Profiadau: Cusan trwy hances - Menna Elfyn

30.06.2020

ychwanegwyd gan

Llun: Menna Elfyn yn darllen ei gwaith ar dram yn Hong Kong, 2013

 

Mae’n anodd cofio sut yn union y dechreuodd fy myd o ddarllen barddoniaeth a chyfieithu fy ngwaith ond cofiaf gael fy ngwahodd i ddarllen yng Ngŵyl y Gelli, yr ail flwyddyn o’i bodolaeth yn 1989. Roeddwn i fod darllen gyda Rhydwen Williams ond oherwydd ei  salwch, cefais fy hun, ar fy mhen fy hun yn darllen yn Gymraeg i stafell orlawn o bobl ddi-Gymraeg. Cyn darllen y cerddi, cyflwynais hwy yn Saesneg. Wedi’r flwyddyn honno, bûm yn westai cyson i’r Ŵyl, fel darllenydd, neu gadeirydd i amryw sesiynau gan sylweddoli bod mwy i’w wneud yn y maes hwn os oeddwn i gyflwyno barddoniaeth Gymraeg i gynulleidfa amlieithog. Derbyniais yr her fel bardd, benyw a Chymraes a oedd am rannu ei gweledigaeth gydag eraill a’r rheiny oedd heb fod yn Gymry Cymraeg. Yn ffodus ac annisgwyl i mi, penderfynodd yr annwyl ddiweddar Tony Conran gyfieithu rhai o’m cerddi a throdd yr ohebiaeth drwy’r post rhyngom yn gyfrol ddwyieithog – Eucalyptus, trwy wasg Gomer. Tua’r un pryd, daeth y diweddar Athro Joseph Clancy i’r adwy gan drosi cerddi eraill. Gyda’r ddau a osododd cyfieithu barddoniaeth Gymraeg gyfoes a chlasurol ar dir solet a safonol, roeddwn wrth fy modd. Tua’r un pryd mynnodd ffrindiau eraill gyfieithu fy ngwaith, a hynny wedi imi ddarllen gyda hwy mewn digwyddiadau cymdeithasol a gwleidyddol. Mi wnes innau dalu’r gymwynas yn ôl fel yn achos Gillian Clarke, un y bûm yn rhannu Cymrodoriaeth Ysgrifennu â hi yng Ngholeg Llambed yn yr wythdegau gan gyfieithu ei cherddi fel Bardd Cenedlaethol. Troswyd cerddi gan y diweddar Nigel Jenkins, fy nghyfaill agos a’m cyd-Gyfarwyddwr  ar y cwrs MA Ysgrifennu Creadigol  yng Ngholeg Prifysgol Cymru y Drindod Dewi Sant, a throsais innau ei gerddi ef. Bu fy nghyfaill mynwesol, y bardd dihafal Elin ap Hywel, yn cyfieithu fy ngwaith yn gyson o’r wythdegau cynnar hyd at y gyfrol Bondo yn 2017. Yn ddiweddar, bu Robert Minhinnick, cyfaill arall, yn cyfieithu rhai cerddi pan ddeuai’r galw amdanynt.

 

Mae enwi’r rhai a fu’n ymhél â’m gwaith yn hynod bwysig wrth egluro sut y trodd fy ngwaith fel bardd unigolyddol Cymraeg i fod ag iddi ddwy wedd. Mater o raid oedd cyfieithu yn sgil y gwahoddiadau ac roedd yr hinsawdd yn un o chwilfrydedd ynghylch barddoniaeth Gymraeg. Cofiaf ddarllen i gynhadledd flynyddol CND yn Hackney yn yr wythdegau, eto, yn uniaith Gymraeg er cyfathrebu yn Saesneg, ac yna wynebu neuadd orlawn o lowyr ar streic bryd arall yn Cross Hands; heb anghofio’r protestiadau gwrth-apartheid dirifedi. Darllen hefyd mewn digwyddiad heddwch un prynhawn Sadwrn yn Sir Benfro cyn torri’r ffens ym Mreudeth a chael fy arestio. Hyn oll, gan fardd â’i hunig uchelgais oedd cael bod yn feudwy, yn ail fyw ‘Walden’ yn rhywle, o ‘drybestod dyn a byd’!

