Mae Diffwys Criafol yn sgwenwraig anarchaidd anhysbys. Wedi tyfu i fyny yn symud tŷ yn rheolaidd, mae’n hanu o Lanbobman / Nant Nunlle – o’r Cymoedd i Wynedd. Mae’n byw heddiw, fel sawl un dadwreiddiedig, yng Nghaerdydd – yn byw bywyd brechdan, fel llenwad amwys rhwng tafell o fara frad-am-y-fro a chrystyn euog-foneddigeiddio. Mae ei hysgrifau i’w canfod ar lein ac mewn ambell gasgliad a chylchgrawn, ond dyma’i chyfrol unigol gyntaf.