Barddoniaeth: Nieuwezijds - Christian Webb

21.07.2020

Nieuwezijds

 

Trwy welydd tryloyw’r

ddrysfa, ar fainc losg

gwelais lanciau bregys

yn diosg - yn dadmer

mewn ager tanbaid.

 

Yn seboni bochau noeth -

rhydd i beidio cuddio.
 

Nid fel y cawodydd cyhoeddus gynt
mewn ystafelloedd newid ysgolion

lle wynebai brodyr dienw’r

llen, yn lle ei gilydd.

Nid yma. Nid yn sgrym yr ystafell stêm,
cyn symud i fwg sigaréts;
tyweli dros dro’n gorchuddio-

I’m from Berlin
medd, wrth gymryd drag
Wales, ja? I know it

Dychwelom i’r
gaerdroia goch:
rhannu chwys, cyn rhannu enwau

anghofiedig erbyn hyn.

 

 

Yn wreiddiol o Abertawe, mae Christian bellach yn byw yng Nghaerdydd ar ôl treulio blwyddyn yn byw yn Amsterdam. Mae ei gerddi diweddaraf yn myfyrio ar brofiadau cwiar, o'r ffisegol i'r emosiynol, wedi'i ysbrydoli gan waith Andrew McMillan, Richard Scott a Thom Gunn yn y Saesneg. Fedrwch chi ddilyn prosiect @poer_poetry ar instagram.

 

Hon yw ei gerdd gyntaf am brofiadau ciwar yn y Gymraeg. Mae'n ddiolchgar i Dyfan Lewis am y cymorth wrth adolygu'r gerdd.

 

Rhannu ar Facebook
Rhannu ar Twitter
Please reload

Cynnyrch Diweddar
Please reload

Dilynwch Y STAMP
  • Facebook Basic Square
  • Twitter Basic Square

Menter gydweithredol a redir yn wirfoddol yw Cylchgrawn Y Stamp, gyda'r bwriad o gynnig llwyfan i leisiau newydd a sefydledig ym mhob cyfrwng creadigol. Gwasg anibynnol newydd yw Cyhoeddiadau'r Stamp. Rydym yn gwerthfawrogi unrhyw roddion all ein gelpu i gyflawni'r nodau a osodwyd yn ein maniffesto. Os hoffech roi arian tuag at elfen benodol o'n gwaith, nodwch hynny yn eich sylwadau wrth yrru'r rhodd.

© 2019 gan Y STAMP. 

  • w-facebook
  • Twitter Clean