Cyhoeddiad: Lansiad Rhifyn 1 Y STAMP
Seiniwch rhyw fath o utgyrn a thaniwch gwpwl o party poppers… mae gennym GYHOEDDIAD!
Mae’n braf gennym fel golygyddion ddatgelu o’r diwedd manylion lansiad ein rhifyn print cyntaf, a fydd yn Nhafarn y Cwps, Aberystwyth ar y 23ain o Fawrth. Bydd y drysau’n agor am 7.30 ymlaen, gyda’r noson o ddarlleniadau, dathlu, dawnsio a cherddoriaeth yn dechrau am 8.