>> BLODEUGERDD 2020

Un o amcanion y golygyddion wrth fwrw ati i gyhoeddi blodeugerdd o 100 o gerddi ar gyfer 2020 oedd iddi fod yn gyfrol hygyrch nid yn unig er mwynhad ei darllenwyr, ond fel bod modd iddi gael ei defnyddio fel adnodd dosbarth gyda disgyblion a myfyrwyr. Ein gobaith yw y gall Dweud y Drefn pan nad oes Trefn fod yn ffordd o agor y drws ar yr ystod eang o leisiau sy’n barddoni trwy gyfrwng y Gymraeg i genhedlaeth newydd.

At y diben hwnnw, dyma restr o’r adnoddau a chynigion sydd wedi eu datblygu ochr yn ochr a’r gyfrol. Cysylltwch a ni trwy e-bostio cyhoeddiadau.ystamp@gmail.com i drafod ymhellach.

  • Gostyngiad o 50% i ysgolion a sefydliadau addysgol ar bob copi o’r flodeugerdd ar ol prynu’r cyntaf am y pris llawn.

  • Pecyn Adnoddau 42 tudalen i athrawon yn cynnwys adrannau ar themau, ffurfiau a sut i fynd ati i ddarllen cerdd; gyda chwestiynau ar bob tudalen i ysgogi trafodaethau ar lawr dosbarth. Am ddim i ysgolion a sefydliadau addysgol gyda chopis o’r flodeugerdd

  • Clipiau sain o feirdd Blodeugerdd 2020 yn trafod a darllen y cerddi o’u heiddo sydd wedi eu cynnwys yn y gyfrol. Ar gael i wrando ar ddim yma: https://soundcloud.com/user-342850296-301754070/sets/dweud-y-drefn-pan-nad-oes

  • Clipiau fideo o feirdd Blodeugerdd 2020 yn cyflwyno eu cerddi ar YouTube. Ar gael i wylio am ddim yma: https://www.youtube.com/watch?v=LEuRNAVm03s&list=PL8dLU7jtfseYTp5iqvvtU9AsPsi2Bu7Ul

  • Gweithdai i ysgolion yng nghwmni golygyddion y flodeugerdd, Grug Muse ac Iestyn Tyne. Gweler y ddogfen isod (neu ei agor yma) am fwy o fanylion.