Awduron Cyhoeddiadau’r Stamp

Sgroliwch isod i ddysgu mwy am yr awduron sydd wedi cyhoeddi cyfrolau neu bamffledi unigol dan faner Cyhoeddiadau’r Stamp. Diddordeb ymuno a’r rhestr stampus hon? Os oes gennych syniad am gyfrol neu bamffled fyddai’n cyd-fynd ag ethos ac ysbryd ein gwasg, cysylltwch heddiw: cyhoeddiadau.ystamp@gmail.com

Elgan Rhys

Sgriptiau Stampus 03: Woof [2024]

Ar ôl treulio degawd yng Nghaerdydd, mae Elgan bellach yn byw yng Nghaernarfon. Mae’n sgwennu a chyd-greu prosiectau theatr (Dy Enw Marw / Your Name is Dead, 2024; Branwen: Dadeni, 2023; Llyfr Glas Nebo, 2020) a llenyddol (Y Pump, 2021).

Awdur, bardd a dramodydd o Gaerdydd yw Nia Morais, sy’n sgwennu am hunaniaeth, hunan-hyder, hud a lledrith ac arswyd. Nia yw Awdur Preswyl Theatr y Sherman, ac mae hi wedi gweithio gyda’r theatr i ysgrifennu Crafangau/Claws, addasiad o A Midsummer Night’s Dream (ar y cyd â Mari Izzard), ac Imrie. Hi hefyd oedd awdur Betty Campbell — Darganfod Trebiwt gyda Mewn Cymeriad a Theatr Genedlaethol Cymru. Nia yw Bardd Plant Cymru 2023-2025 ac mae hi hefyd yn gweithio fel cyfieithydd. Mae’n sgwennu’n ddwyieithog i blant ac oedolion.

Siân Melangell Dafydd

A’r Ddaear ar Ddim [2023]

Daw Siân Melangell Dafydd o ardal y Bala yn wreiddiol, ond mae wedi byw yn yr Alban, Llundain, yr Eidal a Ffrainc cyn dod adref eto. Egin nofel yw A’r Ddaear ar Ddim, fydd yn chwaer nofel i Filò (Gomer, 2020).

Elen Ifan

Ystlum [2022]

Mae Elen wedi bod yn cyhoeddi ei barddoniaeth drwy’r cyfrif Instagram @ystlum ers 2019. Mae hi’n byw yng Nghaerdydd, yn darlithio yn Ysgol y Gymraeg, Prifysgol Caerdydd, ac yn dal i weithio ar ei gardd.

John G. Rowlands

pendil [2021]

Daw John G. Rowlands o Lanrhystud yn wreiddiol. Cafodd ei addysg yn Aberystwyth ac yng ngholegau celf Caerdydd, Bryste a Chaerfyrddin. Bu’n athro celf yn Buxton, Ystradgynlais ac Aberystwyth cyn cael ei benodi yn Swyddog Celf Adran Addysg yr Amgueddfa Genedlaethol yng Nghaerdydd rhwng 1990 a 1996. Ers hynny, bu’n potshian a phaent a geiriau yn Nhremadog. pendil [2021] yw’r casgliad cyntaf o haiku yn y Gymraeg.

Mae Grug yn sgwennwr, golygydd ac ymchwilydd o Ddyffryn Nantlle. Mae’n un o gyd-sylfaenwyr a chyd-olygyddion Cyhoeddiadau’r Stamp. Cyhoeddwyd ei chasgliad cyntaf o farddoniaeth, Ar Ddisberod, gan Barddas yn 2017. Mae’n un o olygyddion Welsh [Plural] (2022), casgliad o ysgrifau ar ddyfodol Cymru.

Llyr Titus

Adra [2019]

Un o Fryn Mawr gerllaw Sarn ym Mhenrhyn Llŷn yw Llŷr Titus. Enillodd ei gyfrol gyntaf, nofel ffuglen wyddonol ar gyfer pobl ifainc, Gwalia, wobr Tir na Nog yn 2016. Mae Llŷr hefyd yn ddramodydd; llwyfannwyd ei ddrama Drych gan gwmni’r Frân Wen yn 2015 ac mae’n un o sylfaenwyr Cwmni drama’r Tebot. Mae'‘n un o gyd-sylfaenwyr cylchgrawn Y Stamp a Chyhoeddiadau’r Stamp. Cyhoeddodd ei nofel gyntaf i oedolion, Pridd, yn 2022.

Hen Bapur Newydd

Hen Bapur Newydd [2019]

Llinos Anwyl sy’n gyfrifol am brosiect Hen Bapur Newydd. Ymddiddora mewn dylanwad cymdeithasol geiriau, a chyhoedda eu harbrofion ar @henbapurnewydd. Eu prif ddylanwadau yw’r symudiad Dada, Fluxus, celf cyffesgell, a cherddi concrit.

