Daw’n wreiddiol o Lanrhystud, ond crwt Aber yw John G. Rowlands yn y bôn. Mae wedi ymgartrefu yn Nhremadog ers oes mochyn.

www.johngrowlands.com

Cynnwys ar-lein

Ffosfforws 4
from £5.00

Pedwerydd rhifyn cyfnodolyn barddoniaeth Cyhoeddiadau’r Stamp, Ffosfforws, dan olygyddiaeth Carwyn Eckley.

Yn cynnwys cerddi newydd gan Aled Lewis Evans, Beca Davies, Brennig Davies, Buddug Watcyn Roberts, Dyfan Lewis, Ela Pari, Elwyn Caera, Jo Heyde, John G. Rowlands, Katie Gramich, Katrina Moinet, Llio Elain Maddocks, Mari Elen, Siw Harston a Vernon Jones.

£5 (gostyngedig) / £10 (pris arferol) / £25 (copi o Rifyn 3 + noddi ffi un o gyfranwyr Rhifyn 6, gyda’ch enw i ymddangos yn nhu blaen y gyfrol)

(Tudalen enghreifftiol: ‘Bwystfil’ gan Brennig Davies)

Ffosfforws: Rhifyn 4 - Haf 2023

gol. Carwyn Eckley / Cyhoeddiadau’r Stamp 2023

argraffiad riso cyfyngedig gan Biscuits Press, Caerdydd / 36t.

Dweud y Drefn pan nad oes Trefn: Blodeugerdd 2020 - gol. Grug Muse & Iestyn Tyne
£12.00

Antholeg o 100 o gerddi Cymraeg gan feirdd cyfoes, i roi ciplun ar farddoniaeth Gymraeg yn y flwyddyn 2020. Gyda chyfraniadau gan Aled Lewis Evans, Ana Chiabrando Rees, Aneirin Karadog, Annes Glynn, Anni Llyn, Anwen Pierce, Cadi Glwys, Caryl Bryn, Catrin Dafydd, Cris Dafis, David Leslie Davies, Dyfan Lewis, Eurig Salisbury, Elen Ifan, Emyr Lewis, Ffion Morgan, Gruffudd Owen, Grug Muse, Gwen Saunders Jones, Gwennan Evans, Gwynfor Dafydd, Hilma Lloyd Edwards, Howard Huws, Hywel Griffiths, Iestyn Tyne, Jacob Morris, Jim Parc Nest, John G. Rowlands, John Williams Bwlchbach, Judith Musker Turner, Llio Elain Maddocks, Llyr Gwyn Lewis, Lowri Hedd, Lyn Erfyl, Manon Awst, Manon Rhys, Mari Sion, Matthew Tucker, Megan Elenid Lewis, Menna Elfyn, Menna Medi, Mererid Hopwood, Miriam Elin Jones, Morgan Owen, Morgan Rhys Powell, Morwen Brosschot, Myfanwy Bennett Jones, Nerys Rees Bowen, Osian Wyn Owen, Osian Rhys Jones, Owain Rhys, Owen Tydur Jones, Philippa Gibson, Rhys Iorwerth, Rhys Trimble, Robert Lacey, Sara Borda Green, Sara Louise Wheeler, Sian Northey, Sion Tomos Owen, Steffan Nicholas, Tudur Hallam a Vernon Jones.

Dweud y Drefn pan nad oes Trefn: Blodeugerdd 2020

Grug Muse & Iestyn Tyne (gol.) / Cyhoeddiadau’r Stamp 2020

ISBN 978-1-9995870-8-6 / 160t. / £12.00

Clawr: Ani Saunders

Ffosfforws 1
from £5.00

Rhifyn cyntaf y cyfnodolyn barddoniaeth newydd sbon gan Gyhoeddiadau’r Stamp: Ffosfforws. Golygwyd y casgliad cyntaf o 15 cerdd gan Ciarán Eynon, ac mae’n cynnwys gwaith gan Alaw Tomos, Aled Lewis Evans, Elen Roberts, Gareth Evans-Jones, Gwenno Gwilym, John G. Rowlands, Manon Wynn Davies, Meleri Davies, Morgan Owen, Morwen Brosschot, Rhys Trimble, Sian Shakespear, Sion Tomos Owen, Sophie Roberts a Vernon Jones.

£5 (gostyngiad) / £10 (pris arferol) / fersiwn ddigidol

Y Stamp: Rhifyn 7 - Gwanwyn 2019
£4.00

Seithfed rhifyn cylchgrawn creadigol Y Stamp, a’r cyntaf ers i Esyllt Lewis ymuno a’r tim golygyddol.

Gyda chyfraniadau gan Efa Blosse-Mason, David Greenslade, Marged Sion, Dan Stevens, Meltem Arikan, Lliwen Glwys, Lleucu Gwenllian, John G. Rowlands, Morgan Alun, Gwynon Mair, Mary Lloyd Jones, Tomos Sparnon, Ruth Richards, Liam Kurmos, Ellis Jones, Morwen Brosschot, Sian Northey, Dyfan Lewis, Ani Saunders, Gwenllian Llwyd, Cadi Dafydd, Elan Mererid Rhys, Owain Evans a Meleri Morgan.

Gydag atodiad arbennig - poster ‘Cardiff to the See’ gan Ani Saunders.

Celf y Clawr: Efa Blosse-Mason

Golygyddion: Grug Muse, Llyr Titus, Iestyn Tyne, Esyllt Lewis

pendil - John G. Rowlands
£8.00

Y gyfrol Gymraeg gyntaf o haiku, senryū a cherddi byrion eraill gan arloeswr o fardd sydd â’r ddawn i grisialu ennyd mewn amser gydag ychydig iawn o eiriau.

pendil

John G. Rowlands / Cyhoeddiadau’r Stamp 2021

ISBN 9781838198916 / 52t. / £8.00

Previous
Previous

Katie Gramich

Next
Next

Ela Pari