TAN TRO NESA!!

〰️

TAN TRO NESA!! 〰️

Yn dilyn ffenestr gyflwyno lwyddiannus ym Mai 2025, nid ydym yn derbyn gwaith newydd ar hyn o bryd.

Ond mi allwch chi feddwl ymlaen at y nesa! Cyn i chi fwrw iddi i baratoi gwaith ar ein cyfer, cymrwch olwg ar ein tudalen Cwestiynau Cyffredin er mwyn ymgyfarwyddo â’n gofynion, ein gwerthoedd a’n gweledigaeth.

Yn ein galwadau arferol, rydym yn gofyn i chi gyflwyno:

  • pamffledi barddoniaeth (hyd at 15 cerdd)

  • cyfrolau o farddoniaeth (dros 20 cerdd)

  • gweithiau rhyddiaith byr (ffuglen neu ysgrifau, hyd at 10,000 gair)

  • pamffledi celf (pwyslais ar waith gweledol)

  • sgriptiau dramâu (sy’n ymestyn i uchafswm o oddeutu 10,000 gair; cyhoeddir dramâu yng nghyfres Sgriptiau Stampus, a gallant fod yn ddramâu sydd wedi’u llwyfannu neu beidio)

Dylech anfon:

  • eich enw a’ch cyfeiriad e-bost; does dim angen cynnwys manylion bywgraffiadol, a pheidiwch â chynnwys eich enw o fewn y gwaith creadigol ei hun

  • sampl o 5 tudalen A4, naill ai o ryddiaith, o farddoniaeth, neu waith celf (neu gymysgedd o’r tri!)

  • dylech ddefnyddio ffont maint 12, gyda bylchau dwbl ar gyfer rhyddiaith, a chyflwyno ar ffurf dogfen Word neu PDF

  • hanner tudalen o ddisgrifiad o’r prosiect, neu gyfwerth ar ffurf recordiad sain neu fideo

Dylid nodi fod croeso i chi yrru mwy nag un cynnig, ond y byddwn yn darllen uchafswm o dri, ac na fyddwn yn dewis mwy nag un gyfrol gan yr un awdur o fewn rhaglen gyhoeddi un flwyddyn. Cofiwch fod gweithio ar un cysyniad cryf yn well o lawer na brysio tri gwahanol.

Bydd manylion cyflwyno yn ymddangos yma adeg y ffenestr gyflwyno nesaf.

Mae’n bosib y byddwn yn cysylltu â chi i ofyn am sampl hirach cyn i ni ddod i benderfyniad terfynol.

>> FFENESTRI CYFLWYNO


Nid ydym yn derbyn gwaith y tu allan i’n ffenestri cyflwyno erbyn hyn. Mae hyn oherwydd yr angen i gynllunio ein rhaglen gyhoeddi, ac er mwyn gwneud yn siwr fod pawb sy’n cyflwyno yn cael cyfle teg. 

Gofynnwn felly eich bod yn cadw llygad ar y cyfryngau cymdeithasol ac ar y wefan hon, lle byddwn yn datgan pryd byddwn yn agor ar gyfer cyflwyniadau.