Cyhoeddiadau: Ffosfforws 7+8
Mae dau rifyn nesaf cyfnodolyn Ffosfforws bellach ar gael i’w rhagarchebu o’n siop ar lein.
Cyhoeddiad: Crocodeil yn Berwi Tegell - Non Prys Ifans
Cyhoeddir Crocodeil yn Berwi Tegell, pamffled cyntaf Non Prys Ifans o farddoniaeth, fis Tachwedd eleni.
Galwad agored: Ffosfforws 8
Mae Cyhoeddiadau’r Stamp yn gwahodd beirdd i anfon eu cerddi er ystyriaeth i’w cyhoeddi yn rhifyn Hydref-Gaeaf 2025 cyfnodolyn FFOSFFORWS.
Newyddion: llwyddiant Rhuo ei Distawrwydd Hi
Rhuo ei distawrwydd hi gan Meleri Davies yw enillydd categori Barddoniaeth gwobrau Llyfr y Flwyddyn 2025.
Newyddion: Buddug Watcyn Roberts - golygydd gwadd Ffosfforws 8
“Dwi’n licio sŵn, dwi’n licio patrwm, dwi’n licio odla’ a mymryn o chwara.”
Cyhoeddiad: Dod o hyd i’r geiriau - Mali Elwy
‘Dod o hyd i’r geiriau’ gan Mali Elwy yw Stori Fer y Goron yn Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr 2025, ac fe gyhoeddir y gyfrol yn dilyn y ddefod heddiw fel rhan o gyfres Cyhoeddiadau’r Stamp o bamffledi o waith buddugol eisteddfodau’r Urdd.
Cyhoeddiad: Tywod - Elain Roberts
‘Tywod’ gan Elain Roberts yw casgliad Cerddi’r Gadair yn Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr 2025, ac fe gyhoeddir y gyfrol yn dilyn y ddefod heddiw fel rhan o gyfres Cyhoeddiadau’r Stamp o bamffledi o waith buddugol eisteddfodau’r Urdd.
Cyhoeddiad: Diwedd y Gân – Elin Williams
‘Diwedd y Gân’ gan Elin Williams yw Drama Fer y Fedal yn Eisteddfod yr Urdd Dur a Môr 2025, ac fe gyhoeddir y ddrama fer yn dilyn y ddefod heddiw fel rhan o gyfres Cyhoeddiadau’r Stamp o bamffledi o waith buddugol eisteddfodau’r Urdd.
Cyhoeddiad: Nôl Iaith – clare. e. potter
Bydd Cyhoeddiadau’r Stamp yn rhyddhau casgliad Cymraeg cyntaf y bardd adnabyddus clare e. potter, pamffled dan y teitl Nôl Iaith, fis Gorffennaf eleni.
Cyhoeddiad: Sgwâr – Steff ap Carys
Bydd Cyhoeddiadau’r Stamp yn rhyddhau’r pamffled cyntaf Steff ap Carys, Sgwâr, fis Gorffennaf eleni, ac rydym yn falch o ddatgelu clawr y casgliad ac agor y cyfnod rhagarchebu.
Newyddion: Rhestr Fer Llyfr y Flwyddyn 2025
Hyfrydwch yw cael ar ddeall fod Rhuo ei distawrwydd hi, y gyfrol gyntaf o farddoniaeth Meleri Davies, wedi cyrraedd rhestr fer categori barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn 2025, a weinyddir gan Llenyddiaeth Cymru.
Argraffiad newydd: Rhuo ei distawrwydd hi
Rydym yn falch o gyhoeddi argraffu Rhuo ei distawrwydd hi gan Meleri Davies am y trydydd tro ers rhyddhau’r gyfrol fis Tachwedd 2024.
Cyhoeddiad: Nodiadlyfr bach y wawr - Najwan Darwish
Cyhoeddir cyfrol gyntaf Cyhoeddiadau’r Stamp o farddoniaeth mewn cyfieithiad ym mis Ionawr 2025. Yn Nodiadlyfr bach y wawr, ceir casgliad o bymtheg cerdd gan Najwan Darwish, un o leisiau barddol cyfoes amlycaf Palesteina, wedi’u dethol a’u cyfieithu o’r Arabeg gan Iestyn Tyne a Hammad Rind.
Cyhoeddiad: Ffosfforws 6 - gol. Twm Ebbsworth
Mae Cyhoeddiadau’r Stamp yn falch o gyflwyno chweched rhifyn cyfnodolyn barddoniaeth gyfoes Ffosfforws, gyda Twm Ebbsworth yn camu i sgidiau’r golygydd gwadd.
Newyddion: Silff lyfrau Cyfnewidfa Lên Cymru - Hydref 2024
Dathlu bod dau o gyfrolau’r wasg ar restr y Gyfnewidfa, a nodyn ar Ffair Lyfrau Frankfurt.
Cyhoeddiad: Rhuo ei distawrwydd hi - Meleri Davies
Cyfrol nesaf Cyhoeddiadau'r Stamp yw Rhuo ei distawrwydd hi gan Meleri Davies.
Galwad agored: Ffosfforws 6
Mae Cyhoeddiadau’r Stamp yn gwahodd beirdd i anfon eu cerddi er ystyriaeth i’w cyhoeddi yn rhifyn hydref-gaeaf 2024 cyfnodolyn Ffosfforws.
Newyddion: Twm Ebbsworth - golygydd gwadd Ffosfforws 6
“Dwi eisiau creu casgliad sy’n adlewyrchu’r sbectrwm eang o deimladau mae geiriau’n medru eu hennyn ynom ni.”
Newyddion: Gŵyl Arall 2024
Manylion digwyddiadau a gynhelir gan Gyhoeddiadau’r Stamp yng Ngwyl Arall, Caernarfon eleni.
Cyhoeddiad: Coch - Tegwen Bruce-Deans
‘Coch’ gan Tegwen Bruce-Deans yw Stori Fer y Goron yn Eisteddfod yr Urdd Maldwyn 2024.