Maniffesto

  1. Bwriadwn roi llwyfan i AMRYWIAETH llenyddol a chelfyddydol drwy gyfrwng y Gymraeg, gan ddatblygu ac ehangu ar ein canfyddiad o ystyr ‘amrywiaeth’. Byddwn yn barod i wynebu gwirioneddau anghyfforddus a rhoi clust i feirniadaeth sy’n anodd ei dderbyn; a defnyddio’r wybodaeth honno i dyfu a gwella hygyrchedd ein cyhoeddiadau i gyfranwyr a chynulleidfaoedd o bob cefndir.

  2. Byddwn yn cynnal yr egwyddor o beidio derbyn nawdd cyhoeddus, gan gadw ein hannibyniaeth a’n gwrthrychedd yng nghyd-destun y byd celfyddydol Cymreig. Gweithredwn ar sail ewyllys da a chydweithio.

  3. Cloddio yn ddyfnach am waith a anghofiwyd gan y status quo, gan dderbyn bod gennym ninnau fel golygyddionein rhagfarnau, a gwthio y tu hwnt i’r syniadau hynny. Sicrhau ein bod nid yn unig yn tynnu sylw at y gweithiau hyn,ond yn gwneud yn siŵr eu bod yn hygyrch i genhedlaeth newydd gael mynediad atynt.

  4. Cofio nad oes yn rhaid wrth sêl bendith beirniaid cystadleuaeth, ac mai canran o bobl yn unig sy’n gyfforddus â’r syniad o ‘gystadlu’ â’u gwaith creadigol.

  5. DATHLU pob math o Gymraeg, gan gadw’n driw i lais pob cyfrannwr, a golygu yn ysgafn a sensitif mewn proses sy’n gweithio’r ddwy ffordd. Bod yn agored ein meddyliau ynghylch yr hyn ydyw ‘cywirdeb iaith’, gan dderbyn mai rhywbeth hylifol yw iaith ac ni ddylid deddfu’n haearnaidd yn ei gylch.

  6. Mentro, gyda DEWRDER, i ddweud ein dweud ac ymwrthod â hunan-sensoriaeth a MYNNU GONESTRWYDD mewn byd lle mae codi llais yn erbyn casineb yn parhau yn weithred radical. CYD-SEFYLL â grwpiau sydd yn profi anghyfiawnder yn eu herbyn a bod yn well EIRIOLWYR a CHYNGHREIRIAID i’r bobl hynny. Yn fwy na dim, GWRANDO.

  7. Creu gwaith newydd a gwahanol gan HERIO ein hunain yn ogystal â’r darllenwyr. Dal i fwynhau. Dal i drio pethau newydd.