Newyddion: Silff lyfrau Cyfnewidfa Lên Cymru - Hydref 2023

Cyfnewidfa Lên Cymru

Mae tair o gyfrolau Cyhoeddiadau’r Stamp wedi eu dewis ar gyfer Silff Lyfrau flynyddol Cyfnewidfa Lên Cymru, detholiad o lyfrau newydd o Gymru a argymhellir gan y Gyfnewidfa mewn ffeiriau llyfrau rhyngwladol ar gyfer eu cyfieithu i ieithoedd eraill.

Braf iawn yw derbyn y gydnabyddiaeth hon i ddwy gyfrol cyntaf cyfres Sgriptiau Stampus, Croendena gan Mared Llywelyn ac Imrie gan Nia Morais (a gyhoeddwyd ar y cyd gyda chwmni theatr Fran Wen), a Dysgu Nofio, y pamffled diweddaraf o farddoniaeth Iestyn Tyne. Dyma obeithio y bydd cyfle yn y dyfodol felly i weld y gweithiau hyn yn cael eu cyhoeddi mewn ieithoedd eraill.

Rydym yn llongyfarch yr holl awduron sydd wedi’u dewis eleni, gan gynnwys ein Llyr Titus ni (Anfadwaith, Y Lolfa) ac un arall o’n cyfrannwyr rheolaidd ers dyddiau cylchgrawn Y Stamp, Gareth Evans-Jones (gol. Curiadau, Cyhoeddiadau Barddas).

I ddysgu mwy am yr holl lyfrau sydd wedi eu cynnwys fel awgrymiadau, cliciwch yma i ymweld a gwefan y Gyfnewidfa.

Gallwch brynu Croendena, Imrie a Dysgu Nofio gan eich llyfrwerthwr stampus lleol ac o’n siop ar-lein.

Previous
Previous

Newyddion: Miriam Elin Jones - golygydd gwadd Ffosfforws 5

Next
Next

Argraffiad newydd: Ystlum - Elen Ifan