 

Hwyrach y bydd hyn yn egluro’r llafur cariad a amlygwyd tuag at farddoniaeth Gymraeg gan gyfieithwyr  mewn cyfnod cyn i’r un Gyfnewidfa Lên na phrosiect trawsffiniol fodoli. Roedd fy nghyd-gynllwynwyr awenyddol am sicrhau, fel minnau, statws i farddoniaeth Gymraeg ar lwyfan cydnabyddedig, cyhoeddus a chenedlaethol a’r cyfieithiadau bob amser yn ail-iaith megis. Beirdd o gyfieithwyr twymgalon oedd y rhain a gredent eu bod hi’n bwysig asio’r ddwy iaith tu hwnt i ffiniau gwladol.

 

O fynd ar hyd y llwybr rhyfedd hwn, rhaid felly oedd diwallu awydd cynulleidfaoedd a darllenwyr i brynu  llyfrau yn y ddwy iaith a’u gwerthu mewn gwyliau neu breswylfeydd fel a ddigwyddodd gyda darlleniadau o’r Iseldiroedd i Hong Kong. O’r cychwyn, mynnwn eu bod yn gorfod ‘gweld’ yr iaith Gymraeg hyd yn oed os oedd y Saesneg wrth ei hochr.  Dyna sut y daeth Eucalyptus (1995) i fod a Bloodaxe wedyn yn awyddus i fy nghynnwys ar ei rhestr o awduron gyda Cell Angel yn ymddangos flwyddyn yn ddiweddarach yn 1996. Yn rhyfedd iawn, cyhoeddwyd Murmur / Murmuri yn Gymraeg / Catalaneg y llynedd gan yr un bardd-gyfieithydd, Silvia Aymerich, a’m clywodd yn Barcelona yn yr wythdegau. Onid fel hyn y dylai barddoniaeth gael ei chario ar don o gyd-ddeall a chyd-ddyheu? Po fwyaf y caiff bardd ei ch/gyfieithu, mwyaf yn y byd y daw’r galw i ddarllen mewn mannau pellennig.

 

A daw ambell wobr annisgwyl hefyd. Dyna ichi’r cyfieithydd Sonata Paliulyte, o Lithwania, yn ennill gwobr am y gyfrol orau mewn cyfieithiad yn Lithwania yn 2005, sef fy nghyfrol Vualiuotos Bucinys (Cusan Dyn Dall, Bloodaxe 2001). Neu’r gyfrol Perffaith Nam / Perfect Blemish  (Bloodaxe 2007) a enillodd wobr  Ryngwladol Ewropeaidd  Anima Istanza yn Olbia, Sardinia yn 2009 am Autobiografia in Versi, a’i henwebu am Wobr Evelyn Encelot ,gwobr flaenllaw i Feirdd Benywaidd yn Ewrop. Bydd cyfrol arall mewn cyfieithiad Eidaleg yn ymddangos ddiwedd y flwyddyn hon a’r daith yn ôl i Sardinia unwaith eto (y bedwaredd) yn debygol o ddigwydd yn awr ar Zoom. Hwre! Hon fydd y drydedd gyfrol mewn Eidaleg o’m llyfrau, gyda Bondo i ymddangos eto yn Sbaeneg yn 2020 o’r un Wasg a gyhoeddodd Perfecta Mancha  (Perffaith Nam) rai blynyddoedd yn ôl a’r bedwaredd gyfrol gennyf i ymddangos yn Sbaeneg a’r Fasgeg.  Mae cyfrolau eraill hefyd wrth gwrs, yn Tsieinëeg, yn Hindi, cerddi  Panjabeg a chyfrol Arabeg mewn llaw. Yr hyn a ddysgais drwy hyn oll yw na ellir atal brwdfrydedd beirdd i gyfieithu ac mae’n ffordd dda, meddai Joseph Clancy wrthyf unwaith, o fireinio eich cerddi eich hun. Golyga hyn eich bod yn diosg pob ymagwedd, gan roi eich cerddi noeth i arall eu gwisgo o’r newydd. Sefyllfa go ryfedd i’r person encilgar o ran greddf ac anian. Daw hyn â thyndra arall i fod wrth arddel y ffaith mai bardd Cymraeg ydw i, yn anad dim arall. Dyma fantra a adroddaf yn gyson i mi fy hun, yn fy nghell tu hwnt i’r teithiau a’r gwyliau llenyddol.

