy’n rannol seiliedig ar hanes yr awdures ei hun, oedd yn briod â newyddiadurwr Watergate, Carl Bernstein, cyn cyhoeddi’r nofel. Wrth i’w bywyd chwalu’n deilchion, caiff Rachel gysur yn ei ryseitiau, hel clecs a’i hagwedd hi (ac eraill) at fwyd, sydd – fel y deallwn – yn dweud cyfrolau am bob unigolyn. Cawn ninnau rannu yng nghysur ei hoff ryseitiau hi (gan gynnwys ei vinaigrette, almwnds wedi’u tostio ei mam, a’r Key Lime Pie tyngedfennol), ynghyd â’i sgwennu, sy’n llawn pathos a direidi.

 

 

5. High Bonnet - Idwal Jones, 1945

 

Glywsoch chi erioed am Idwal Jones, y Cymro a greodd enw iddo’i hun fel awdur yng Nghaliffornia? Ces i’m hudo cymaint gan ei hanes nes i mi groesi’r Iwerydd fy hun, i agor ei archifau ym Mhrifysgolion y dalaith ac i ddilyn ôl ei draed. Enillodd Idwal wobr lenyddol Newbery am Whistler’s Van (1936), a leolwyd yn rhannol yn Llan Ffestiniog. Ac yn 1945, cyhoeddodd yr awdur – oedd hefyd yn gogydd Cordon Bleu – ei gampwaith High Bonnet. Os gwnaethoch chi fwynhau chi’r ffilm Disney Pixar Ratatouille, yna byddwch chi wrth eich bodd gyda’r nofel hon. Dilynwn ras wyllt trwy yrfa’r cogydd ifanc Jean-Marie Gallois (‘Y Cymro’) , o’i brofiad cyntaf yn hudo iarlles oedrannus gyda’i saws gŵydd rhost yn Provence, i’w gamp wrth gipio’r anrhydedd fwyaf bosib i bob top chef, sef ‘High Bonnet’ y teitl. Yn ogystal â chynnig antur bicaresg lawn cymeriadau gwych a straeon gwallgof am is-ddiwylliant ceginau Paris, ceir pwyslais ar bleser, a’r berthynas rhwng bywyd a bwyd, a grym aruthrol gastronomeg i agor llifddorau ein hatgofion. Mewn cyflwyniad i argraffiad newydd o’r nofel yn 2001, cyfaddefodd y diweddar seren-gogydd Anthony Bourdain iddo gael ei syfrdanu, yn ogystal â theimlo cenfigen pur, gan mor agos ati, a ‘bron yn bornograffaidd’ oedd disgrifiadau’r awdur o fwyd a choginio. A phan lwyddodd y bad-boy chef o Efrog Newydd i ganfod bywgraffiad byr i Idwal Jones, fe ddisgrifiodd o’r Cymro fel ‘one fascinating dude’.

 

 

6. The Vineyard - Idwal Jones (1942)

 

Nofel hyfryd arall gan Idwal Jones, y tro hwn wedi’i gosod yn nes at adre iddo, yng ngogledd Califfornia. Mae’n dilyn hanes gwinllan teulu Regola, a’u brwydr i oroesi yn wyneb gwaharddiad ar alcohol yn 1920. Yn un o olygfeydd y nofel hon, datgela’r awdur ei wreiddiau Cymreig; mewn parti blasu i benteuluoedd holl winllannoedd Dyffryn Napa, cyniga un westai lwncdestun cyn canmol safon sieri’r Regola: ‘Gwin o aur!’, said Mr Bioletti, relapsing into his mother tongue. He was really Welsh. ‘Wine from gold! How pagan!’ Dotiodd yr awdures Gertrude Atherton at The Vineyard, gan ei disgrifio fel ‘the classic story of the grape industry in Northern California’. Roedd hi felly’n gegrwth pan gyfaddefodd Idwal Jones wrthi mai dim ond un diwrnod yr oedd wedi’i dreulio erioed yn Nyffryn Napa; roedd y darlun o’r dyffryn hardd mor gyflawn a manwl, meddai Atherton, â phe bai’r awdur wedi treulio’i holl fywyd yno. A dyma farn yr awdures ddylanwadol MFK Fisher - un o brif gefnogwyr Idwal - am y llyfr; ‘Not until now has any book captured the tang of the rain-blown eucalyptus, the curve of the tawny hills, the furiously salty smell of the bay marshes, as honestly as does The Vineyard. It is in a completely simple and real way a love song, and it is as heartening as a wine to read.’

