Newyddion: ‘Medwn o gnydau’r Mudiad’

Cadair a Choron Eisteddfod 2026 ar y Mynydd Bach (Llun Meleri Jones)

Eleni am y tro cyntaf, bydd Cyhoeddiadau’r Stamp yn cyhoeddi pamffled o waith buddugol y gadair a’r goron yn Eisteddfod CFfI Cymru. Os bydd teilyngdod, bydd y gyfrol ar werth yn syth wedi’r seremoni ddwbl ar lwyfan Pafiliwn Bont, Pontrhydfendigaid ar bnawn Sadwrn, 21 Tachwedd.

Dadorchuddiwyd y gadair o waith Bleddyn ac Owain Thomas, a choron Gemwaith Bowen, mewn digwyddiad arbennig yn Llyfrgell y Dref Aberystwyth neithiwr (nos Fercher 4 Tachwedd).

Mae Cyhoeddiadau’r Stamp yn credu’n gryf fod llenorion ifanc nid yn unig yn haeddu cael eu dathlu a’u gwobrwyo am eu haddewid, ond yn haeddu darllenwyr i’w gwaith, a chyfleoedd i gyhoeddi. Bu modd i ni gynnig y pethau hynny yn achos prif enillwyr llenyddol Eisteddfod yr Urdd ers rhyw dair blynedd bellach, ac rydym yn dra diolchgar i aelodau a swyddogion CFfI Ceredigion, sy’n gwesteio Eisteddfod CFfI Cymru eleni, am ein gwahodd i drafod a gwireddu eu syniad o gyhoeddi’r gweithiau buddugol.

Yr artist o Langwyryfon, Sara Lleucu, sydd wedi ei chomisiynu i greu gwaith celf ar gyfer y clawr.

 

Gan mai gwasg annibynnol, wirfoddol yw Cyhoeddiadau’r Stamp, rydym bob amser yn gofyn i’r sawl sydd â’r modd ystyried rhagarchebu ein cyfrolau er mwyn helpu gyda’r costau cynyddol o gynhyrchu a chyhoeddi deunydd print.

Trwy ragarchebu copi caled, byddwch hefyd yn derbyn PDF drwy e-bost o’r gwaith buddugol, yn syth wedi i enwau’r enillwyr gael eu cyhoeddi o lwyfan yr eisteddfod.

Mae rhagarchebion Cerdd y Gadair a Rhyddiaith y Goron bellach ar agor.

Eisteddfod CFfI Cymru, Ceredigion 2026 (teitl i’w gadarnhau)

CFfI Cymru / CFfI Ceredigion / Cyhoeddiadau’r Stamp 2026

c24t.  / £6.00

Celf y clawr: Sara Lleucu

 

*dalier sylw: yn yr achos prin o ddiffyg teilyngdod, ad-delir pob rhagarcheb yn llawn.

 

Next
Next

GALWAD AGORED: Ffosfforws 9