O Ferthyr Tudful y daw Morgan Owen yn wreiddiol, ac mae stamp y lle hwnnw yn gryf ar lawer o’i waith. Mae wedi bod yn rhan o brosiectau ‘Awduron wrth eu Gwaith’ Gŵyl y Gelli a ‘Her 100 Cerdd’ Llenyddiaeth Cymru. Bu’n fardd preswyl Arddangosfa Bensaernïaeth y Lle Celf yn Eisteddfod Genedlaethol 2018, ac yn Fardd y Mis Radio Cymru yn ystod 2019.

*Gwobr Michael Marks 2019

Mae Mared Llywelyn yn ddramodydd, yn sgwennwr, ac yn cynnal gweithdai amrywiol. Mae’n aelod o Gwmni Tebot, sy’n ysgrifennu, cyfarwyddo a pherfformio gwaith newydd gyda’r nod o ddarparu adloniant i bobl yng nghalon eu cymunedau. Mae hi hefyd yn Swyddog Addysg a Gwirfoddoli gyda phrosiect Plas Carmel yn Anelog, Llŷn.

Mae Iestyn yn llenor, yn gerddor, yn olygydd ac yn gyfieithydd; daw o Lyn yn wreiddiol ond mae bellach wedi ymgartrefu yng Nghaernarfon. Ef yw bardd preswyl cyfredol yr Eisteddfod Genedlaethol, ac mae wedi ennill coron a chadair Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd. Mae’n un o olygyddion Welsh [Plural] (2022), casgliad o ysgrifau ar ddyfodol Cymru.

Mae Sam Robinson yn fugail ac yn fardd o Fro Ddyfi. Mae o hefyd yn gwneud seidr ac yn chwarae’r bodhrán gydag Osian Morris, Cerys Hafana a Trafferth mewn Tafarn. Mae’n aelod o dim Y Llewod Cochion ar Dalwrn y Beirdd.

Daw Llio o Lan Ffestiniog yn wreiddiol, ond mae bellach yn byw yng Nghaerdydd. Mae hi’n rhannu ei cherddi ar Instagram (@llioelain) ac yn 2020, fe gyhoeddodd ei nofel gyntaf, Twll Bach yn y Niwl, a gyrhaeddodd restr fer ffuglen Gwobr Llyfr y Flwyddyn 2021.

Morwen Brosschot

Gwrando [2020]

Cafodd Morwen Brosschot ei geni a’i magu yn Llanbedrog, ac mae wedi byw yn Llŷn ar hyd ei hoes. Mae ein perthynas â lle a’r byd naturiol a’r ymdrech i fynegi a chrisialu hyn yn codi ei ben yn gyson yn ei gwaith. Mae wrth ei bodd yn creu ac arbrofi, yn enwedig gyda chyfuno delweddau a geiriau.

Mae Rhys Iorwerth yn byw ac yn gweithio yng Nghaernarfon fel bardd, cyfieithydd ac ysgrifennwr. Astudiodd y Gymraeg ym Mhrifysgol Caerdydd lle enillodd radd BA yn 2004 ac MA yn 2005. Enillodd y Gadair yn Eisteddfod Genedlaethol Cymru Wrecsam a'r Fro 2011.

*Gwobr Michael Marks 2020

Cris Dafis

Mudo [2019]

Bardd ac awdur Cymreig a ddaw'n wreiddiol o Lanelli yw Cris Dafis. Mae'n byw ac yn gweithio fel cyfieithydd yng Nghaerdydd. Mae'n golofnydd rheolaidd i gylchgrawn Golwg. Cyhoeddodd ei gyfrol cyntaf o gerddi, Ac Ystrydebau Eraill, fel rhan o gyfres Beirdd Answyddogol Gwasg Y Lolfa ym 1988.

O Amlwch ym Môn y daw Caryl Bryn. Graddiodd â BA o Ysgol y Gymraeg Prifysgol Bangor yn 2017 cyn graddio â MA o’r un Ysgol yn 2020. Fis Hydref 2018, cymerodd ran yn Her 100 Cerdd Llenyddiaeth Cymru, mae'n gyn-aelod o grŵp barddol benywaidd Cywion Cranogwen sydd yn teithio ledled Cymru â'u sioeau amlgyfrwng, ac yn gyn-aelod o dîm Y Chwe Mil ar raglen Talwrn y Beirdd. Roedd yn Fardd y Mis Radio Cymru ar gyfer Ebrill 2019. Daeth yn drydydd yng nghystadleuaeth y Gadair yn Eisteddfod yr Urdd 2020-21.

*Enillydd categori Barddoniaeth Llyfr y Flwyddyn 2020