Adolygiadau
Ro’n i wedi gwirioni ar hon o’r darlleniad cynta’, ond o’n i angen ei darllen hi eto, ac eto, ac eto … mae ’na gyfuniad bendigedig yna o’r traddodiadol - sut mae’n defnyddio chwedloniaeth a hanesion, a straeon tylwyth teg ein diwylliant ni - ond hefyd gweledigaeth hynod o fodern - mae’n bersonol, mae’n amserol, ac yn hynod o ffresh. (Gwion Hallam, Stiwdio, BBC Radio Cymru)
Mae ’na rywbeth cyfareddol yn y cerddi yma. Delweddau trawiadol, yn enwedig yn y defnydd cyson o ddwr, a llygad craff yn nodi’r manylion. Mae’r cyfan yn dal bywyd rhwng realiti a breuddwyd rhywffordd, sy’n aml sut mae bywyd yn teimlo go iawn, sbo. (Rhodri Jones)