 

 

7. Garlic and Sapphires: The Secret Life of a Critic in Disguise - Ruth Reichl, 2005

 

Mae bywyd beirniad bwytai yn hollol swreal ar brydiau – mi wn i hynny, gan mai dyna ydy’n swydd i ers bron i ddegawd! Ond es i erioed i’r un eithafion â grande dame y maes, Ruth Reichl, cyn-feirniad bwytai papur newydd The New York Times. Dyma’r rôl fwyaf dylanwadol ym maes cogyddol yr Unol Daleithiau, ac ateb yr awdures i’r pwysau eithriadol ac i gynnal ei phreifatrwydd oedd mynd dan gochl, a chwarae cyfres o gymeriadau gwahanol (‘Chloe’, ‘Brenda’ a ‘Betty’ yn eu plith). Dwi’n siŵr y byddai nifer yn dadlau, pam na all pawb wneud yr un fath, er mwyn cyhoeddi adolygiadau didwyll a hollol deg. Fy ateb i yw nad oes gan neb arall yn y byd yr un gyllideb â’r NY Times, sy’n talu’r beirniad i fynychu bwyty bedair gwaith cyn cyhoeddi un erthygl wythnosol! Mae’r gyfrol yn gofnod o gyfnod rhyfeddol – mae’n andros o ddirdynnol mewn mannau, a hynod ddadlennol. Dyma’r arwres, yn ogystal, a ddefnyddiodd ei dylanwad i ail-gyhoeddi nofel High-Bonnet gan Idwal Jones. Dilynwch yr awdures – a chyn-olygydd y cylchgrawn bwyd Gourmet - ar Twitter i ddilyn ei chofnodion bwyd cynnil, sy’n taro’r galon fel chwip o englyn neu haiku.

 

 

8. Like Water For Chocolate - Laura Esquivel, 1993

 

Un o’r nofelau mwyaf synhwyrus a sgwennwyd erioed, a arhosodd ar frig y siartiau llyfrau ym Mecsico am bron i ddwy flynedd. Mae cyfrol realaeth hudol Laura Esquivel yn dathlu’r berthynas rhwng bwyd a nwyd, trwy lygaid teulu ecsentrig Tita De La Garza. Ganed Tita, y chwaer ieuengaf o dair, yng nghegin y cartref, a’i thynged yw gofalu am ei mam. Ond, â hithau’n meddu ar y ‘chweched synnwyr’, mae rhyw hud yn perthyn iddi hi - a’i choginio arallfydol. Pan syrthia Tita yn glep am Pedro, does ganddo ddim dewis ond priodi ei chwaer hi; mae golygfa’r wledd briodas yn un bwerus tu hwnt, wrth i bawb gael eu heintio â thorcalon. Cyflwynir pob pennod â rysáit i godi chwant, a ymgorfforir yn naturiol yn y stori. Mae’n nofel fendigedig, a chwbl ysbrydoledig – ond rwy’n eich rhybuddio nawr, ar ôl cau ei chlawr, bydd rhaid gorwedd mewn stafell dywyll i ddadebru! 

