Sgriptiau Stampus 04: Dynolwaith - Leo Drayton
Dynolwaith yw’r bedwaredd gyfrol yng nghyfres Sgriptiau Stampus, sy’n rhoi platfform i ddramau cyfoes y Gymraeg. Fe’i cyhoeddir ar y cyd gyda chwmniau theatr Fran Wen a’r Sherman, fu ar daith gyda chynhyrchiad o’r ddrama (gyda’r dramodydd Leo Drayton yn chwarae rhan Jac) yn nhymor yr Hydref 2025.
Dynolwaith yw drama lwyfan lawn gyntaf Leo Drayton, ac mae’n sioe un-dyn sydd ar un waith yn fregus a chignoeth ac yn gynnes ac yn gorlifo o hiwmor a chariad. Wrth inni ddilyn bywyd dyn traws ifanc am bum mlynedd ffurfiannol yn ei arddegau hwyr, dyma’r byd trwy lygaid Jac, a Jac trwy lygaid y byd. Rhwng y stori ingol a llais barddonol, egniol, amlhaenog yr awdur, dyma ddarn o lenyddiaeth sy’n byrlymu, heb golli dim o ddwyster a phwysigrwydd y themau sydd dan sylw.
Gyda ffotograffau o’r cynhyrchiad gan Craig Fuller a Mark Douet, a rhagair gan Gethin Evans a Kaley Roberts, cyfarwyddwr a chyfarwyddydd cynorthwyol y sioe.
Sgriptiau Stampus 04: Dynolwaith
Leo Drayton / Cyhoeddiadau’r Stamp 2025
ISBN 978-1-0682167-5-6 / 72t. / £8.00