Ffrwyth gwaith Iestyn a Grug o griw’r Stamp ydi PenRhydd, a dyma un o’r corneli o’r we lle medrwch chi wrando ar benodau’r podlediad.

Beth yw'r grymoedd sy'n gyrru sgwennwyr i archwilio eu hamgylchfyd, ar lefel corff, cymuned a byd? Yn y gyfres hon o ddeialogau gyda rhai o leisiau mwyaf cyffrous y Gymru greadigol gyfoes, bydd Iestyn Tyne a Grug Muse yn defnyddio drafftiau o waith newydd sbon gan y cyfrannwyr fel man cychwyn i ystyried y pethau hyn.

Cefnogir gan Llenyddiaeth Cymru ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru. Golygwyd y gyfres gan Aled Jones.

Rhifyn diweddaraf

>> Cyfres 1, Pennod 7: Buddug Roberts a Mared Llywelyn

Ym mhennod olaf cyfres gyntaf podlediad PenRhydd, mae Buddug Roberts a Mared Llywelyn yn ymuno gyda Iestyn Tyne. Mae’r ddau sgwennwr, sy’n weithgar iawn o fewn eu cymunedau trwy eu llenyddiaeth, yn cyflwyno drafftiau o waith newydd, cyn mynd ati i sgwrsio am gydweithio, gweithdai, a llawer mwy.

Rhifynnau blaenorol

>> Cyfres 1, Pennod 6: Eluned Gramich a Sara Borda Green

Sgwrs rhwng Grug Muse a dau sgwennwr sy’n mentro y tu hwnt i fyd yr iaith Gymraeg yn eu gwaith; Eluned Gramich sydd hefyd yn ysgrifennu yn Saesneg ac Almaeneg, a Sara Borda Green a ddaw yn wreiddiol o’r Wladfa. Mae’r sgwrs yn crwydro o ffuglen hanesyddol Eluned i’r cronica, ffurf o Dde America y mae Sara yn ceisio ei hefelychu yn ei gwaith.

>> Cyfres 1, Pennod 5: Llŷr Titus a Peredur Glyn

Iestyn Tyne sy’n eistedd i lawr gyda Llŷr Titus a Peredur Glyn, dau awdur sy’n mentro y tu hwnt i realmau realaeth yn eu gwaith. Gan gychwyn, fel yr arfer, gyda drafftiau amrwd o waith sydd ar y gweill, aiff y ddau ati i drafod swyddogaeth crefft, cymhelliant a chynefin yn eu gwaith.

>> Cyfres 1, Pennod 4: Alun Parrington

Sgwrs ychydig yn wahanol i’r penodau arferol y tro hwn, wrth i ddau frodor o Uwchgwyrfai roi’r byd yn ei le; Grug Muse ni a’r sgwennwr comedi, Alun Parrington, sy’n trafod crefft, cymhelliant a chynefin.

>> Cyfres 1, Pennod 3: Dylan Huw a Talulah Thomas

Dylan Huw a Talulah Thomas sy’n gwmni i Grug Muse yn y bennod hon o bodlediad PenRhydd. Gan gychwyn gyda drafftiau o waith sydd gan y sgwennwyr ar y gweill, rydym yn rhoi’r chwyddwydr ar chwareusrwydd gyda iaith a dulliau pytiog o ysgrifennu.

>> Cyfres 1, Pennod 2: Marged Elen a Leo Drayton

Iestyn Tyne sy’n sgwrsio gyda Marged Elen a Leo Drayton, dau o gyd-awduron cyfres Y Pump, am grefft, cymhelliant a chynefin yn ail bennod podlediad PenRhydd. Rydym yn cychwyn fel yr arfer gyda drafftiau o waith sydd ar waith, gan gyffwrdd ar gynefin agos y corff, datgysylltedd, yr hawl sydd gennym i ddweud straeon, a chymaint mwy.

>> Cyfres 1, Pennod 1: Marged Tudur a Steffan Gwynn

Yn y bennod hon o bodlediad PenRhydd, Grug Muse sy’n sgwrsio gyda Marged Tudur a Steffan Gwynn am grefft, cymhelliant a chynefin; gan gychwyn gyda drafftiau amrwd o waith sydd gan y ddau ar y gweill. Mae’r drafodaeth yn crwydro o gerddoriaeth electronig mewn hen chwareli i ysgrifennu am adra; o ddylanwad bardd caeth ar fardd penrhydd i adnabod dy ffordd ar hyd llwybr mynydd yn y niwl.

>> Croeso i bodlediad PenRhydd

Trailer cyfres newydd, a chyfres gyntaf podlediad PenRhydd gyda Grug Muse ac Iestyn Tyne.