 

 

9. Blasu - Manon Steffan Ros, 2012

 

Os mai cyfrol i’ch cynhyrfu’n llwyr yw Like Water For Chocolate, yna mae Blasu yn nofel i’ch cyffwrdd i’r byw. Tra fod nofel Laura Esquivel yn cychwyn â chymeriad yn beichio crio, mae pob pennod o saga Blasu yn esgor ar Niagra o ddagrau’r darllenydd, mor bwerus o chwerwfelys yw hi. I bawb wnaeth wirioni ar Llyfr Glas Nebo, rhowch dro ar gyfrol gynharach Manon Steffan Ros – enillydd Gwobr Ffuglen cystadleuaeth Llyfr y Flwyddyn 2013. Mae’r awdures yn ein cofleidio i’w chornel hi o’r byd, ac ar un wedd, mae Blasu yn deyrnged hudolus i Fro Dysynni yng Nghanolbarth Cymru. Ond mae hefyd yn bortread cyfoethog o ferch o’r enw Pegi, trwy gyfrwng geiriau trigolion y fro, eu hamryw gysylltiadau â hi, a’u ryseitiau lu. Mae bwyd yn hollbresennol, yn hanfod llesol, ac arf niweidiol – yn arwydd o haelioni, ond hefyd o newynu, ac absenoldeb blas byw. Mae addfwynder yr awdures i’w deimlo ar bob dudalen, ynghyd â’i chariad – a’i chydymdeimlad – at bob cymeriad. Wrth galon y stori mae rysáit cacen sinsir; es ati i’w phobi - a’i rhannu, fel cymeriad Mai Davies – gan ddwysau’r pleser o sawru nofel o fri.

 

 

10. Bwytai Cymru - Lowri Haf Cooke, 2018

 

Mae’r gyfrol hon yn gofnod o gyfnod pan fu bwytai yn atyniadau – yn fydoedd o bleser dros-dro, a dathliadau di-ri. Es i ati, wrth gasglu hanner cant o fwytai gorau Cymru, i rannu straeon cogyddion a pherchnogion, o’r methiannau i’r uchelfannau, wrth frwydro’n barhaol i wireddu eu breuddwydion lu. Ar hyd fy mhererindod, arsylwais geginnau’n diferu o chwys oedd yn dyst i lafur cariad, tantryms, tor-calon ac alcemi pur. Darganfuais gainc colledig o’r Mabinogion yng Ngwenffrwd, Sir Fynwy, a’r greal sanctaidd yn Ynyshir. Blasais Gymru - dir a môr – gan gwrdd ag arwyr ac arwresau, a rannodd eu cyfrinachau niferus â mi. Yn eu plith, awgrymodd rhai bod ‘gwallgofrwydd’ yn gynhwysyn anhepgor i ddilyn gyrfa – neu ‘alwedigaeth’ – ym myd bwytai Cymru. Rwy’n cydymdeimlo’n ddirfawr a’r holl gymeriadau brith mewn cyfnod digynsail yn ein hanes ni. Be nesa i fwytai Cymru? Amser a ddengys, a dweud y gwir. Yn y cyfamser, sawrwch y wledd a fu.

 

Rhannu ar Facebook
Rhannu ar Twitter
Please reload

Cynnyrch Diweddar
Please reload

Dilynwch Y STAMP
  • Facebook Basic Square
  • Twitter Basic Square

Menter gydweithredol a redir yn wirfoddol yw Cylchgrawn Y Stamp, gyda'r bwriad o gynnig llwyfan i leisiau newydd a sefydledig ym mhob cyfrwng creadigol. Gwasg anibynnol newydd yw Cyhoeddiadau'r Stamp. Rydym yn gwerthfawrogi unrhyw roddion all ein gelpu i gyflawni'r nodau a osodwyd yn ein maniffesto. Os hoffech roi arian tuag at elfen benodol o'n gwaith, nodwch hynny yn eich sylwadau wrth yrru'r rhodd.

© 2019 gan Y STAMP. 

  • w-facebook
  • Twitter Clean