 

 A beth am y gwyliau llenyddol?  Hwyrach y daw taw ar y rhain am sbel go dda (roeddwn i fod i ymddangos a darllen yn Mallorca wythnos yn ôl mewn gŵyl ryngwladol). I mi, mae’n fendith cael bod gartref. A’r hyn sy’n gysur yw y gall technoleg oresgyn yr angen i fod mewn man a lle arbennig gyda’r trefnwyr yn gosod dull newydd o ddarllen ar-lein. A dyma’r dyfodol hwyrach, yn wyneb yr argyfwng amgylcheddol ar wahân i’r feirws. Hwyrach y bydd yn rhoi llai o straen ar feirdd gan fod teithio yn feichus yn aml a minnau’n dianc yn aml i’m stafell mewn gwesty a’i chael yn seintwar. Dim cweit yn ‘Gell Angel’! Eto i gyd, dylwn fod yn ddiolchgar am y mannau rhyfedd yr ymwelais â hwy. Ym aml, gofynnir imi sut beth yw darllen fy ngherddi Cymraeg mewn mannau mor amrywiol â Slofenia, Manila, Sri Lanca, Zimbawbe, Macedonia a Cairo, i enwi hanner dwsin o fannau yn unig. Lleoedd yw’r rhain sy’n amlieithog beth bynnag ac felly’n gyfarwydd â ieithoedd trwy’r trwch. Dyna ichi feirdd sy’n sgrifennu yn Tagalog ym Manila neu Cebuano ar ynys Ilo, neu yn Shona yn Harare. Mae’r ffaith fy mod yn cyfathrebu mewn Saesneg gloyw – diolch i addysg uniaith Saesneg Ysgol Ramadeg y Frenhines Elisabeth yng Nghaerfyrddin – ac eto, yn mynnu ysgrifennu yn fy mamiaith yn rhoi neges o’r newydd i gynulleidfaoedd fel hyn sy’n teimlo’n israddol os nad ydynt yn feirdd ‘Saesneg’. Yn San Francisco o bobman, mewn palas yno, yn darllen gyda deg o feirdd rhyngwladol, cawsom ein rhybuddio i ddarllen yn ein mamiaith yn unig. Gwych. Roedd ganddynt  sgriniau enfawr o’r tu ôl inni a’r Saesneg yn glir yno gan droi’r iaith honno yn eilydd i’r hyn a lefarwyd ar lwyfan. Rhwystredig weithiau i rywun fel fi sydd wedi mwynhau shwfflo a rwfflo cerddi.

 

Esboniaf. Yn rhy aml mewn gwyliau, gwrandewais ar feirdd o’u mamwledydd yn mynd i drafferth wrth ddarllen yn Saesneg. Roedden nhw am fod yn feirdd Saesneg, er mai prin oedd eu gafael ar yr iaith honno. Fy null o ddarllen oedd cyfathrebu yn Saesneg, mewn acen Gymreig wrth gwrs, yna byddwn yn dechrau darllen yn  fy mamiaith ond yn ddisymwth yn darllen y trosiad yn ei grynswth ac yna’n cloi neu’n taflu ambell linell yn ddiarwybod iddynt yn Gymraeg rhwng y trosiad cyflawn. Rhyw ddawns rhwng y ddwy iaith ydyw a hynny heb iddynt golli ystyr y gerdd. Hoffaf sylw Paul Valery unwaith mai dawns yw barddoniaeth, a cherdded a wna rhyddiaith.

 

 

Dyma ymateb tri gwrandäwr tra gwahanol wedi iddynt fy nghlywed. Bachgen bach wyth oed, o deulu o deithwyr yn byw mewn carafán ar gyrion tref yng Nghymru yn fy nghlywed pan oeddwn yn Fardd Plant Cymru. Ysgrifennodd ataf wedyn gan ddweud ‘I liked to listen to you when your voice was going up and down.’ Gofynnodd un arall, myfyriwr o Ogledd Carolina un tro, pan oeddwn yn darllen yno, ‘ Beth sy’n gwneud eich gwaith yn Gymreig?’  Hynny, wedi gwrando ar y trosiadau yn Saesneg  ac er dilyn gweithdy cynganeddu. Ond dyma fyfyriwr Du yn ei ateb gan ddweud – mae hi hefyd fel ni yn ysgrifennu ‘on the edge’, am y lleiafrifoedd ac mewn iaith leiafrifol. Atebodd heb imi orfod agor fy ngheg. A dyma fardd o Rwsia mewn gŵyl yn rhywle, yn yr Wcrain efallai, yn dod i mewn yn hwyr ac yna’n gwrando arnaf gan golli’r ffaith imi ddweud ar gychwyn y darlleniad y byddwn yn darllen yn y ddwy iaith ond heb eu cloi allan o’r un gerdd,  gan haeru y byddwn am iddynt arnofio gyda’r iaith  sy’n estron iddynt. A meddai ‘Why do you always start a poem with this ‘abracadabra’? Ie, taflu hud ar y gynulleidfa oedd fy nod. Onid oeddwn wedi eistedd fy hun mewn myrdd o ddarlleniadau gan aros am … ie, iaith y deallwn, fel  eraill oedd yn aml yn cau eu llygaid nes i’r Saesneg gael ei ddatgan. Un ffordd o osgoi hynny, dybiwn i, oedd drwy chwyldroi eu disgwyliadau. Oni ddywedodd Seamus Heaney unwaith ei fod yn sgrifennu soned ac yna, ‘I rough it up’. Wel, dyna fy null i o rwfflo – yn groes i raen yr ieithoedd mewn darlleniadau y tu allan i Gymru.

