Tanysgrifio

〰️

Tanysgrifio 〰️

Yn 2024, bu i Gyhoeddiadau’r Stamp ddechrau gweithio mewn partneriaeth ag Eisteddfod yr Urdd i gynhyrchu pamffledi unigol waith buddugol y prif gystadlaethau llenyddol: Drama fer y Fedal, Cerdd neu Gerddi’r Gadair, a Rhyddiaith y Goron. Buom yn angerddol am y syniad o wneud hyn ers tro, er mwyn rhoi llwyfan teilwng i waith llenyddol Eisteddfod yr Urdd, a chawsom y cyfle i wireddu hynny dros y blynyddoedd diwethaf.

Mae costau cynhyrchu ac argraffu llenyddiaeth yn cynyddu o hyd, ac fe allwch chi felly ddangos eich cefnogaeth i’r fenter trwy danysgrifio i’r gyfres hon, a sicrhau dyfodol cynaladwy i’r gwaith o gyhoeddi - am y tro cyntaf yn amlach na pheidio - waith llenorion ifanc disglair, amrywiol.

Am ddim ond £15 y flwyddyn, cewch:

  • gopi digidol o’r pamffled i’ch cyfeiriad e-bost o fewn awr i ddiwedd y seremoni

  • gopiau o’r 3 pamffled print yn y post yr wythnos wedi’r eisteddfod (ac ad-daliad dan yr amgylchiadau prin o atal unrhyw un o’r gwobrau)

  • eich enw yn ymddangos ar restr yng nghefn yr holl bamffledi, fel arwydd o’n diolchgarwch

Cliciwch ar y botwm SUBSCRIBE i gefnogi heddiw. PayPal yw’r dull mwyaf cyfleus i ni dderbyn taliadau, ond cysylltwch os hoffech dalu drwy drosglwyddiad banc.

CYNNIG TAN DDIWEDD MEHEFIN 2026

Os ydych yn tanysgrifio cyn hanner nos ar 30 Mehefin, byddwch yn derbyn pamffledi 2026 a 2027 (Eisteddfod Bro’r Wenynen, Gwent) o fewn eich cylch taliad cyntaf. Bachwch ar y cyfle heddiw!