Aled Lewis Evans
Ganed Aled Lewis Evans ym Machynlleth ym 1961. Fe’i magwyd yn Llandudno, Y Bermo a Wrecsam oherwydd natur grwydrol swydd ei dad fel postfeistr. Mynychodd Ysgol Uwchradd Morgan Llwyd, Wrecsam, ac aeth ymlaen i Brifysgol Cymru Bangor i astudio’r Gymraeg a Saesneg. Cyhoeddodd ei gasgliad cyntaf o gerddi gyda Chyhoeddiadau Barddas ym 1989, ac yn 2019 derbyniodd wobr y Fedwen Lyfrau am gyfraniad oes i fyd cyhoeddi llyfrau Cymraeg. Yn dilyn cyfnodau fel darlledwr, athro uwchradd a thiwtor Cymraeg i Oedolion, daeth yn weinidog ar Gapel y Groes ac Ebeneser yn Wrecsam a Chapel Cymraeg Caer.
Pedwerydd rhifyn cyfnodolyn barddoniaeth Cyhoeddiadau’r Stamp, Ffosfforws, dan olygyddiaeth Carwyn Eckley.
Yn cynnwys cerddi newydd gan Aled Lewis Evans, Beca Davies, Brennig Davies, Buddug Watcyn Roberts, Dyfan Lewis, Ela Pari, Elwyn Caera, Jo Heyde, John G. Rowlands, Katie Gramich, Katrina Moinet, Llio Elain Maddocks, Mari Elen, Siw Harston a Vernon Jones.
£5 (gostyngedig) / £10 (pris arferol) / £25 (copi o Rifyn 3 + noddi ffi un o gyfranwyr Rhifyn 6, gyda’ch enw i ymddangos yn nhu blaen y gyfrol)
(Tudalen enghreifftiol: ‘Bwystfil’ gan Brennig Davies)
Ffosfforws: Rhifyn 4 - Haf 2023
gol. Carwyn Eckley / Cyhoeddiadau’r Stamp 2023
argraffiad riso cyfyngedig gan Biscuits Press, Caerdydd / 36t.