 

Darllenais mewn golygyddol yn Planet unwaith i rywun ddweud fy mod wedi dyfeisio dull unigryw o ddarllen o flaen cynulleidfaoedd di-Gymraeg. Gwenaf am iddo gymryd degau o ddarlleniadau ar draws y byd imi sylweddoli bod modd cyfathrebu fel person ac fel ‘bardd’ hefyd.  A hynny, heb golli pwyso’r glorian rhwng gwefr ac arswyd. Amhosib yw cynllunio rhaglen ddarllen yn orofalus gan fod yr elfen o fyrfyfyrio geiriol yn bwysig.  A brawychus. Ond bydd y cerddi yno’n safadwy mewn llyfr i’r darllenydd am iddynt gael eu llunio tu hwnt i amser a lle.

 

Gofynnir yn aml imi pa gynulleidfa yw’r un orau a’r waethaf? Mae gennyf restr fer: Cartagena, yn Colombia gyda miloedd yno a rhai y tu allan yn gwylio ar sgrin; yna, Colombo, Sri Lanka lle roeddwn yn gorfod darllen y tu allan gyda lleisiau parotiaid yn y coed yn ceisio cystadlu â mi. A’r gig waetha’? Clwb nos yng Nghasnewydd yn hwyr y nos gyda dyn meddw yn ceisio dod i’r llwyfan i’m helpu i ddarllen gan weiddi ‘English please’ bob hyn a hyn.

 

Ond gan mai  Gŵyl Caeredin oedd  un o’r mannau cyntaf imi gael fy ngwahodd  yn y nawdegau cynnar i ddarllen, mae’r Alban yn agos at fy nghalon ac mae Gŵyl StAnza, yr Ŵyl Farddoniaeth Ryngwladol fwyaf o’i bath, yn cyrraedd y brig. Bûm yno fel prif ddarllenydd gyda’r nos y llynedd a phum mlynedd cyn hynny. Braf oedd cael mynd yn ôl at grud barddoniaeth Gymraeg. Ond rhagwelaf oes newydd o ddarlleniadau heb symud o’m stafell. Dyna fi’n cael dychwelyd at fy mhriod awydd – o fod yn  feudwy yn fy nghell. Hwyrach nad ‘Cusan drwy hances’ fydd hi o hyn allan i feirdd ledled y byd, ond cusan drwy fwgwd! Rhyfedd fel y mae ambell gerdd yn newid ei hystyr gyda’r blynyddoedd.

Dim mwy o hedfan i’r entrychion i ddarllen efallai. Ond mae yna o hyd, fel bardd, awyr eang rhwng ‘gwingo’ a’i ‘wingo’ hi.

 

Rhannu ar Facebook
Rhannu ar Twitter
Please reload

Cynnyrch Diweddar
Please reload

Dilynwch Y STAMP
  • Facebook Basic Square
  • Twitter Basic Square

Menter gydweithredol a redir yn wirfoddol yw Cylchgrawn Y Stamp, gyda'r bwriad o gynnig llwyfan i leisiau newydd a sefydledig ym mhob cyfrwng creadigol. Gwasg anibynnol newydd yw Cyhoeddiadau'r Stamp. Rydym yn gwerthfawrogi unrhyw roddion all ein gelpu i gyflawni'r nodau a osodwyd yn ein maniffesto. Os hoffech roi arian tuag at elfen benodol o'n gwaith, nodwch hynny yn eich sylwadau wrth yrru'r rhodd.

© 2019 gan Y STAMP. 

  • w-facebook
  • Twitter Clean