Daniel Evans o Horeb, Llandysul yw enillydd y dwbl – y Gadair a’r Goron – yn Eisteddfod CFfI Cymru 2026, a hynny ‘gytre’ yng Ngheredigion. Ef yw’r ail ers cyflwyno’r ddwy wobr ar wahân i’w hennill yn yr un flwyddyn.
Aelod yng Nghlwb Pontsian, Ceredigion yw Daniel, a gafodd ei addysg ysgol yn Ysgol Gynradd Aberbanc ac Ysgol Bro Teifi, Llandysul. Yn dilyn cyfnod fel swyddog gweinyddol a marchnata i CFfI Ceredigion, mae bellach yn gweithio ym Meddygfa San Pedr, Llandysul.
Dywedodd beirniad y Gadair, Gwenallt Llwyd Ifan, fod ‘Bwlch’ yn gerdd ‘gynnil, enigmatig gan fardd sydd â’r ddawn i weld ystyr dyfnach mewn pethau bach bob dydd’. Ac am ‘Y Chwiban Olaf’, dywedodd Luned Mair – cyn-enillydd Cadair CFfI Cymru ei hun ar ddau achlysur – fod yma stori sy’n dod ‘yn fwy meistrolgar a theimladwy gyda phob darlleniad’.
Wrth dderbyn ei wobrau, diolchodd Daniel i’w athrawon yn ysgolion Aberbanc a Bro Teifi, lle taniwyd ei ddiddordeb mewn llenyddiaeth; i’w rieni ac i’w gyd-aelodau. Roedd ei ddiolch mwyaf, serch hynny, i Elen Davies a Naomi Nicholas-Jones am eu holl gefnogaeth, eu hanogaeth a’u ffydd ynddo – dwy a fu’n gefn mawr iddo.
Gallwch archebu copi o Daw’r Geiriau’n Wylanod o’n siop ar-lein ar ffurf cyfrol brint neu ddigidol (cliciwch isod). Bydd nifer o siopau llyfrau ar draws y wlad hefyd yn stocio’r pamffled o’r wythnos nesaf ymlaen.Ef yw’r ail ers cyflwyno’r ddwy wobr ar wahân i’w hennill yn yr un flwyddyn.
Aelod yng Nghlwb Pontsian, Ceredigion yw Daniel, a gafodd ei addysg ysgol yn Ysgol Gynradd Aberbanc ac Ysgol Bro Teifi, Llandysul. Yn dilyn cyfnod fel swyddog gweinyddol a marchnata i CFfI Ceredigion, mae bellach yn gweithio ym Meddygfa San Pedr, Llandysul.
Dywedodd beirniad y Gadair, Gwenallt Llwyd Ifan, fod ‘Bwlch’ yn gerdd ‘gynnil, enigmatig gan fardd sydd â’r ddawn i weld ystyr dyfnach mewn pethau bach bob dydd’. Ac am ‘Y Chwiban Olaf’, dywedodd Luned Mair – cyn-enillydd Cadair CFfI Cymru ei hun ar ddau achlysur – fod yma stori sy’n dod ‘yn fwy meistrolgar a theimladwy gyda phob darlleniad’.
Wrth dderbyn ei wobrau, diolchodd Daniel i’w athrawon yn ysgolion Aberbanc a Bro Teifi, lle taniwyd ei ddiddordeb mewn llenyddiaeth; i’w rieni ac i’w gyd-aelodau. Roedd ei ddiolch mwyaf, serch hynny, i Elen Davies a Naomi Nicholas-Jones am eu holl gefnogaeth, eu hanogaeth a’u ffydd ynddo – dwy a fu’n gefn mawr iddo.
Gallwch archebu copi o Daw’r Geiriau’n Wylanod o’n siop ar-lein ar ffurf cyfrol brint neu ddigidol (cliciwch isod). Bydd nifer o siopau llyfrau ar draws y wlad hefyd yn stocio’r pamffled o’r wythnos nesaf ymlaen.
Daw’r Geiriau’n Wylanod
Daniel Evans / Cyhoeddiadau’r Stamp 2026
ISBN 978-1-0655852-0-6 / 28t. / £6.00
Celf y clawr: Sara Lleucu
Tudalennau enghreifftiol: