Llinos Anwyl
Addysgwr ac ymgyrchydd yw Llinos Anwyl (nhw/eu) sy’n creu celf a llenyddiaeth â chymhelliant gwleidyddol. Maen nhw’n pwysleisio pwysigrwydd rhyngddisgyblaethrwydd wrth lwyfannu pynciau sy’n aml yn cael eu portreadu fel rhai ‘academaidd’ trwy ddulliau llai traddodiadol. Rhwng ceisio cydbwyso eu bywyd rhwng cyfarfodydd, cymdeithasu a chreu, mae Llinos yn ymdrechu i ddad-ddysgu agweddau sydd wedi’u dylanwadu gan gyfalafiaeth. Yn eu bywyd personol, caiff hyn ei amlygu wrth herio eu perthynas gyda rhywedd a rhyw gan hefyd adnabod eu breintiau. Ar sail ehangach mae cyfiawnder cymunedol yn ganolbwynt hollbwysig iddynt.
Trydydd rhifyn cyfnodolyn barddoniaeth Cyhoeddiadau’r Stamp, Ffosfforws, dan olygyddiaeth Llinos Anwyl.
Cerddi newydd gan Alys Hall, Beth Celyn, Esyllt Angharad Lewis, Gwenno Gwilym, Jo Heyde, Lois Medi, Martha Ifan, Meleri Davies, Morgan Owen, Morwen Brosschot, Non Prys Ifans, Rhianwen Roberts, Sam Robinson, Sian Shakespear, Vernon Jones.
£5 (gostyngedig) / £10 (pris arferol) / £25 (copi o Rifyn 3 + noddi ffi un o gyfrannwyr Rhifyn 4, gyda’ch enw i ymddangos yng nghefn y gyfrol)
(Tudalennau enghreifftiol yn cynnwys rhan o gerdd Morwen Brosschot, ‘Rhai cerddi’, ac ysgrif olygyddol Llinos Anwyl)
Ffosfforws: Rhifyn 3 - Gaeaf 2022-23
gol. Llinos Anwyl / Cyhoeddiadau’r Stamp 2023
argraffiad riso cyfyngedig gan Biscuits Press, Caerdydd / 32t.
Casgliad o gollages craff, wedi’i creu o doriadau papur newydd. Ceir yma bamffled perffaith ar gyfer unrhyw ferch neu fachgen ieuanc eu hysbryd sy’n hoffi estheteg ffeministiaidd felys + cyfeiriadaeth ddiwylliannol hallt. CYFYNGEDIG I 100 COPItha an leabhran air fad glè èibhinn — rinn mi gàire os àirde cuid de thursan ’s mi ga leughadh. ’s bochd nach eil e beagan nas fhaide (chan eil e ach 24 duilleagan a dh’fhaid, an ro-ràdh nam measg) […] co-dhiù, ma tha fiù ’s tipyn bach dhen a’ Chuimris agad (aidichidh mi gun robh agam ri dol dhan fhaclair cuid de thursan; le gainnead nam facal tha gach fear dhiubh cudromach), mholainn gu mòr an leabhran seo. (Nathaniel Harrington)
(Mae’r llyfryn yn ei gyfanrwydd yn ddoniol dros ben - bu i mi chwerthin yn uchel sawl tro wrth ei ddarllen. Mae’n drueni nad yw rywfaint yn hirach (dim ond 24 tudalen ydyw, gan gynnwys y rhagair) … beth bynnag, os oes gennych dipyn bach o Gymraeg, hyd yn oed (rydw i’n cyfaddef y bu’n rhaid i mi droi at eiriadur ambell dro; oherwydd prinder y geiriau mae pob un yn bwysig), rydw i’n argymell y gyfrol hon yn gryf.)