Iwan Tomos Kellett
O Sir Fôn y daw Iwan Tomos Kellett yn wreiddiol, ond mae wedi bod yng Nghaerdydd ers ychydig dros dair blynedd. Yn dilyn graddio mewn Cemeg mae bellach yn astudio gradd Meistr mewn Gwyddoniaeth Archeoleg. Mae ganddo lu o ddiddordebau gan gynnwys canu'r piano, ymchwilio i hanes ardal Marian-glas, crwydro a theithio ac wrth gwrs ysgrifennu.
Pumed rhifyn cyfnodolyn barddoniaeth gyfoes Ffosfforws, dan olygyddiaeth wadd Miriam Elin Jones.
Yn cynnwys cerddi newydd gan Elwyn Caera, Greta Sion, Gruff Gwynn, Iwan Tomos Kellett, Jo Heyde, Katrina Moinet, Lois Elenid, Megan Lloyd (papur), Meleri Davies, Sian Northey, Siân Shakespear, Siôn Pennar, Siw Harston, Tegwen Bruce-Deans a Vernon Jones.
£2.50 (digidol) / £7.50 (print, gostyngiad) / £10 (pris arferol) / £25 (copi o rifyn 5 + noddi ffi un o gyfrannwyr Rhifyn 6, gyda’ch enw i ymddangos yn nhu blaen y gyfrol)
Tudalennau enghreifftiol: Miriam Elin Jones (golygyddol) / Siôn Pennar (‘Ar Dram, Poznán’)
Ffosfforws: Rhifyn 5 – Gwanwyn 2024
gol. Miriam Elin Jones / Cyhoeddiadau’r Stamp 2024
argraffiad riso cyfyngedig gan Biscuits Press, Caerdydd / 32t.